minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Eglwys Glanogwen: Dathlu 170 mlynedd

Mae Eglwys Glanogwen ym Methesda, a gysegrwyd ym 1856, yn nodi ei phen-blwydd yn 170 oed gyda rhaglen o ddigwyddiadau cymunedol dros Fai a Mehefin 2026. Mae’r rhaglen yn dod â chodi arian, cerddoriaeth, hanes lleol a straeon ynghyd, gyda gweithgareddau’n cael eu cynnal yn yr eglwys ac yn cynnwys perfformwyr a siaradwyr lleol.

Mae’r eglwys wedi’i lleoli o fewn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru, sy’n adlewyrchu hanes diwydiannol a chymdeithasol yr ardal yn ogystal â’i thraddodiadau crefyddol cryf.

Daw’r dathliadau ar adeg pan fo’r eglwys wedi derbyn grant CHERISH gwerth £5,000 gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi. Bydd y cyllid yn galluogi astudiaeth ddichonoldeb lawn i asesu atgyweiriadau a datblygiad posibl y safle yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys archwilio sut y gall y gofod barhau i gefnogi addoliad tra’n darparu ar gyfer defnydd cymunedol a diwylliannol ehangach. Mae’r meysydd sy’n cael eu hystyried yn cynnwys gwell mynediad, cyfleusterau newydd megis cegin a thoiledau, ac opsiynau i ddefnyddio gwahanol rannau o’r adeilad ar yr un pryd. 

Bydd yr astudiaeth yn sail broffesiynol ar gyfer cynllunio dyfodol hirdymor yr eglwys.

Ymunwch â Gweinidogaeth Ardal Bro Ogwen ar gyfer y dathliadau hyn a darganfod mwy am Eglwys Glanogwen.

Dydd Gwener 1 Mai 2026

Calan Mai – digwyddiad codi arian
Eglwys Glanogwen, Bethesda

4.00pm
Stondinau, cacennau, raffl, te a chawl

7.00pm
Adrodd straeon: Sacred Herbs of Britain (oed 8+)

Bydd yr arian a godir yn cefnogi prosiect toiled compost.


Dydd Gwener 22 Mai 2026

Gŵyl Melangell
Eglwys Glanogwen, LL57 3NL

7.00pm

Noson o straeon, cerddoriaeth a barddoniaeth gyda Elaine Hughes a Claire Mace.

Tocynnau: £10
Elw: Apêl Glanogwen a MAP


Dydd Iau 11 Mehefin 2026

Sgwrs: Hanes eglwysi Anglicanaidd Dyffryn Ogwen
Eglwys Glanogwen

6.30pm

Sgwrs gan Dr Dafydd Roberts. Cynhelir y digwyddiad yn Gymraeg gyda chyfieithu ar gael.

Bydd te a chacen yn dilyn.


Dydd Gwener 26 Mehefin 2026

Cyngerdd: Côr y Penrhyn
Eglwys Crist, Glanogwen, Bethesda

7.00pm

Tocynnau: £10

Cymraeg

Eglwys Glanogwen: 170th anniversary events

Eglwys Glanogwen in Bethesda is marking its 170th anniversary with a programme of community events across May and June 2026. 

The programme brings together fundraising, music, local history and storytelling, with activities taking place at the church and involving local performers and speakers.

The church stands within the Slate Landscape of Northwest Wales UNESCO World Heritage Site, reflecting the area’s industrial and social history and its strong religious traditions.

The anniversary comes as the church has secured a £5,000 CHERISH grant from the National Churches Trust. The funding will enable a full feasibility study to assess repairs and future development of the building. This includes exploring how the space can continue to support worship while also accommodating wider community and cultural use. Areas under consideration include improved accessibility, new facilities such as a kitchen and toilets, and options for using different parts of the building at the same time. 

The study will provide a professional basis for planning the church’s long-term future.

Please join Bro Ogwen Ministry Area for these celebrations and find out more about the history of Eglwys Glanogwen.

Friday 1 May 2026

Calan Mai – fundraising event
Eglwys Glanogwen, Bethesda

From 4.00pm
Stalls, cakes, raffle, tea and soup

7.00pm
Storytelling: Sacred Herbs of Britain (age 8+)

Funds raised will support a compost toilet project.


Friday 22 May 2026

Gŵyl Melangell
Eglwys Glanogwen Church, LL57 3NL

7.00pm

An evening of storytelling, music and poetry with Elaine Hughes and Claire Mace.

Tickets: £10
Proceeds: Apêl Glanogwen Appeal and MAP


Thursday 11 June 2026

Talk: History of the Anglican Churches of the Ogwen Valley
Eglwys Glanogwen

6.30pm

Talk by Dr Dafydd Roberts. The event will be held in Welsh with translation available.

Tea and cake will follow.


Friday 26 June 2026

Concert: Côr y Penrhyn
Eglwys Crist, Glanogwen, Bethesda

7.00pm

Tickets: £10