minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Offeiriad a diacon newydd i’w hordeinio yng Nghadeirlan Bangor

Bydd dau ymgeisydd yn cael eu hordeinio yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor ddydd Sadwrn 27 Mehefin am 11am.

Bydd cyn-Archesgob Cymru, Barry Morgan, yn ordeinio Naomi Wood yn ddiacon i wasanaethu ym Mro Tysilio, tra bydd Karen Morris yn cael ei hordeinio’n offeiriad wrth iddi barhau â’i gweinidogaeth ym Mro Dwylan.

Naomi Wood

Mae ordeinio yn foment arwyddocaol ym mywyd yr Eglwys, gan nodi ymrwymiad cyhoeddus i weinidogaeth ordeiniedig a gwasanaeth.

Bydd teulu, ffrindiau, clerigwyr ac aelodau o’r ardaloedd gweinidogaeth lleol yn ymgynnull yn y Gadeirlan ar gyfer y gwasanaeth, ac mae croeso i bawb ddod i’r achlysur llawen hwn ym mywyd yr Esgobaeth.

Cyn cael eu hordeinio, bydd Naomi a Karen yn cymryd rhan mewn encil cyn-ordeinio dan arweiniad y Parchg Nia Williams yng Nghanolfan Loreto, Llandudno. Bydd yr encil yn cynnig amser ar gyfer gweddi, myfyrio a pharatoad ysbrydol cyn y gwasanaeth.

Dywedodd y Parchg Alex Mayes, Cyfarwyddwr Gweinidogaeth Esgobaeth Bangor: “Rydym wrth ein bodd dros Naomi a Karen wrth iddynt baratoi ar gyfer y cam pwysig nesaf hwn yn eu gweinidogaeth. Mae wedi bod yn fraint gweld eu galwedigaeth yn datblygu drwy’r broses ddirnadaeth a ffurfio, ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi wrth iddynt ddechrau’r bennod newydd hon.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r Parchg Nia Williams am arwain yr encil cyn-ordeinio, sy’n cynnig amser gwerthfawr ar gyfer gweddi, myfyrio a pharatoi cyn ordeinio.

“Cadwch Naomi, Karen a phawb sy’n ymwneud â’r achlysur arbennig hwn yn eich gweddïau.” 


Trefniadau

Gwahoddir clerigion a gweinidogion lleyg i wisgo fel y canlyn – offeiriaid a diaconiaid mewn alb a stôl wen, a gweinidogion lleyg (darllenwyr) mewn cassog, gwenwisg a sgarff, a gweinidogion trwyddedig lleyg eraill y wisg priodol ar gyfer eu swyddogaeth. Bydd yr ymwisgo yn Nhŷ Deiniol ar gyfer POB clerig ac LLM, ac eithrio’r rhai sy’n cymeryd rhan uniongyrchol yn y gwasanaeth.

Rhowch wybod i ni os oes gennych ofynion arbennig neu unrhyw beth a fydd yn eich galluogi i fod yn gyfforddus yn ystod y gwasanaeth a’i fwynhau. Mae toiledau ar ochr chwith yr eglwys gadeiriol wrth edrych tuag at yr allor, a bydd llyfrynnau print bras ar gael. Mae croeso mawr i blant, a bydd gennym weithgareddau penodol ar eu cyfer i’w diddanu.

Bydd rhywfaint o seddi wedi’u neilltuo ar gyfer yr ymgeiswyr a’u teuluoedd; fel arall, bydd digon o seddi ar gael i bawb sy’n dymuno dod.

Dim ond i’r rhai ag anghenion symudedd penodol y bydd parcio ar gael. I archebu lle, cysylltwch â ni’n ar TomosDobson@cinw.org.uk. Mae nifer o feysydd parcio yng nghanol Bangor, o fewn pellter cerdded i’r eglwys gadeiriol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cymraeg

New priest and deacon to be ordained at Bangor Cathedral

Two candidates will be ordained at St Deiniol's Cathedral in Bangor on Saturday 27 June at 11am.

Former Archbishop of Wales Barry Morgan will ordain Naomi Wood to the diaconate to serve in Bro Tysilio, while Karen Morris will be ordained to the priesthood as she continues her ministry in Bro Dwylan.

Karen Morris

Ordinations are a significant moment in the life of the Church, marking a public commitment to ordained ministry and service.

Family, friends, clergy and members of local ministry areas will gather at the Cathedral for the service, and all are welcome to attend this joyful occasion in the life of the Diocese.

Ahead of the ordinations, Naomi and Karen will take part in a pre-ordination retreat led by Revd Nia Williams at the Loreto Centre. Llandudno. The retreat will offer time for prayer, reflection and spiritual preparation before the service.

RevdAlex Mayes, Director of Ministry for the Diocese of Bangor, says, “We are delighted for Naomi and Karen as they prepare for this important next step in their ministry. It has been a joy to see their vocation develop through the discernment and formation process, and we look forward to supporting them as they begin this new chapter.

“We are also grateful to Revd Nia Williams for leading the pre-ordination retreat, which offers valuable time for prayer, reflection and preparation ahead of ordination.

“Please keep Naomi, Karen and all involved in your prayers as we prepare for this special occasion.”


Arrangements

Clergy and LLMs are invited to robe – priests and deacons in alb and white stole, LLMs in cassock, surplice and scarf or if not Readers, the dress relevant to their ministry. Robing will take place at Tŷ Deiniol for ALL clergy and LLMs apart from those directly involved in the altar party.

Please let us know if you have any requirements or anything that will make it possible for you to participate fully in the service. There are toilets to the left of the cathedral as you look towards the altar and large print booklets will be available. Children are very welcome and we will have activities for them to enjoy in the pews.

There will be some reserved seating for the candidates and their families, however there will be plenty of unallocated seating for all who want to come.

Parking will only be available for those who have particular mobility needs. To book a space please contact us directly on TomosDobson@cinw.org.uk. There are numerous car parks in the centre of Bangor, within walking distance of the cathedral. For any further enquiry please contact us.