minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Llythyr i'r Esgobaeth

Annwyl gyfeillion,

Diolch i chi i gyd am eich negeseuon o gefnogaeth a dymuniadau da a hefyd eich gweddiau. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at eich gwasanaethu a gweithio gyda chi mewn rôl newydd a gwahanol. Mae hwn yn lythyr ymarferol yn bennaf, yn cynnwys gwybodaeth a fydd yn ddefnyddiol i chi yn eich gwahanol rolau.

Dyddiadau

Roeddwn i eisiau rhoi gwybod i chi am rai dyddiadau:

  • Synod Sanctaidd 9 Medi – rywbryd gyda’r nos yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd yn ystod y Corff Llywodraethol.
  • Ordeinio yn Esgob yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd 12fed o Fedi.
  • Sefydlu yn Eglwys Gadeiriol Bangor 19eg o Fedi am 2pm.

Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn maes o law, yn enwedig o ran amseriadau a’r trefniadau ynghylch faint o le sydd wedi’i neilltuo i ni yn y gwahanol ddigwyddiadau.

Os yw o gymorth i chi, neu os oes gennych gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â mi. Fodd bynnag, byddaf yn canolbwyntio dros yr haf ar y Gadeirlan, yn cwblhau ein gwaith gyda’r Bwrdd Goruchwylio oyn ymateb i argymhellion yr adolygiadau, fel y bwriadwyd ym mis Medi, ac yn ei hanfod yn gweithio allan fy nghyfnod rhybudd. O’r 1af o Fedi ymlaen, bydd Canon Tracy Jones yn Ddeon Dros Dro, gyda chefnogaeth y tîm yn y gadeirlan yn ogystal â chydweithwyr ar y Cabidwl. Hoffwn hefyd ddechrau cynllunio o fis Medi ymlaen i ymweld â phob Bro dros y flwyddyn a hanner nesaf.

Cynhadledd Esgobaethol

Cynhelir ein Cynhadledd Esgobaethol ddydd Sadwrn 10fed o Hydref, o 10.00am i 4.00pm, yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Rwyf yn edrych ymlaen i ymgynnull fel Esgobaeth ac at y cyfle i addoli gyda’n gilydd, dathlu’r cyfan y mae Duw yn ei wneud yn ein plith, a dechrau ystyried y ffordd ymlaen. 

Bydd hefyd nifer o faterion llywodraethu a chyllid i ni eu hystyried, gan adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei arwain gan Joanna Thomas, ein Hysgrifennydd Esgobaethol newydd, yn dilyn yr Adolygiad Llywodraethiant diweddar. Edrychwch allan am ragor o wybodaeth am y Gynhadledd Esgobaethol, ynghyd â manylion yr etholiadau blynyddol, dros yr wythnosau nesaf.

Penodi Deon newydd

Byddwn yn symud i benodi Deon newydd ar unwaith, a byddwn yn chwilio am glerigion sy’n hyderus wrth gyflawni gweinidogaeth bregethu a bugeiliol yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â meddu ar y sgiliau arferol gweinidogaethol a strategol. 

Felly hoffwn wahodd holl glerigion yr esgobaeth sy’n rhugl yn y Gymraeg (waeth pa hyd y buont mewn urddau) i “de bach” yma gyda mi yn y Deondy ar 22 Gorffennaf rhwng 3–5pm, gan orffen gyda gweddi’r hwyr am 5.15pm, ar gyfer sgwrs alwedigaethol gyda’n gilydd fel rhan o’n proses ddirnad.

Fodd bynnag, byddwn yn defnyddio proses recriwtio agored, a bydd mwy o wybodaeth yn dod maes o law. Rwyf wedi gofyn i aelodau lleyg y Cabidwl weithio ar broses gyda’n swyddog Adnoddau Dynol cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, a all pob clerig sy’n gallu gwasanaethu’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg gysylltu â mi i roi gwybod a allwch ddod ar 22ain Gorffennaf?

Yn y dyfodol, fel rhan o’r ymweliadau Bro, bydd yn dda cael sgyrsiau galwedigaethol gyda phawb mewn gweinidogaeth, yn lleyg ac yn ordeiniedig, i drafod sut i ddatblygu galwedigaethau i weinidogaeth leyg ac ordeiniedig yn ehangach ledled yr esgobaeth, yn ogystal â chynnig anogaeth i bawb gyflawni eu potensial.

Cadfan

Bydd y clerigion yn dal i gyfarfod ar 12fed a 13eg o Dachwedd ar gyfer y cyfarfod “Cadfan” arferol, ond byddwn yn manteisio ar y cyfle i weddïo, myfyrio ac ystyried sut i ddatblygu ein gweinidogaeth a’n hyfforddiant yn y dyfodol o 2027 ymlaen.

Rwyf ar wyliau tan ganol Gorffennaf o brynhawn dydd Sul ymlaen, amseriad da iawn i mi! Edrychaf ymlaen at weld clerigion a gweinidogion lleyg yn yr ordinasiwn ddydd Sadwrn am 11am, ac rwyf yn diolch i Dduw am eich gweinidogaeth ac am ein cymdeithas yng Nghrist.

Unwaith y byddaf wedi fy sefydlu, edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar gynllunio ar gyfer y dyfodol a mynd i’r afael â’n heriau, a byddaf yn myfyrio gyda chi ar ba strwythurau a strategaethau a fydd yn ein helpu i symud ymlaen i’r dyfodol gyda hyder a gobaith er mwyn i ni fod yn newyddion da yn ogystal â rhannu’r newyddion da.

Yr eiddoch yng Nghrist,

Manon Ceridwen James
manoncjames@cinw.org.uk

Cymraeg

Letter to the Diocese

Dear friends,

Thank you all for your messages of support and good wishes and prayers. I am very much looking forward to serving you and working with you in a different role. This is a largely practical letter with information that will be of use to you in your different roles.

Dates

I wanted to let you know a few dates:

  • Sacred Synod 9th September, I gather in the evening at Newport Cathedral during Governing Body.
  • Ordination as Bishop at Newport Cathedral 12th September.
  • Installation in Bangor Cathedral 19th September 2pm.

There will be more information in due course, especially timings and what the arrangements are regarding how much space we have been allocated at the various events.

If it is helpful for you, or if you have questions or concerns, please get in touch, however I will be focussing over the summer on the Cathedral, signing off our work with the Oversight Board in addressing the review recommendations as planned in September and in essence working out my notice. 

From September 1st, Canon Tracy Jones will be the Acting Dean, supported by the team in the cathedral as well as colleagues on Chapter. I would also like to start planning in September coming to visit each Bro over the course of the next year and a half or so.

Diocesan Conference

Our Diocesan Conference will be held on Saturday 10 October, from 10.00am to 4.00pm, at Ysgol Eifionydd, Porthmadog. I am looking forward to us gathering together as a Diocese and to the opportunity to worship together, celebrate all that God is doing among us, and begin to consider the way ahead. 

There will also be a number of governance and finance matters for us to consider, building on the positive work being led by Joanna Thomas, our new Diocesan Secretary, following the recent Governance Review. 

Please look out for further information about the Diocesan Conference, together with details of the annual elections, over the coming weeks.

Appointment of a new Dean

We will be moving to appoint a new Dean immediately, and we will be looking for a cleric who is confident in exercising a preaching and pastoral ministry in both Welsh and English, as well as having the usual ministerial and strategic skills. 

So, I would like to invite all clergy of the diocese who are fluent in Welsh (however long in orders) to a ‘tê bach’ here with me in the Deanery July 22nd 3-5pm and finishing with evensong at 5.15pm, for a vocational conversation together as part of our discernment. We will however be using an open recruitment process, and more information will be coming in due course. I have asked the lay members of Chapter to work on a process with our HR officer as soon as possible. 

In the meantime, could all clergy able to exercise ministry confidently in the medium of Welsh contact me to say if you can come on July 22nd?

In the future, as part of the Bro visits, it will be good to have vocational conversations with all those in ministry, lay and ordained, to discuss how to develop vocations to lay and ordained ministry more broadly across the diocese, as well as to encourage everyone to fulfil their potential.

Cadfan

The clergy will still be meeting 12th and 13th November for the usual ‘Cadfan’ meeting but we will be taking the opportunity to pray, reflect and consider how we do our ministry development and training in the future from 2027 onwards.

I am on annual leave until mid-July from Sunday afternoon, which is good timing for me! I look forward to seeing clergy and lay ministerial colleagues at the ordinations on Saturday at 11am and I thank God for your ministry and for our fellowship in Christ.

Once I am installed I look forward to working with you on planning for the future and addressing our challenges, and I will be reflecting with you on what structures and strategies will help us move forward into the future with confidence and hope in order for us to be the good news as well as share the good news.

Yours in Christ,

Manon Ceridwen James
manoncjames@cinw.org.uk