Grŵp newydd i archwilio cerdded myfyriol ym Mhen Llŷn
Mae cyfres newydd o deithiau cerdded tywysedig yn cael ei lansio ym Mhen Llŷn ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn cerdded, myfyrio a gweddïo.
Wedi ei drefnu gan Ardal Weinidogaeth Bro Madryn, mae Ramble and Reflect yn cynnig cyfle i archwilio cerdded myfyriol ar hyd rhannau o Lwybr Pererindod Gogledd Cymru, gan gyfuno amser yn yr awyr agored â myfyrdod tawel a sgwrsio. Mae’r teithiau cerdded wedi’u hysbrydoli gan Addoli yn y Gwyllt, a ddatblygwyd yn Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin.
Bydd pob taith yn para tua dwy i dair awr ac yn ymestyn dros oddeutu tair milltir. Mae’r llwybrau’n cynnwys golygfeydd arfordirol a gwledig, gyda rhai rhannau serth. Mae’r rhaglen yn cynnwys teithiau o Langwnnadl i Borth Iago ar 2 Awst, o amgylch Nefyn ar 15 Awst, ac o Mount Pleasant i Drefor ar 19 Medi.
Mae’r teithiau cerdded yn agored i unrhyw un sy’n awyddus i fwynhau tirwedd Pen Llŷn wrth gymryd hefyd amser ar gyfer myfyrdod, gweddi ac adfywiad ysbrydol.
Dywedodd y Parchedig Eryl Parry, Offeiriad Arloesol yn Esgobaeth Bangor:
“Mae llawer o bobl yn chwilio am ffyrdd o fod yn egnïol tra hefyd yn creu lle ar gyfer myfyrio ac ysbrydolrwydd. Mae pererindod a cherdded myfyriol yn cynnig ffordd naturiol o wneud y ddau.”
Drwy gydol y teithiau, mae Eryl yn cyflwyno pobl i’r hyn y mae hi’n ei alw’n ‘fannau myfyrio’.
“Rydym yn rhannu’r daith yn adrannau gyda mannau myfyrio lle rydym yn stopio gyda’n gilydd ac yn cynnig amser meddwl, cwestiwn, cerdd, darn o’r Ysgrythur neu ddelwedd sy’n gysylltiedig â thema’r daith. Weithiau rydym yn cerdded rhan o’r llwybr mewn distawrwydd.”
Fel offeiriad arloesol profiadol sy’n arbenigo mewn ffyrdd newydd ac amgen o fod yn eglwys, mae hi’n credu y gall cerdded yn yr awyr agored greu cyfleoedd i bobl archwilio ffydd mewn amgylchedd hamddenol a hygyrch, yn enwedig y rhai na fyddent o bosibl yn mynychu gwasanaeth eglwysig traddodiadol.
“Mae llawer o bobl heddiw yn archwilio ysbrydolrwydd yn ofalus ac yn onest. Rydym am greu gofod lle mae’r archwilio hwnnw’n cael ei groesawu, nid ei farnu. Daw rhai pobl oherwydd eu bod yn mwynhau cerdded; daw eraill oherwydd eu bod yn chwilio am heddwch, cymuned neu iachâd.
“Mae gan bob tirwedd ei straeon a’i lleoedd sanctaidd ei hun, ond boed trwy bererindod neu gerdded myfyriol, mae diben y daith yn aros yr un fath: creu lle i bobl ddod ar draws Duw, ei gilydd a’u hunain drwy sylwgarwch, cerdded a chroeso.”
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at rambleandreflect@hotmail.com neu neges destun at 07947 001408.
Llun: Gan Dominic Nelson - Own work, CC BY-SA 4.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=181469855
New contemplative walking group launches on the Llŷn Peninsula
A new series of guided walks is being launched on Pen Llŷn for people interested in walking, reflection and prayer.
Organised by Bro Madryn Ministry Area, Ramble and Reflect offers an opportunity to explore contemplative walking along sections of the North Wales Pilgrimage Route, combining time outdoors with gentle reflection and conversation. The walks are inspired by Worship in the Wild developed in Bro Celynnin Ministry Area.
Each event will last around two to three hours and cover approximately three miles. Routes include coastal and countryside scenery, with some uphill sections. The programme includes journeys from Llangwnnadl to Porth Iago on 2 August, around Nefyn on 15 August, and from Mount Pleasant to Trefor on 19 September.
The walks are open to anyone looking to enjoy the landscape of Pen Llŷn while taking time for reflection, prayer and spiritual refreshment.
Revd Eryl Parry, Pioneer Priest in the Diocese of Bangor, said: “Many people are looking for ways to be active while also creating space for reflection and spirituality. Pilgrimage and contemplative walking offer a natural way to do both.”
Throughout the walks, Eryl introduces people to what she calls ‘ponder spots’,“We divide the walk into sections with ponder spots where we stop together and offer a thought, a question, a poem, scripture or image connected to the theme of the walk. Sometimes we walk part of the route in silence.
As an experienced pioneer priest specialising in new and alternative ways of being church, she believes that walking outdoors can create opportunities for people to explore faith in a relaxed and accessible setting, particularly those who might not attend a traditional church service.
“Many people today are exploring spirituality cautiously and honestly. We want to create a space where that exploration is welcomed, not judged. Some people come because they love walking; others because they are seeking peace, community or healing.
“Every landscape has its own stories and sacred places, but whether through pilgrimage or contemplative walking, the purpose of the journey remains the same - creating space for people to encounter God, one another and themselves through attentiveness, walking and welcome.”
To find out more, email rambleandreflect@hotmail.com or text 07947 001408.
Photo: By Chembeth - Own work, CC BY-SA 4.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=43406189