Llwybr pererindod newydd i Ddyffryn Conwy
Mae llwybr pererindod newydd 22 milltir o hyd, sy’n cysylltu pum eglwys yn Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin, wedi agor wrth i’r diddordeb mewn cerdded llwybrau ysbrydol barhau i dyfu.
Mae Llwybr Celynnin yn llwybr siâp wyth yn dilyn llwybrau troed presennol rhwng Conwy a Llangelynnin, lle mae’n ymuno â Llwybr Pererinion Gogledd Cymru.
Gall cerddwyr gasglu stamp ym mhob eglwys mewn pasbort pererin sydd wedi’i ddylunio’n arbennig, gan greu cofnod o’u taith drwy’r dyffryn.
Creodd yr artist lleol Hope O’Dell y pasbort, tra bod disgyblion Ysgol Porth y Felin ac Ysgol Llangelynnin wedi dylunio’r stampiau a ddefnyddir ar hyd y llwybr.
Datblygwyd y llwybr wrth i ddiddordeb mewn pererindod gynyddu o’r newydd, gan gynnwys y gyfres Pilgrimage ar y BBC: The Road to Wild Wales, a ddilynodd saith o enwogion ar hyd Llwybr Pererinion Gogledd Cymru.
Mae’r llwybr yn dechrau neu’n gorffen yn Eglwys y Santes Fair yng nghanol Conwy, sy’n cynnwys rhannau sydd wedi goroesi o Abaty Aberconwy, mynachlog Sistersaidd a sefydlwyd yn y 12fed ganrif.
Mae’n parhau drwy Ddyffryn Conwy i Eglwys Llangelynnin, eglwys hynafol sy’n edrych dros y dyffryn ac sydd eisoes yn cael ymweliadau gan gerddwyr sy’n dilyn y llwybr pererindod hirach drwy Ogledd Cymru. Eglwysi ar y llwybr yw:
- Eglwys Santes Fair - Conwy
- Eglwys Santes Fair - Caerhun
- Eglwys Sant Benedict - Gyffin
- Eglwys Sant Pedr - Llanbedr-y-Cennin
- Eglwys Sant Celynnin above Henryd
Lansiwyd y llwybr yn ffurfiol yr wythnos hon yn Eglwys y Santes Fair, Conwy, gydag arddangosfa pererindod a diwrnodau dathlu gyda phlant dwy ysgol eglwys leol.
Cafodd Ysgol Porth y Felin fore pererindod yn Eglwys y Santes Fair, gan ddysgu am Lwybr Celynnin a Llwybr Cybi a Seiriol sydd o fewn yr Esgobaeth. Gwyliasant y ffilm arobryn Stori Cybi a Seiriol, gan hefyd fynd ar bererindod o amgylch tu allan yr eglwys gan ddysgu am ei hanes ynghyd â gweithio ar becyn pôs pererindod.
Roedd disgyblion Ysgol Porth y Felin ac Ysgol Llangelynnin hefyd wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio stampiau ar gyfer y llwybr a dyfarnwyd gwobr i'r pum enillydd am eu gwaith yn eu gwasanaeth i nodi diwedd y flwyddyn.
Os bydd hynny’n arwain pobl i ofyn cwestiynau am ffydd, rydyn ni yma i gerdded gyda nhw ar eu taith.
Mae’r Parchg Kevin Ellis, Ficer Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin, yn gobeithio y bydd y llwybr newydd yn apelio at bobl sy’n archwilio ffydd, yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am ymarfer corff, amser i fyfyrio a seibiant o bwysau bywyd bob dydd.
Dywedodd, “Mae’r eglwysi ar hyd y llwybr wedi bod yn rhan o’r dirwedd ac o fywyd yr ardal hon ers cannoedd o flynyddoedd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pererinion ac ymwelwyr yn eu darganfod, neu’n eu hailddarganfod, ac yn gweld sut maen nhw’n adrodd hanes Iesu.”
Dywedodd Rosemary Mart, a sicrhaodd gyllid ar gyfer y prosiect, fod y llwybr wedi’i fwriadu i gefnogi lles corfforol, meddyliol ac ysbrydol pobl, “Rydyn ni am gynnig cyfleoedd i gerddwyr gymryd seibiant o’u bywydau prysur, gwneud ymarfer corff, oedi a myfyrio, er budd eu lles corfforol, meddyliol ac ysbrydol yn ein rhan brydferth ni o’r byd.
"Os bydd hynny’n arwain pobl i ofyn cwestiynau am ffydd neu amheuaeth, rydyn ni yma i gerdded gyda nhw ar eu taith.”
Mae map y bererindod ar gael yn yr eglwysi ar hyd y llwybr, eu e-bostiwch Y Parchg Kevin Elis am ragor o wybodaeth.
New pilgrimage route for Conwy Valley
A new 22-mile pilgrimage route linking five churches in the Bro Celynnin Ministry Area has opened as interest in walking spiritual paths continues to grow.
Llwybr Celynnin is a figure-of-eight trail that follows existing footpaths between Conwy and Llangelynnin, where it joins the North Wales Pilgrim’s Way.
Walkers can collect a stamp at each church in a specially designed pilgrim passport, creating a record of their journey through the valley.
Local artist Hope O’Dell created the passport, while pupils from Ysgol Porth y Felin and Ysgol Llangelynnin designed the stamps used along the route.
The route has been developed amid renewed interest in pilgrimage, including the BBC series Pilgrimage: The Road to Wild Wales, which followed seven celebrities along the North Wales Pilgrim’s Way.
The route begins or ends at St Mary’s Church in the centre of Conwy, which contains surviving parts of Aberconwy Abbey, a Cistercian monastery founded in the 12th Century.
It continues through the Conwy Valley to Llangelynnin Church, an ancient church overlooking the valley and already visited by walkers following the longer North Wales route. Churches included in the route are:
- St. Mary’s Church in Conwy
- St. Mary’s Church in Caerhun
- St. Benedict’s Church in Gyffin
- St. Peter‘s Church in Llanbedr-y-Cennin
- Llangelynnin Old Church above Henryd
The trail was launched at St Mary’s Church, with a pilgrimage exhibition and a events with the children of two local church schools.
Ysgol Porth y Felin had a pilgrimage morning at St Mary’s, where pupils learned about the Llwybr Celynnin and Llwybr Cybi a Seiriol pilgrimage routes within the Diocese. They watched the award-winning film The Story of Cybi and Seiriol, took part in a pilgrimage around the outside of the church to learn about its history, and completed a pilgrimage puzzle pack.
Pupils from both Ysgol Porth y Felin and Ysgol Llangelynnin were also invited to take part in a competition to design stamps for the route. The five winners received prizes for their work during a service marking the end of the school year.
If it leads people to questions of faith, we are here to walk with them on their journey.
Revd Kevin Ellis, Vicar of Bro Celynnin Ministry Area, hopes the new trail will appeal both to people exploring faith and to those looking for time away from the pressures of daily life, “The churches of the trail have been part of the landscape and fabric of life here for hundreds of years.
"We hope that pilgrims and visitors will discover and rediscover them and the way they tell the story of Jesus.”
Rosemary Mart, who secured funding for the project, said the route was intended to support people’s physical, mental and spiritual wellbeing, “We want to offer opportunities for walkers to take time out of their busy lives, to exercise, to pause, to reflect for the benefit of their physical, mental and spiritual wellbeing in our beautiful part of the world.
"If it leads people to questions of faith or perhaps doubt, we are here to walk with them on their journey.”
Maps are available in each of the churches or email Revd Kevin Ellis.