minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Grantiau wedi’u cyhoeddi ar gyfer eglwysi yng Ngogledd Cymru

Bydd eglwysi ar draws yr esgobaeth yn elwa o grantiau gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol i helpu i ariannu gwaith atgyweirio brys ar eu hadeiladau.


Y Groes Sanctaidd, Llannor, Gwynedd

Bydd Eglwys y Groes Sanctaidd yn derbyn grant o £8,340 gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. Ar eu hargymhelliad, bydd yr eglwys hefyd yn derbyn Grant Atgyweirio Adeiladau Wolfson gwerth £5,000 gan Sefydliad Wolfson. Mae hyn yn cwblhau ymdrechion codi arian yr eglwys ar gyfer gwaith brys i atgyweirio’r to, ac yn golygu y gall y gwaith ddechrau cyn i dywydd garw’r gaeaf gyrraedd. Yn ogystal ag ailosod llechi sydd wedi llithro neu sydd wedi’u difrodi, bydd y cafnau plastig yn cael eu disodli gan rai haearn bwrw. Mae’r rhain yn llawer mwy effeithiol wrth gyfeirio dŵr oddi wrth yr adeilad ac yn para’n hirach mewn tywydd garw, gan arbed arian yn y tymor hir.

Mae holl fywyd addoli, cenhadol a chymdeithasol y Groes Sanctaidd yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ganddynt hefyd adnoddau newydd, gan gynnwys system sain, i helpu pobl sy’n newydd i’r iaith a’r gymuned ifanc Gymraeg eu hiaith i fagu hyder yn eu sgiliau Cymraeg.


Sant Seiriol, Penmon

Bydd Eglwys Sant Seiriol yn derbyn grant o £32,999 gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. Ar ei hargymhelliad, bydd yr eglwys hefyd yn derbyn Grant Atgyweirio Adeiladau Wolfson gwerth £5,000 gan Sefydliad Wolfson a grant o £2,000 gan Ymddiriedolaeth Headley. Bydd hyn yn helpu i dalu am waith atgyweirio brys i do a choed y tŵr, gan wneud tŵr yr eglwys yn sicrhau bod y to yn dal dŵr ac yn ddiogel rhag y gwynt. Mae angen cwblhau’r gwaith cyn gaeaf arall o law trwm a gwyntoedd cryf, a fyddai’n gwaethygu’r dirywiad a’r lleithder.


Sant Eilian, Llaneilian

Bydd Eglwys Sant Eilian yn derbyn grant o £31,796 gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. Ar ei hargymhelliad, bydd yr eglwys hefyd yn derbyn Grant Atgyweirio Adeiladau Wolfson gwerth £5,000 gan Sefydliad Wolfson a grant o £2,000 gan Ymddiriedolaeth Headley. Mae angen gofal cyson ar Sant Eilian oherwydd ei leoliad agored i stormydd, glaw trwm a gwyntoedd garw. Bydd y grantiau hyn yn helpu i dalu am waith atgyweirio brys er mwyn sicrhau bod yr eglwys yn ddiddos unwaith eto.


Eglwys Crist, Glanogwen

Mae Eglwys Crist, Glanogwen wedi derbyn grant o £5,000 gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol i ariannu astudiaeth fanwl o gyflwr yr adeilad 170 mlwydd oed. Daw’r astudiaeth yn dilyn pryderon ynghylch difrod gan stormydd a phroblemau strwythurol sy’n effeithio ar dŵr a meindwr yr eglwys, ac sydd wedi arwain at roi’r adeilad ar Gofrestr Adeiladau mewn Perygl CADW. Bydd y canfyddiadau’n helpu i nodi ffyrdd o gryfhau gwytnwch yr eglwys ar gyfer y dyfodol.

A yw eich eglwys chi wedi derbyn grant? Rhowch wybod i ni fel y gallwn rannu’r newyddion da.

Cymraeg

Grants announced for North Wales churches

Churches across the diocese will benefit from National Churches Trust grants to help fund urgent repairs their buildings.


Holy Cross in Llannor, Gwynedd

Holy Cross will receive a £8,340 grant from the National Churches Trust. On the recommendation the church will also receive a £5,000 Wolfson Fabric Repair Grant from the Wolfson Foundation. This completes the church’s fundraising for urgent roof repairs and means the work can begin before winter’s harsh weather sets in. As well as replacing slipped and defective roof slate tiles, the plastic gutters will be replaced with cast iron gutters, which are much more effective in directing water away from the building and last longer too when exposed to the elements, saving money in the long run.

Holy Cross lives its worship, missionary and social life entirely through the medium of Welsh. They also have new tools – for example the installation of an AV system – to help those new to the language and the young Welsh-speaking community to grow in confidence with their Welsh language skills.


St Seiriol, Penmon

St Seiriol will receive a £32,999 grant from the National Churches Trust. On the recommendation the church will also receive a £5,000 Wolfson Fabric Repair Grant from the Wolfson Foundation and a £2,000 grant from the Headley Trust. This will help pay for urgent repair work to the tower roof and timbers, making the church tower waterproof and windtight. The repairs need completing before another winter of heavy rainfall and strong winds, which will make the deterioration and damp so much worse.


St Eilian in Llaneilian

St Eilian will receive a £31,796 grant from the National Churches Trust. On the recommendation the church will also receive a £5,000 Wolfson Fabric Repair Grant from the Wolfson Foundation and a £2,000 grant from the Headley Trust. St Eilian needs constant care as its exposed storms, heavy rainfall and harsh winds. These grants will help pay for urgent repairs to ensure the church is watertight once more.


Christ Church, Glan Ogwen

Christ Church, Glan Ogwen has received a £5,000 grant from the National Churches Trust to fund a detailed study into the condition of the 170-year-old building. The study follows concerns raised by storm damage and structural problems affecting the church's tower and spire, which have led to the building being placed on CADW's At Risk Register. The findings will help identify ways to strengthen the church's resilience for the future.

Has your church received a grant? Do let us know so we can share the good news.