Anerchiad Cynhadledd 2026
Gyfeillion,
Mae’n bleser mawr gan i eich croesawu i’n Cynhadledd Esgobaethol eleni.
Mewn un ystyr, mae eleni’n teimlo fel cynhadledd go normal. Mae adroddiadau i’w derbyn, cyfrifon i’w hystyried, a busnes pwysig i’w gynnal. Efallai nad yw hynny’n swnio’n arbennig o gyffrous, ond mae’n bwysig. Rhan o’n cyfrifoldeb fel Esgobaeth yw rhoi sylw gofalus i’r bywyd rydym yn ei rannu gyda’n gilydd, sicrhau ein bod yn stiwardiaid da o’r hyn sydd wedi’i ymddiried i ni, a bod ein bywyd cyffredin wedi’i wreiddio mewn tryloywder, atebolrwydd ac ymddiriedaeth. Heddiw byddwn yn trafod rhai papurau pwysig ynghylch ein trefniadau llywodraethu. Mae llawer o fusnes heddiw yn ymwneud â gosod sylfeini cadarn ar gyfer ein bywyd gyda’n gilydd.
Y flwyddyn nesaf, fodd bynnag, rwy’n gobeithio dod â rhywbeth ychydig yn wahanol ger eich bron.
Dros y misoedd nesaf, dwi am dreulio amser yn gwrando, yn dysgu ac yn gweddïo gyda phobl ar draws yr Esgobaeth, fel y gallwn, pan fyddwn yn cyfarfod eto, ddechrau dirnad gyda’n gilydd rai blaenoriaethau clir ar gyfer y blynyddoedd sydd o’n blaenau. Blaenoriaethau sy’n codi o’n bywyd cyffredin, ein profiad cyffredin a’n dealltwriaeth gyffredin o alwad Duw.
Ond heddiw, cyn dweud unrhyw beth arall, hoffwn ddweud diolch.
Diolch am bopeth yr ydych yn ei gyfrannu at fywyd yr Eglwys. P’un a ydych yn offeiriad, diacon neu weinidog lleyg, yn warden eglwys neu’n drysorydd, yn swyddog diogelu'r MA, yn weinyddwr neu weinyddwraig neu’n gynrychiolydd Ardal Weinidogaeth, mae bywyd yr Eglwys yn dibynnu ar ffyddlondeb, haelioni ac ymrwymiad pobl fel chi.
Mae cymaint o’r hyn sy’n gwneud ein heglwysi’n fannau o obaith, croeso a thystiolaeth yn digwydd yn ddistaw bach ac yn aml heb i neb sylwi. Mae’n hawdd cymryd y gwasanaeth hwnnw’n ganiataol, ond dydw i ddim. Dwi’n hynod ddiolchgar am bopeth yr ydych yn ei roi. Os nad ydw i wedi cael y cyfle i’ch cyfarfod eto, dewch draw i gyflwyno eich hun rywbryd yn ystod y dydd.
Thema sydd wedi bod yn bwysig imi erioed, wedi imi dyfu i fyny ar y llwybr pererindod tuag at Enlli, yw pererindod ei hun. Tydi pererindod byth yn ymwneud yn syml â chyrraedd pen y daith. Mae’n ymwneud â darganfod y llwybr wrth ei gerdded. Mae’n ymwneud â theithio gyda’n gilydd. Mae’n ymwneud â dysgu beth i’w gario gyda chi a beth i’w adael ar ôl.
Fel Esgobaeth, credaf ein bod yn union mewn cyfnod o’r fath.
Cyfnod o ddirnad be ydan ni angen o’r gorffenol i’w roi yn ein rucksack, a’i gario gyda ni am ei fod yn dal yn werthfawr ac yn rhoi bywyd. Cyfnod hefyd o ddirnad be ydan ni angen ei adael ar ôl er mwyn teithio’n fwy rhydd tuag at ddyfodol Duw.
Mae cwestiynau pwysig o’n blaen.
Sut ydan ni yn defnyddio ein hadnoddau’n ddoeth?
Pa fath o weinidogaeth sydd ei hangen arnom, ac yn lle?
Sut y gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol, a sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn dod i adnabod Duw drwy ein gwaith?
Sut ydan ni yn datblygu doniau a galluoedd pobl orau?
Sut ydan ni yn meithrin galwedigaethau i weinidogaeth yn ein heglwysi, yn enwedig ymhlith ein siaradwyr Cymraeg rhugl?
Sut ydan ni yn denu pobl newydd i’n heglwysi?
Tydi’r rhain ddim yn gwestiynau medrwn ni eu hateb yn gyflym. Ac yn sicr tydyn nhw ddim yn gwestiynau fedra’i eu hateb ar fy mhen fy hun.
Pan oeddach chi’n chwilio am esgob, roedd proffil yr Esgobaeth yn disgrifio’r math o arweinyddiaeth yr oeddech yn gobeithio amdani. Wrth ei ddarllen eto’n ddiweddar, cefais fy atgoffa o’r blaenoriaethau oedd gennych bryd hynny. Roeddech am gael cyfuniad o’r traddodiadol a’r newydd; esgob â dyfnder ysbrydol a greddf fugeiliol, ond hefyd rhywun a fyddai’n cynnig gweledigaeth ar gyfer cenhadaeth a thwf. Esgob a fyddai’n cefnogi ac yn cynnal y rhai sydd mewn gweinidogaeth. Esgob a allai ailadeiladu ymddiriedaeth a pherthnasoedd. Esgob a fyddai’n arwain gyda dewrder a gostyngeiddrwydd.
Roedd hefyd gydnabyddiaeth glir o realiti’r Esgobaeth hon: 27 Ardal Weinidogaeth, 162 o adeiladau eglwysig a 36 o glerigion cyflogedig.
Roedd y proffil yn disgrifio Esgobaeth sydd angen dewrder wrth wneud penderfyniadau, gostyngeiddrwydd i wrando a dysgu, a’r gallu i adeiladu ymddiriedaeth drwy arweinyddiaeth gyson a thryloyw.
Boed hynny yn fy nisgrifio i ai peidio, ac wrth ddarllen hyn eto dwi’n teimlo fod o’n her sylweddol, a dwi ddim yn teimlo’n ddigonol i’r dasg mewn gwirionedd, yr hyn sy’n fy nghalonogi yw nad oeddech yn chwilio am arweinydd arwrol gyda’r holl atebion. Roeddech yn chwilio am rywun fyddai’n bresennol ymhlith y clerigion a’r cymunedau, rhywun fyddai’n gwrando, yn annog ac yn ein helpu i ddirnad dyfodol Duw gyda’n gilydd. Doeddech chi ddim yn edrych am quick fix – roeddech chi yn cydnabod y bydd angen amser arnom ar gyfer iacháu a dirnad efo’n golydd dyfodol Duw. .
Dros y flwyddyn sydd i ddod, dwi am dreulio amser yn teithio ar draws yr Esgobaeth, yn clywed eich straeon, yn dysgu ynglyn a’ch profiadau ac yn gwrando gyda’n gilydd am arweiniad yr Ysbryd Glân.
Fy ngobaith yw, pan fyddwn yn ymgynnull y flwyddyn nesaf, y byddwn yn barod i benderfynu beth yw ein blaenoriaethau. Rhai sydd wir yn perthyn i’r Esgobaeth gyfan. Nid fy mlaenoriaethau i. Ein blaenoriaethau ni. Y blaenoriaethau y credwn fod Duw yn ein galw i’w derbyn.
Ers imi ddechrau ymweld ag Ardaloedd Gweinidogaeth, cynnal gwasanaethau bedydd esgob a thrwyddedu, mae un darn o’r Ysgrythur wedi aros gyda mi. Pan oeddwn yn paratoi ar gyfer trwyddedu Sara Roberts ym Mro Ogwen, dewisodd hi’r geiriau hyn o Efengyl Mathew:
Chwi yw goleuni'r byd. 16Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd
Beth fasa ni yn wir yn credu’r geiriau hynny?
Beth pe baem yn credu o ddifrif ein bod wedi ein galw i fod yn oleuni’r byd?
Beth fyddai’n ei olygu i’ch goleuni chi ddisgleirio?
I oleuni eich eglwys ddisgleirio?
I oleuni eich Ardal Weinidogaeth ddisgleirio?
A beth yw’r pethau sy’n atal y goleuni hwnnw rhag cael ei weld?
Efallai mai diffyg hyder ydyw.
Efallai mai blinder ydyw.
Efallai mai sinigiaeth ydyw.
Efallai mai ofn yw’r teimlad nad oes yr hyn a wnawn yn gwneud gwahaniaeth mwyach.
Y cwestiwn yr hoffwn i bob Ardal Weinidogaeth ei ofyn yw hwn:
Beth mae’n ei olygu i ni adael i’n goleuni ddisgleirio yn ein cymuned?
Bydd pob lle yn ateb y cwestiwn hwnnw’n wahanol.
I rai, bydd yn ymwneud â gwaith gyda phlant a theuluoedd.
I eraill, efallai bydd yn fanc bwyd ffyniannus, cynulleidfa ganol wythnos, gofal bugeiliol i bobl hŷn neu waith caplaniaeth.
Yr hyn sy’n apelio gymaint ataf am y ddelwedd hon yw ei bod yn ein hannog i ddechrau gyda’r hyn sydd eisoes yn fyw.
Ble mae’r llawenydd?
Ble mae’r egni?
Ble ydym yn gweld arwyddion o bresenoldeb Duw ar waith eisoes?
Yn hytrach na cheisio gwneud popeth, efallai y dylem ddechrau drwy ofyn ble mae ein goleuni eisoes yn disgleirio a sut y gallwn ei helpu i ddisgleirio’n fwy llachar.
Un o gyfrifoldebau’r Esgobaeth yw eich cefnogi yn y gwaith hwnnw.
Dyna pam rydan ni’n buddsoddi mewn cymorth ymarferol fel y book keepers a gweinyddwyr Ardaloedd Gweinidogaeth. Heddiw mae’r Eglwys yn ysgwyddo cyfrifoldebau sy’n mynd ymhell y tu hwnt i arwain addoliad ar fore Sul. Rydym yn rhedeg elusennau yn ogystal ag eglwysi, ac mae llawer o’r gofynion gweinyddol sy’n cael eu gosod ar glerigion a gwirfoddolwyr yn sylweddol ac yn peri pryder. Gwn hynny oherwydd fy mod wedi bod yno fy hun.
Fy ymrwymiad yw cefnogi Ardaloedd Gweinidogaeth mewn ffyrdd ymarferol yn ogystal ag ysbrydol. Dyna un o’r rhesymau pam dwi wedi dewis parhau i flaenoriaethu buddsoddi yn y swyddi hyn. Am y tro, ac ella am bythm fydda’i ddim yn apwyntio caplan gan fy mod yn credu ei bod yn bwysicach i ddefnyddio yr arian i fuddsoddi mewn cefnogaeth yn nes at y llawr gwlad. Os gallwn leddfu rhywfaint o’r baich gweinyddol, bydd gan glerigion ac arweinwyr lleyg fwy o ryddid i ganolbwyntio ar weinidogaeth a chenhadaeth.
Ar yr un pryd, hoffwn ofyn inni gyd weithio gyda charedigrwydd a pharch. Mae staff yr Esgobaeth yn gweithio’n galed i gefnogi Ardaloedd Gweinidogaeth ar draws Esgobaeth fawr ac amrywiol iawn. Mae’n anodd iddyn nhw neud eu gwaith pan tydi pobl ddim yn ateb eu ebyst neu galwadau ffôn. Rydym yn byw mewn cyfnod heriol ac mae angen inni helpu ein gilydd, ond mae’n fy nhristáu i glywed sut mae pobl yn ymateb i raoi o’n staff.
Yn union fel na all Ardaloedd Gweinidogaeth wneud popeth, ni all Esgobaeth wneud popeth chwaith.
Mae ein hadnoddau’n gyfyngedig. Weithiau bydd yn rhaid inni wneud dewisiadau anodd. Bydd angen inni ddirnad yn ofalus ble y gellir defnyddio ein hegni, ein harian a’n pobl yn y ffyrdd fwyaf effeithiol. Weithiau gall hynny olygu penderfyniadau anodd. Weithiau gall olygu rhoi ffyniant yr Eglwys ehangach o flaen ein buddiannau uniongyrchol ein hunain, neu hyd yn oed fuddiannau uniongyrchol ein heglwys neu’n cymuned ein hunain.
Ac mae hynny’n rhan o’r hyn y mae’n ei olygu i berthyn i’n gilydd, fel y soniais yn fy ngwasanaeth sefydlu: ein galwad i garu’n anhunanol.
Felly, wrth inni ddechrau’r Gynhadledd hon, hoffwn eich gwahodd i dri ymrwymiad ar gyfer y flwyddyn sydd o’n blaenau. Y cyntaf yw fy ymrwymiad i, ond gobeithiaf y daw’n ymrwymiad i ni gyd.
Yn gyntaf, ymrwymiad i wrando.
I wrando ar Dduw, ar ein gilydd ac ar ein cymunedau.
Yn ail, ymrwymiad i ddisgleirio.
I holi sut y gall goleuni Crist gael ei weld yn fwy eglur drwy ein heglwysi a’n Hardaloedd Gweinidogaeth.
Yn drydydd, ymrwymiad i stiwardio’n dda yr hyn a ymddiriedwyd i ni.
Hyd yn oed os bydd y penderfyniadau y bydd angen inni eu gwneud yn boenus ac yn gostus yn bersonol.
Os gallwn wneud y pethau hynny, yna credaf y gallwn wynebu’r dyfodol nid gyda phryder ond gyda hyder.
Nid am fod yr heriau’n fach.
Ond am fod ein galwad yn dal yn glir.
Mae eleni yn flwyddyn i wrando. Mae eleni yn flwyddyn i osod sylfeini da yn eu lle.
Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn i osod cyfeiriad.
Ac ym mhob cam o’r daith, mae ein tasg yn aros yr un fath:
Gadael i’n goleuni ddisgleirio, er gogoniant i Dduw.
Diocesan Conference Address 2026
Friends,
It is a real pleasure to welcome you to this year's Diocesan Conference.
In one sense, this year feels rather ordinary. There are reports to receive, accounts to consider, and important business to conduct. That may not sound particularly exciting, but it matters. Part of our responsibility as a Diocese is to attend carefully to the life we share together, to ensure that we are good stewards of what has been entrusted to us and that our common life is rooted in transparency, accountability and trust. Today we will consider some important papers about our governance. Much of today's business is about putting strong foundations in place for our life together.
Next year, however, I hope to bring something rather different.
Over the coming months I want to spend time listening, learning and praying with people across the Diocese, so that when we meet again we can begin to discern together some clear priorities for the years ahead. Priorities that emerge from our shared life, our shared experience and our shared sense of God's call.
But today, before we say anything else, I want simply to say thank you.
Thank you for all that you contribute to the life of the Church. Whether you are a priest, deacon or lay minister, churchwarden or treasurer, MA safeguarding officer, administrator, Ministry area rep, the life of the Church depends upon the faithfulness, generosity and commitment of people like you.
So much of what makes our churches places of hope, welcome and witness happens quietly and often unseen. It is easy to take that service for granted, but I don’t. I am deeply grateful for all that you give. If we have not yet met, please do come and introduce yourself at some point during the day.
A theme that has always been important to me, growing up on the pilgrimage route to Enlli, is pilgrimage itself. A pilgrimage is never simply about arriving at a destination. It is about discovering the path as you walk it. It is about travelling together. It is about learning what to carry with you and what to leave behind.
As a Diocese, I think we are at just such a moment.
We are asking what from our past we need to put into the backpack and take with us because it remains life-giving and valuable. And we are asking what burdens we may need to leave behind if we are to travel more freely into God's future.
There are important questions before us.
- How do we use our resources wisely?
- What ministry do we need, and where?
- How can we plan for the future, and ensure that generations to come meet with God though our work?
- How do we best develop people’s gifts and talents?
- How do we develop vocations to ministry in ouir churches, especially amongst our fluent welsh speakers?
- How do we attract new people into our churches?
These are not questions that can be answered quickly. And they are certainly not questions that I can answer alone.
When you were looking for a bishop, the diocesan profile described the kind of leadership you hoped for. Reading it again recently, it reminded me of what your priorities were then. You wanted a mixture of the traditional and the new, you wanted a bishop with spiritual depth and pastoral instinct as well as one who offered a vision for mission and growth. A bishop who supports and sustains those in ministry. A bishop who can rebuild trust and relationships. A bishop who leads with courage and humility. You also recognised the realities of this Diocese: 27 Ministry Areas, 162 church buildings and 36 stipendiary clergy.
The profile described a Diocese that requires courage in decision-making, humility in listening and learning, and the ability to build trust through consistent and transparent leadership.
Whether or not this describes me, and it’s quite a challenge and quite daunting, what is encouraging for me is that you were not looking for a heroic leader with all the answers. You were looking for someone who would be present among clergy and communities, someone who would listen, encourage and help us discern God's future together. All this is not a quick fix approach, but a recognition that we will need time for healing and discernment.
Over the coming year I want to spend time travelling across the Diocese, hearing stories, learning from your experience and listening together for the prompting of the Holy Spirit.
My hope is that when we gather next year, we will be ready to identify clear priorities that genuinely belong to the Diocese as a whole. Not my priorities. Our priorities. The priorities we think God wants us to have.
As I have begun visiting Ministry Areas, conducting confirmations, services and licensings, one passage of scripture has stayed with me. When I was preparing for Sara Roberts' licensing in Bro Ogwen, she chose these words from Matthew's Gospel:
"You are the light of the world... let your light shine before others, so that they may see your good works and give glory to your Father in heaven."
- What if we really believed those words?
- What if we truly believed that we are called to be the light of the world?
- What would it mean for your light to shine?
- For your church's light to shine?
- For your Ministry Area's light to shine?
- And what are the things that prevent that light being seen?
- Perhaps it is a lack of confidence.
- Perhaps it is weariness.
- Perhaps it is cynicism.
- Perhaps it is a fear that what we do no longer matters.
The question that I want every Ministry Area to ask is a simple one:
What does it mean for us to let our light shine in our community?
Every place will answer that question differently.
For some it will be work with children and families.
For others it may be a thriving foodbank, a midweek congregation, pastoral care for older people, chaplaincy,
What I find so attractive about this image is that it encourages us to begin with what is already alive.
Where is the joy?
Where is the energy?
Where do we see signs of God's presence already at work?
Rather than trying to do everything, perhaps we should begin by asking where our light is already shining and how we can help it shine more brightly.
One of the responsibilities of the Diocese is to support you in that work.
That is why we are investing in practical support such as bookkeepers and Ministry Area administrators. The Church today carries responsibilities that go well beyond leading worship on a Sunday. We are running charities as well as churches, and many of the administrative demands placed upon clergy and volunteers are significant, and cause anxiety. I know this because I’ve been there myself.
My commitment is to support Ministry Areas in practical as well as spiritual ways. That is one of the reasons I have chosen to continue to prioritise investment in these roles. I am foregoing a chaplain for the time being as I think it’s more important to invest in support more locally, on the ground. If we can help with some of the administrative burden, then clergy and lay leaders have more freedom to focus on ministry and mission.
At the same time, I would ask that we all work together with kindness and respect. Our diocesan staff work hard to support Ministry Areas across a very large and diverse Diocese. They can only do their work effectively when communications are returned and relationships are characterised by mutual respect and goodwill.
We are living in challenging times, and we need to help each other, but I find it saddening when our hard working administrators say that emails go unanswered and phone calls unreturned.
Just as Ministry Areas cannot do everything, neither can a Diocese.
We have limited resources. We will sometimes have to make difficult choices. We will need to discern carefully where our energy, our money and our people can best be deployed. Sometimes that may require difficult decisions. Sometimes it may require us to place the flourishing of the wider Church ahead of our own immediate interests, or even the immediate interests of our own church or community. And that is part of what it means to belong to one another, as I spoke about at my installation, our call to love unselfishly.
So as we begin this Conference, I want to invite you into three commitments for the year ahead. The first one is my commitment, but I am hoping it will be a commitment we all share.
First, a commitment to listen.
To listen to God, to one another and to our communities.
Second, a commitment to shine.
To ask how Christ's light can be seen more clearly through our churches and Ministry Areas.
Third, a commitment to steward well what has been entrusted to us. Even if the decisions we will need to make will be painful, and personally costly.
If we can do those things, then I believe we can approach the future not with anxiety but with confidence.
Not because the challenges are small.
But because our calling remains clear.
This year is a year for listening.
This year is a year for putting good foundations in place.
Next year will be a year for setting direction.
And throughout it all, our task remains the same:
To let our light shine, to glorify God.