Pennaeth Cyllid
£50,000 - £55,000Head of Finance
£50,000 - £55,000Dyddiad cau / Deadline: 18/08/2026, noon
Cyfweliadau / Interviews: 04/09/2026
Cyflog: £50,000–£55,000
Oriau: 35 awr yr wythnos
Contract: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Deiniol, Bangor, gyda threfniadau gweithio hyblyg a theithio’n rheolaidd ledled yr Esgobaeth ac yn dalaithol yn achlysurol
Dyddiad cau: Hanner dydd, 18 Awst 2026
Cyfweliadau: 4 Medi 2026
Mae Esgobaeth Bangor yn chwilio am weithiwr cyllid proffesiynol, profiadol a chymwysedig i fod yn Bennaeth Cyllid newydd arni.
Mae Esgobaeth Bangor yn gwasanaethu cymunedau ledled Gogledd-orllewin a Chanolbarth Cymru. Drwy Dîm Deiniol, mae’r Esgobaeth yn darparu cymorth ym meysydd cyllid, llywodraethu, diogelu, eiddo, gweinyddu a gweithrediadau i Ardaloedd Gweinidogaeth, clerigion, ymddiriedolwyr a gweithgareddau esgobaethol.
Fel uwch arweinydd proffesiynol yr Esgobaeth ym maes rheolaeth ariannol, bydd y Pennaeth Cyllid yn gweithio’n agos gydag Ysgrifennydd yr Esgobaeth, yr Esgob a’r ymddiriedolwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth ariannol strategol, yn cryfhau cynllunio a rheolaethau ariannol, ac yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor yr Esgobaeth.
Mae’r swydd yn cynnwys:
- Arwain yr adran gyllid a datblygu’r tîm cyllid
- Cynghori’r ymddiriedolwyr ac uwch arweinwyr ar strategaeth ariannol, perfformiad, risgiau ac opsiynau
- Arwain y gwaith o gyllidebu’n flynyddol, cynllunio ariannol tair blynedd, rhagweld a modelu senarios
- Goruchwylio cyfrifon rheoli, adrodd statudol, archwilio a chydymffurfiaeth reoleiddiol
- Darparu goruchwyliaeth strategol dros gronfeydd wrth gefn, llif arian, buddsoddiadau a rheolaeth y trysorlys
- Cryfhau systemau, rheolaethau a threfniadau llywodraethu ariannol
- Cynorthwyo Ardaloedd Gweinidogaeth i ddatblygu arferion ariannol cadarn a chynaliadwy
- Goruchwylio’r gwasanaethau ariannol a ddarperir i elusennau, ymddiriedolaethau, byrddau a chronfeydd eraill a gefnogir gan Dîm Deiniol
Mae’r Esgobaeth yn cychwyn ar gyfnod newydd pwysig, gan adeiladu ar adolygiad llywodraethu diweddar a’r newidiadau cadarnhaol sydd eisoes ar waith. Mae cyfrifoldebau cliriach, goruchwyliaeth gryfach ac ymrwymiad ar y cyd i atebolrwydd yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol.
Mae hwn yn gyfle rhagorol i ymuno â’r Esgobaeth ar adeg allweddol ac i helpu i lunio ei harweinyddiaeth ariannol, ei llywodraethu a’i chynaliadwyedd hirdymor, gan sicrhau bod ei hadnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol i gefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth ledled yr Esgobaeth.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster cyfrifyddu a gydnabyddir gan CCAB, megis ACA, ACCA neu CIPFA, a phrofiad sylweddol ers ennill y cymhwyster mewn swydd gyllid uwch. Bydd angen iddynt ddangos galluoedd strategol, technegol ac arwain cadarn, ynghyd â’r gallu i egluro materion ariannol cymhleth yn glir i ystod eang o gynulleidfaoedd.
Mae rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Rydym yn cynnig 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ychwanegol at wyliau banc, a chynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig gyda chyfraniad cyflogwr o 10%.
Sut i wneud cais
Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd drwy e-bost at Joanna Thomas yn joannathomas@cinw.org.uk erbyn hanner dydd, 18 Awst 2026.
Mae’r disgrifiad swydd a’r fanyleb person lawn ar gael.I gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am y swydd, cysylltwch â Joanna Thomas:
- E-bost: joannathomas@cinw.org.uk
- Ffôn: 07951 852255
Cynhelir y cyfweliadau yn Nhŷ Deiniol, Bangor, ar 4 Medi 2026.
Disgrifiad Swydd
Ffurflen Gais
Salary: £50,000–£55,000
Hours: 35 hours per week
Contract: Permanent
Location: Tŷ Deiniol, Bangor, with flexible working and regular travel across the Diocese and occasionally provincially
Closing date: Noon on 18 August 2026
Interviews: 4 September 2026
The Diocese of Bangor is seeking an experienced and qualified finance professional to become its new Head of Finance.
The Diocese of Bangor serves communities across North West and Mid Wales. Through Tîm Deiniol, the Bangor Diocesan Board of Finance provides financial, governance, safeguarding, property, administrative and operational support to Ministry Areas, clergy, trustees and diocesan activities.
As the diocese’s senior professional lead for financial management, the Head of Finance will work closely with the Diocesan Secretary, the Bishop and trustees. The successful candidate will provide strategic financial leadership, strengthen financial planning and controls, and help ensure the Diocese’s long-term financial sustainability.
The role includes:
- Leading the finance department and developing the finance team
- Advising trustees and senior leaders on financial strategy, performance, risks and options
- Leading annual budgeting, three-year financial planning, forecasting and scenario modelling
- Overseeing management accounts, statutory reporting, audit and regulatory compliance
- Providing strategic oversight of reserves, cash flow, investments and treasury management
- Strengthening financial systems, controls and governance
- Supporting Ministry Areas to develop sound and sustainable financial practices
- Overseeing financial services provided to other charities, trusts, boards and funds supported by Tîm Deiniol
The Diocese is entering an exciting new phase, building on a recent governance review and the positive changes already under way. Clearer responsibilities, strengthened oversight and a shared commitment to accountability are providing strong foundations for the future.
This is an excellent opportunity to join the Diocese at a pivotal time and to shape its financial leadership, governance and long-term sustainability, ensuring that its resources are used effectively to support mission and ministry across the Diocese.
Applicants must hold a CCAB-recognised accountancy qualification, such as ACA, ACCA or CIPFA, and have substantial post-qualification experience in a senior finance role. They will need to demonstrate strong strategic, technical and leadership capabilities, together with the ability to explain complex financial matters clearly to a wide range of audiences.
Fluency in both Welsh and English is essential.
We offer 28 days’ annual leave in addition to bank holidays and a defined contribution pension scheme with a 10% employer contribution.
How to apply
Please complete the application form and return it by email to Joanna Thomas at joannathomas@cinw.org.uk by noon on 18 August 2026.
For an informal and confidential discussion about the role, contact Joanna Thomas:
- Email: joannathomas@cinw.org.uk
- Telephone: 07951 852255
Interviews will take place at Tŷ Deiniol, Bangor, on 4 September 2026.