Yasmin De Rosa
Prentis | Apprentice

Ar hyn o bryd, mae Yasmin De Rosa yn cwblhau prentisiaeth mewn gweinidogaeth eglwysig yng Nghadeirlan Bangor. Fel mam leol i ddau fachgen, bu’n gweithio fel Cydlynydd Gweinidogaeth Deuluol yn y gadeirlan cyn penderfynu archwilio gweinidogaeth ymhellach fel prentis.
Dyma hi'n dweud wrthym am ei siwrnai ffydd.
Beth a’ch ysbrydolodd i ddod yn brentis gweinidog?
Ar ôl cyfnod o weithio yn y Weinidogaeth Deuluol, cynyddodd fy ffydd yn sylweddol, a thyfodd fy chwilfrydedd am fywyd gweinidogaethol. Dechreuais arsylwi y gwaith a wneir yn fy eglwys a gwrando ar alwad i wasanaethu. Er fy mod yn ansicr o beth neu ble roeddwn i'n cael fy ngalw, gweddïais i archwilio hyn ymhellach a darganfod y cynllun prentisiaeth.

A allwch rannu trosolwg o’r hyn rydych wedi bod yn ei wneud hyd yma?
Fel y gallwch ddychmygu, gall bywyd mewn Cadeirlan fod yn hynod brysur gyda llawer o wasanaethau, grŵp babanod a phlant bach ffyniannus, digwyddiadau 'lleoedd cynnes', ymweliadau ysgolion, cyngherddau a llawer mwy. Mae bod yn bresennol ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau fel hyn wedi rhoi cyfle i mi gyflawni llawer o dasgau, megis cynnal digwyddiadau, agor/cau’r adeilad, darllen yn gyhoeddus, gwasanaethu a dosbarthu’r cymun yn ystod gwasanaethau Eucaristaidd, arwain gweddi boreol, paratoi pregethau ac ysgrifennu gweddïau.
Cefais gyfle i ysgrifennu gweddïau nid yn unig ar gyfer gwasanaethau’r Gadeirlan ond hefyd fel Cyd-Gaplan i Faer Cyngor y Ddinas. Bu hefyd yn fraint cael mynd gyda Caplan Y Brifysgol wrth groesawu myfyrwyr newydd a’r rhai sy’n dychwelyd.
Yn ogystal bu i mi deithio ar ddwy ran o lwybr pererindod Gogledd Cymru ochr yn ochr a Offeiriad Arloesol a roddodd fewnwelediad i fath gwahanol o weinidogaeth, un nad wyf yn arfer ei weld.
Drwy gydol fy nhaith, rwyf wedi cael fy annog gan gydweithwyr ac aelodau’r gynulleidfa i wella fy sgiliau yn yr iaith Gymraeg, ac ers hynny rwyf wedi magu hyder ac wedi bod yn hyrwyddo’n weithredol ei defnydd o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
Mae lleoliadau gwaith wedi cynnwys profiad o fywyd mewn cymuned eglwys plwyf ac wedi dangos i mi sut mae gwasanaethau’n amrywio, gyda perthnasau ystyrlon yn cael eu hadeiladu drwy weddi, sgyrsiau a gofal bugeiliol cyffredinol.
Sut mae eich dealltwriaeth o’r Ysgrythur wedi datblygu ers i chi ddechrau eich prentisiaeth?
Rwyf yn ymddiddori yn y Beibl yn enwedig felly sut y gellir dehongli'r ysgrythurau mewn ffyrdd amrywiol. Fel rhan o’m prentisiaeth, rydym yn astudio tuag at gymhwyster Lefel 4 mewn cwrs Theoleg ar gyfer Bywyd. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi dysgu sut y gellir dehongli y Beibl o safbwyntiau gwahanol, gan ganiatáu i mi astudio’r ysgrythur nid yn unig yn ysbrydol ond hefyd gyda dull theolegol a beirniadol. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth o sut mae'n siarad â’r gynulleidfa wreiddiol yn ogystal a gyda ni heddiw, wrth hefyd ennill gwybodaeth ddyfnach o’r Beibl, gan gynyddu fy ffydd a’m taith bersonol.

Pa fath o fentora neu arweiniad ydych yn ei dderbyn yn ystod eich prentisiaeth?
Yn ystod fy mhrentisiaeth gweinidogaeth, cefais fy annog i dderbyn mentora cyson yn enwedig mewn datblygiad gweinidogaethol. Mae fy mentor wedi chwarae rôl allweddol yn fy helpu i dyfu mewn hyder, yn barhaus yn darparu cyfleoedd i mi alluogi fy hun a gwthio fy ffiniau fy hun, gan fy annog i archwilio cyfrifoldebau newydd fel gofal bugeiliol, pregethu, arwain gwasanaethau ac ysgrifennu gweddïau. Drwy gyfarfodydd un-i-un rheolaidd, rydym yn adlewyrchu’n gyson ar brofiadau gweinidogaeth, gan archwilio meysydd ar gyfer twf ac astudio. Mae’n bwysig cael presenoldeb sefydlog o ddoethineb a chefnogaeth gan wahanol offeiriaid, mae wedi bod wedi bod yn rhan hanfodol o’m prentisiaeth.
Mae fy mentor wedi chwarae rôl allweddol yn fy helpu i dyfu mewn hyder
Mae’r staff yn Athrofa Padarn Sant hefyd wedi darparu mewnbwn a chefnogaeth werthfawr , gan gynnig mewnwelediad theolegol a chynhyrchion ymarferol i gynorthwyo gyda’m dysgu. Mae cefnogaeth hefyd ar gael trwy Goleg Sir Gâr sy’n goruchwylio’r brentisiaeth, felly mae llawer o opsiynau i geisio cefnogaeth.
Beth oedd yr agwedd fwyaf heriol o fod yn brentis gweinidog?
Tu allan i’m lleoliad gwaith, rwyff wedi bod yn ffodus iawn i gael fy amgylchynu gan rwydwaith cryf o ffrindiau a theulu sy’n fy nghefnogi bob cam o’r ffordd. Mae ceisio cyd-bwyso gweinidogaeth gyda bywyd teuluol, yn enwedig gyda phlant ifanc, yn her ond mae cael pobl o’m cwmpas sy’n deall, yn annog ac yn fy nghefnogi wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae’r pwysigrwydd o neilltuo amser ar gyfer astudio hefyd yn hynod bwysig ac mae rheoli amser wedi bod yn hanfodol i allu cwblhau’r prentisiaeth.

Beth ydych chi’n gobeithio’i gyflawni neu’i gyfrannu at eich cynulleidfa unwaith y bydd eich prentisiaeth wedi dod i ben?
Bu llawer o agweddau ar y brentisiaeth sydd wedi bod yn werthfawr iawn i mi yn bersonol ar fy nhaith ffydd. Mae’r sgiliau rwyf wedi’u datblygu ym maes arweinyddiaeth ac yn fy hyfforddiant diwinyddol nid yn unig wedi fy helpu i dyfu fel gweinidog, ond hefyd wedi fy atgoffa nad yw gweinidogaeth byth yn cael ei wneud ar ben ei hun – mae’n ffynnu mewn cymuned.
Fy ngobaith yw meithrin y gymuned eglwysig gyda gostyngeiddrwydd a thosturi, gan annog eraill i dyfu yn eu ffydd mewn ffordd hygyrch. Mae bod yn bresennol, yn gwrando ar eraill, gan eu galluogi i ddod o hyd neu ail-ddarganfod eu taith ffydd, wedi bod yn brofiad hynod ostyngedig, ac rwy’n gobeithio parhau â hynny.
rwy’n dymuno sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn ein cymuned yn cael eu clywed ac yn teimlo’n gyfforddus i ymgysylltu â’r newyddion da
Mae defnyddio a dathlu’r Gymraeg mewn gweinidogaeth eglwysig yn rhan allweddol o’r weledigaeth hon. Mae’r efengyl yn lleisio’n bwerus drwy iaith calon y bobl, iaith fydd, ac rwy’n dymuno sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn ein cymuned yn cael eu clywed ac yn teimlo’n gyfforddus i ymgysylltu â’r newyddion da yn eu hiaith eu hunain.
Rwy’n gobeithio creu mannau ychwanegol lle nad yw’r iaith a’r diwylliant ond yn cael eu clywed a’u cynnwys, ond yn cael eu dathlu a hynny o’r cychwyn cyntaf.
Yn y pen draw, fy nghais yw cynorthwyo’r eglwys i gyflawni cenhadaeth Duw drwy gefnogi mannau diogel a chroesawgar sydd eisoes yn bodoli i bawb, a bod yn arwydd gweledol o obaith a gras yn y gymuned – man lle gall pobl ddod i brofi cariad Crist, dod o hyd i berthyn, ac ennill y brofiad perthnasol i fyw eu ffydd yn eu bywyd bob dydd.
Yasmin De Rosa is currently completing an apprenticeship in church ministry based at St Deiniol's Cathedralin Bangor. As a local mother of two boys, she has been working as Family Ministry co-ordinator in Bangor Cathedral before deciding to explore ministry further as an apprentice.
Here she tells us about her journey of faith.
What inspired you to become an apprentice minister?
Having worked within Family Ministry, my faith has increased greatly during this time, and my curiosity of ministry life grew. I began to observe the work being carried out within my church and stopped and listened to a call to serve but as I was unsure of what or where I was being called to, I prayed to explore this further and discovered the apprenticeship scheme.

Can you share an overview of what you have been up to so far?
As you can imagine life in a Cathedral can be extremely busy with many services, a thriving baby and toddler group, warm spaces events, school visits, concerts and many more. Being present for a variety of these has given me an opportunity to undertake many tasks from hosting events, opening/closing the building, public reading, serving and distributing the blood of Christ during Eucharistic services, leading morning prayer, preparing sermons and writing prayers.
There has been an opportunity to write prayers not only for the Cathedral services but also as assistant Chaplain to the Mayor of the City Council. I have also been privileged to accompany the University Chaplain in welcoming both new and returning students.
A pilgrimage experience walking two sections of the North Wales pilgrim way route alongside a pioneer priest gave an insight into a different type of ministry than one I am used to seeing.
Throughout my journey, I have been encouraged to enhance my Welsh language skills from both colleagues and congregation members and have since grown in confidence, actively promoting its use within the Church in Wales.
Work placements have included experiencing life within a parish church community and has given me an insight into how services vary, with meaningful relationships built through prayer, conversations and general pastoral care.
How has your understanding of Scripture evolved since you began your apprenticeship?
I am fascinated by the Bible and how scriptures can be interpreted in various ways. As part of the apprenticeship, we are undertaking a Level 4 qualification in Theology for Life. During this time, I have learnt to approach the Bible from different perspectives, allowing myself to study the scripture not only devotionally but with a theological and critical approach. This gives an understanding of how it speaks to both the original audience and to us today whilst gaining a deeper knowledge of the Bible, increasing my faith and personal journey.

What kind of mentorship or guidance are you receiving during your apprenticeship?
During my church ministry apprenticeship, I have been fortunate to receive consistent mentorship particularly in ministerial development. My mentor has played a key role in helping me grow in confidence continually providing me with various opportunities outside of my comfort zone, encouraging me to explore new responsibilities such as pastoral care, preaching, leading services and writing prayers. Through regular one-to-one meetings, we have been able to reflect on ministry experiences exploring areas for growth and study. The importance of having steady presence of wisdom and encouragement from various clergy has been an essential part of the apprenticeship.
My mentor has played a key role in helping me grow in confidence
The staff at St Padarn’s have also provided valuable support and input, offering theological insight and practical tools to assist with learning. There is also support available via Coleg Sir Gar who are overseeing the apprenticeship therefore there are many options to seek support.
What’s been the most challenging aspect of being an apprentice minister?
Outside my workplace, I have been incredibly blessed to be surrounded by a strong support network of friends and family. Balancing ministry and family life, especially with young children, is a challenge but having people around me who understand, encourage and support me has made all the difference.
The importance of dedicating time for study is also incredibly important and time management has been vital in being able to complete the apprenticeship.

What do you hope to achieve or bring to your congregation once your apprenticeship is complete?
There have been many aspects of the apprenticeship that have been of great value to me personally in my faith journey. My leadership development skills and theological training has not only helped he grow as a minister but has also reminded me that ministry is never done alone and thrives in community.
My hope is to nurture the church community with humility and compassion, encouraging others to grow in their faith in a way that’s accessible. Being present and listening to others, allowing them to find or rediscover their faith journey has been an incredibly humbling experience which I hope to continue doing so.
I wish to ensure that Welsh speakers in our community are heard and feel comfortable to engage with the good news
A key part of this vision is using and celebrating the Welsh language in church ministry. The gospel speaks powerfully through the heart language of the people, and I wish to ensure that Welsh speakers in our community are heard and feel comfortable to engage with the good news in their own tongue. I hope to create additional spaces where the language and culture are not just included but are honoured and celebrated from birth.
Ultimately, I wish to assist the church in carrying out God’s mission by supporting established safe and welcoming spaces for all, being a visible sign of hope and grace within the community. A place where people can encounter the love of Christ, find belonging and are equipped in living out their faith in daily life.