minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Ysbrydolrwydd

Mae ein hysbrydolrwydd yn ymwneud â’r modd rydyn ni’n byw ein fydd o ddydd i ddydd, gan ddilyn ffordd a dysgeidiaeth Iesu Grist. 

Rydyn ni, bob un ohonon ni, yn fodau ysbrydol a grëwyd ar lun a delw Duw, ond efallai nad ydyn ni wastad yn ymwybodol o’n hysbrydolrwydd. Mae’n rhan ohonon ni sydd ddim o reidrwydd yn hawdd ei ddisgrifio, ond fe wyddon ni ei fod yno. Mae’n cynnwys y ffyrdd rydyn ni’n gweddïo, traddodiadau, defodau ac addoliad yr eglwys sy’n ein dwyn yn agosach at Dduw. Mae’n ymwneud â’r modd rydyn ni’n cynnwys hanfod ein ffydd yn ei penderfyniadau a’n bywydau dyddiol.

Beth mae ysbrydolrwydd yn ei olygu i chi?

  • A ydych chi’n rhan o gymuned eglwys ac, os felly, sut a pham bod hynny’n bwysig ichi?
  • Pa ffurf ar weddi ac addoliad sy’n eich dwyn chithau’n agosach at Dduw?
  • Sut ma hynny’n amlygu ei hun yn eich bywyd?

Gweddi am Ddealltwriaeth Ddyfnach

O Dduw, fel un a grëwyd ar dy lun,
fe blethaist o’n mewn
edefyn aur o ysbrydolrwydd
sy’n chwilio dealltwriaeth,
gwreichionyn fflam ennynol
sy’n disgwyl ei danio.

Arwain fy nwylo i blethu mewn cariad
Gwahanol agweddau fy myw a’m bod,
fel bo ’mywyd, o ddydd i ddydd
yn adlewyrchu’r alwad ysbrydol mewnol
a glyw fy nghalon oddi wrthot Ti.
Helpa fi i wrando, i ddirnad
ac i ddilyn.

Amen.


Gweddi

Yn syml iawn, gweddi ydy’n sgwrs ninnau â Duw, a Duw gyda ninnau. Mae gweddi’n gymunedol pan fydwn yn dod ynghyd fel cymuned yn yr eglwys. Mae gwedii hefyd yn bersonol a phreifat, y weddi honno a weddïwn wrth inni weddïo pan fyddwn wrth ein hunain, p’un ai i ddyfnhau ein perthynas ein hunain â Duw, neu ar ran y rhai rydyn ni’n eu nabod a’r byd yn gyffredinol. 

Os ydych chi’n rhan o gymuned eglwys, fe fyddwch chi’n gyfarwydd â’r gweddïau a offrymir yn y gwasanaethau boreol a hwyrol, a’r Cymun Bendigaid. Dyma’r adegau pan ddown ynghyd ac eto’n gweddïo fel un llais, un pobl.

Mae gweddi’n fwy nag offrwm mewn eglwys neu ar y Sul. Mae gweddill dyddiau’r wythnos wedi’u rhoi inni i weddïo hefyd. Adref, fe all ein gweddïau gymryd sawl ffurf:

  • Dilyn gwasanaeth dyddiol o weddi bore a hwyr.
  • Defnyddio nodiadau darllen y Beibl.
  • Gweddïau eiriolaeth dros y gymuned a’r byd yn ehangach.
  • Eistedd mewn myfyrdod tawel, mynd am dro.

Dyan hefyd yr adegau hynny a dreuliwn mewn gweddi gyda Duw wrth ein hunain, yn gweddïo dros ein bywydau’n hunain a’n taith ffydd, dros ein pryderon ac am ein gobeithion. Nid ‘gwastraffu amser’ ydy hyn ond gweithred bwysig tu hwnt wrth ddyfnhau ein perthynas â Duw a’n parodrwydd i agor y drws i Dduw i bob rhan o’n bywydau.

Sut i weddïo?

Lle fyddwch chi’n gweddïo? Lle gewch chi lonydd a theimlo’n gyfforddus?

Penderfynwch ‘sut a beth’ fydd eich gweddi, er enghraifft, gweddi dyddiol, gweddïo gyda darlleniad o’r Beibl, gweddïo dros eraill, gweddïo am eich taith bersonol chithau gyda Duw, gweddïo gan ddefnyddio geiriau, cerddoriaeth, celfyddyd, neu mewn tawelwch.

Cofiwch fod â ph[peth fydd arnoch eu hangen wrth law, er enghraifft, Beibl, llyfr gweddi, nodiadau darlleniadau dyddiol, pensiliau, crayonau, papur – bydd yr hyn fydd arnoch eu hangen y dibynnu ar y ffurf o weddi rydych chi am ei dilyn.

Efallai y byddai’n gymorth cynnau cannwyll, neu chwarae cerddoriaeth tawel, gorffwysol yn y cyefndir, nid unrhyw beth fyddai’n tynnu gormod o’ch sylw ond i’ch helpu ail-ffocysu ar weddi pan fo’r meddwl ar grwydr.

Cymerwch eich hamser a gwneud lle i weddi yn eich diwrnod.

Mi all fod yn help anadlu’n araf a phwyllog ychydig o weithiau fel modd i ymdawelu ac ymlacio.

Pa fyddwch chi’n barod, gofynnwch i Dduw fod gyda chi yn eich gweddi, yna dechreuwch.

Gorffennwch pan fo hi’n teimlo’n iawn i chi , gan offrymu’r amser hwnnw i Dduw. Os bu’r weddi yn un bersonol, gall fod yn gymorth gwneud nodiadau, tebyg i ddyddlyfr neu ddyddiadur, i nodi eich meddyliau a’ch teimladau.

Gweddi ar gyfer y Daith Bersonol

Fe ddof o dy flaen, O Dduw, mewn gweddi
â’m meddwl yn llawn meddyliau digymell;
dal nhw ar fy rhan, dyna ‘ngweddi.

Fe ddof o dy flaen, O Dduw, i fod yn llonydd
a thawel nes mod i’n dechrau aflonyddu;
dal fi’n dyner, dyna ‘ngweddi.

Fe ddof o dy flaen, O Dduw, er mwyn teimlo
Dy bresenoldeb ac eto, wele fi’n oedi, yn petruso gadael iti glosio;
dal fi mewn cariad, dyna ‘ngweddi.

Fe ddof o dy flaen, O Dduw, yn wag
ac yn chwilio i gael fy llenwi â thangnefedd;
dal fi’n dynnach, dyna ‘ngweddi.

Fe ddof o dy flaen, O Dduw, dan gredu,
a gwybod dy fod yn clywed fy ngeiriau, ar lafar ac yn y galon;
dal fi’n wastadol, dyna’ ‘ngweddi.

Amen.


Cyfarwydyd Ysbridol

Dyma ichi wrando gweddïgar, sef bod yno i berson arall i wrando un ag un wrth iddyn nhw geisio deall eu bywyd a’u ffydd.Mae cyfarwyddyd ysbrydol i bawb, nd yn unig i’r rhai hynny sy’n dirnad galwad gan Dduw i weinidogaethu. Mae ar gael i unrhyw un sydd am ddyfnhau eu ffydd a’u gweddïo, i ddyfnhau eu perthynas â Duw. Mae pob un o gyfarwyddwyr ysbrydol ar restr yr esgobaeth wedi derbyn hyfforddiant, ac yn parhau i dderbyn, ynghyd â goruchwyliaeth a chyfarfod â’u cyfarwyddwr ysbrydol eu hunain. 

Er bod y gair ‘cyfarwyddyd’ yn cael ei ddefnyddio, dydy cyfarwyddwyr ysbrydol ddim yn cyfeirio sgwrs yn yr ystyr ffurfiol ond, yn hytrach, arwain a galluogi sgwrs i ddigwydd, a chyda Duw. Y rhai hynny sy’n dod at gyfarwyddyd ysbrydol sy’n penderfynu faint maen nhw’n fodlon ei rannu mewn sgwrs; fe fydd y cyfarwyddwr yn ceisio dyfnhau’r sgwrs hwnnw a’r ymwybyddiaeth o Dduw oddi fewn i hynny.

Bydd y cyfarwyddwr ysbrydol ddim yn cynghori, datrys problem na dweud wrthoch chi beth i’w wneud, ond efallai y gwnawn nhw gynnig awgrymiadau gweddi neu ffordd wahanol o weddïo. Trwy wrando fe fydden nhw’n helpu ac arwain yr un ddaw atyn nhw, i wireddu eu hatebion a’u ffordd ymlaen eu hunain.

Mae cyfarwyddyd ysbrydol yn weinidogaeth a ymgymerir gan leygwyr a phobl ordeiniedig. Mae’n weinidogaeth a roddir ganddyn nhw’n rhad ac am ddim.

Gweddi am Gyfarwyddyd Ysbrydol

I Dduw, yr holl bresennol, y gweddïaf:
dros y sawl sy’n gwrando,
boed iddyn nhw fod yn berson gweddïgar a hwyliog,
a fydd yn croesawu’n ddiffuant ac yn gwrando’n ddiamod,
wrth imi geisio rhannu fy stori am fywyd, ffydd a gweddi.

I Dduw, yr holl bresennol, y gweddïaf:
dros y sawl fydd yn llefaru,
boed iddyn nhw fod yn berson sy’n chwilio
i ddyfnhau eu dealltwriaeth am Dduw,
a fydd yn siarad mor agored â phosib,
a theimlo cynhaliaeth tangnefedd yr Ysbryd Glân
a gafael tyner yr un sy’n gwrando.

Boed i Dduw fod gyda’r sawl sy’n gwrando
a chyda’r un sy’n ceisio gwrandawiad,
boed i’r amser hwnnw ynghyd,
a’r cynnig o ofod cysegredig,
ddwyn adnewyddiad ac adfywiad,
yn Iesu Grist, offrymaf y weddi hon.

Amen.


Mwy o wybodaeth

Y Parchg Janet Fletcher

Am fwy o wybodaeth ac i siarad â rhywun am Gyfarwyddyd Ysbrydol, cysylltwch â Y Pachg Janet Fletcher, Swyddog Ysbrydolrwydd a Gweinidogaeth, Cynullydd Cyfarwyddyd Ysbrydol yr Esgobaeth, 01492 874947 neu janetflectcher@btinternet.com

Cymraeg

Spirituality

Spirituality relates to how we live out our faith day by day following the way and teaching of Jesus Christ. 

We are all spiritual beings created in the image of God, but we may not always be aware of our spirituality. It is a part of us that may not be easy to describe, but we know it’s there. It includes the ways in which we pray, the traditions, rituals and worship of the church that draws us closer to God. It is about the way in which we bring the essence of our faith to the decision making and living out of our lives, day by day.

What does spirituality mean to you?

  • Are you a part of a church community, and if so, how and why is that important to you?
  • What style of prayer and worship draws you closer to God?
  • How is that lived out in your life?

Prayer for a Deeper Understanding

O God, created in your image,
you have woven within me
the golden thread of spirituality
that seeks understanding,
the spark of a kindling flame
that seeks to be ignited.

Guide my hands to weave with love
The different aspects of my being,
so my life that is lived out daily
may reflect the inner spiritual call
that I hear in my heart from you.

Help me to listen, to understand
and to follow.

Amen.


Prayer

Prayer is very simply, our conversation with God, and God with us. Prayer is communal when we gather as a community in church. Prayer is also personal and private, the prayer we pray when alone, whether this to deepen our own relationship with God, or for those we know and the wider world. 

If you are part of a church community you will be familiar with the prayers offered at a morning or evening service, and of the Eucharist. These are the times when we gather together and yet pray as one people.

Prayer is more than a Sunday – or church – offering. The other days of the week are there for us to pray too. At home our prayers may take many forms, such as 

  • Following a daily office of morning and evening prayer.
  • Using bible reading notes.
  • Prayers of intercession for the wider community and world.
  • Sitting in silent reflection or going out for a walk.

There is also the times we spend in prayer with God alone, to pray for our own life and journey in faith, for our own concerns and hopes. This isn’t wasting time but really important in deepening our relationship with God and letting God willingly into the whole of our lives.

How to pray

Decide on ‘how and what’ your prayer is. For example, daily prayer, praying with a bible passage, praying for others, praying for you own personal journey with God, praying with words, music, art, or in silence.

Have with you all that you may need – for example, a bible, a prayer book, daily reading notes, pencils, crayons, paper – what is needed will depend upon the style of prayer you are seeking.

It may be helpful to light a candle, or play quiet restful music in the background, not something that will distract you but to help re-focus on prayer when the mind wanders.

Take time and make space in your day for prayer. It may be helpful to slowly and gently breathe in and then out a few times as a way of becoming quiet and still.

When you are ready, ask God to be with you in your prayer, and begin.

Finish whenever feels right and offer the time to God. Particularly if this has been personal prayer it can be helpful to make a few notes, to journal, your thoughts and feelings.

Prayer for the Personal Journey

I come before you, O God, in prayer
and my mind is flooded with unsought thoughts;
hold them for me, I pray.

I come before you, O God, to be still
and quiet until I begin to fidget and wriggle;
hold me gently, I pray.

I come before you, O God, to feel
your presence, and yet I hesitate to let you close;
hold me with love, I pray.

I come before you, O God, empty
and seeking to be filled with peacefulness;
hold me closer, I pray.

I come before you, O God, believing,
and know you hear my words, spoken and unspoken;
hold me always, I pray.

Amen.


Spiritual Direction

This is holy listening, a coming alongside another person in a one-to-one listening as they seek to understand their life and faith. Spiritual direction is for everyone, not only for those discerning a call from God to ministry. 

It is for anyone who wants to deepen their faith and prayer, to deepen their relationship with God. All spiritual directors on the diocesan list have received training, and continue to do so along with supervision and seeing their own spiritual director. 

Although the word ‘direction’ is used, spiritual directors don’t direct a conversation in a formal sense, but will guide and enable a conversation to take place, and with God. Those who come to spiritual direction decide how much they are comfortable in sharing and speaking about; the director will seek to deepen that conversation and awareness of God within it.

A spiritual director will not advice, sort out a problem or tell you what to do, but they may offer suggestions for prayer or a different way of praying. Through their listening they will help and guide the one they see to reach their own answers and way forward.

Spiritual direction is a ministry undertaken by lay people and those ordained. It is a ministry that is given freely by them.

A Prayer for Spiritual Direction

To God, ever present, I pray:
for the one who listens,
may they be a person of prayerfulness and humour,
who will listen unconditionally and with a true welcome,
as I seek to share my story of life, faith and prayer.

To God, ever present, I pray:
for the one who will speak,
may they be a person seeking
to deepen their understanding of God,
who will speak as honestly as is possible,
and feel held in the peace of the Holy Spirit
and of the one who listens.

May God be with the one who listens
and with the one who seeks to be listened to,
may the time together
and the offering of a sacred space,
bring refreshment and renewal;
in Jesus Christ, I make this prayer.

Amen.


More information

Revd Janet Fletcher

For more information and to talk to someone about Spiritual Direction contact Revd Janet Fletcher, Diocesan Spirituality and Ministry Officer, Diocesan Convenor of Spiritual Direction on 01492 874947 or janetflectcher@btinternet.com.