minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Gofwyon Trawsffurfiadol

Mae datblygu ein hegwyddorion a'n blaenoriaethau yn gofyn am benderfyniad, disgyblaeth a chynllunio.Mae'n tri Chynllun Datblygu'n caniatáu i bob Ardal Weinidogaeth ystyried sut mae'n hegwyddorion a'n blaenoriaethau wedi'u gwreiddio mewn agweddau allweddol o fywyd yr Ardal Weinidogaeth.Mae Cynlluniau Datblygu'n declynnau real, byw, y gall Cynghorau Ardaloedd Gweinidogaeth eu defnyddio i asesu cynnydd, a chyrff esgobaethol i ffurfio barn gadarn ynghylch, eiddo, grantiau, cyllid a chenhadaeth.Dylai'r cynlluniau hyn fod yn cael eu cwblhau mewn ymgynghoriad â'r Archddiacon fel rhan o'r broses Gofwy Archddiaconaidd blynyddol.

Meddai cyn Archddiacon Môn, yr Hyb. Andy Herrick, am y system blaenorol:

"Roedd yna adeg pan nad oedd Gofwy Archddiaconaidd, yn llythrennol, yn ddim ond ymarfer stamp rwber.Yn dilyn (fel arfer) anerchiad diflas oddi wrth archddiacon, yn bennaf ynghylch polisïau yswiriant, gwteri'n gollwng a cherrig beddau ansefydlog, roedd cofrestrau'r Eglwys a thrwyddedau'r clerigion yn cael eu stampio i ddangos fod popeth mewn trefn.Yna, roedden ni i gyd yn mynd adref i gadw'r status quo am flwyddyn arall."

Rydym ni yn y broses o ail ffurfio Gofwyon Archddiaconaidd yn Esgobaeth Bangor.Yn hytrach na pharhau am un diwrnod cyfan, maen nhw'n dod yn brosiectau tymor sefydlog sy'n cynnwys yr Archddiacon, Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth, y Tîm Gweinidogaeth ac aelodau o Dîm Deiniol.Bydd strwythur a ffocws y tri Chynllun Datblygu yn cael eu defnyddio i sefydlu camau cadarn i gyflawni cynnydd real a phrydlon yn y tri maes allweddol ym mywyd arferol yr Ardal Weinidogaeth.

Diben yr ail ffurfio

Mae'r broses Gofwy yn cael ei hail ffurfio er mwyn cefnogi Ardaloedd Gweinidogaeth yn y tri maes er mwyn canfod a dileu'r rhwystrau sy'n gallu dal cenhadaeth yn ôl.Bydd y broses newydd hon yn ceisio cynnwys Ardaloedd Gweinidogaeth mewn sgyrsiau trawsffurfiol er mwyn cyflawni'r newidiadau sy'n galluogi cenhadaeth.Bydd hyn yn cyd-fynd â'r gwaith y mae'r Archddiaconiaid a'r Arweinwyr Ardal Gweinidogaeth yn ei wneud yn eu hadolygiadau datblygu gweinidogaeth.Bydd defnyddio galluoedd proffesiynol y rhai yn Nhîm Deiniol hefyd yn lleihau'r pwysau ar wirfoddolwyr.

Wrth sôn am y gofwyon newydd meddai Esgob Cynorthwyol Bangor:

"Y peth anoddaf mewn gweinidogaeth yw teimlo eich bod ar eich pen eich hunan.Pan fyddwn yn teimlo fod yn rhaid i ni gwneud popeth ein hunain mae'n hawdd teimlo ein bod wedi'n llethu.Un rhan bwysig o'r ffordd rydym yn ceisio cynnal y Gofwyon y tro yma yw ceisio cadarnhau ein bod ni fel esgobaeth yn rhannu taith.Mae'n mor bwysig i'n cenhadaeth ein bod yn gallu dangos sut beth yw cyfeillgarwch gyda Duw a chyfeillgarwch gyda'n gilydd.Pan fyddwn yn cofio fod Duw gyda ni bob amser, a phan fyddwn yn gweithredu hynny fel cyfeillion i'n gilydd, gallwn ddarganfod cyfoeth y rhoddion mae Duw eisoes wedi'u rhoi i ni."

Beth fydd trefn y gofwyon?

Bydd yr Archddiacon yn cynnal cyfarfod cychwynnol gyda'r Arweinydd Ardal Weinidogaeth, Ysgrifennydd yr Esgobaeth ac aelodau eraill o Dîm Deiniol.Bydd hynny'n penderfynu ar beth fydd y Gofwy'n canolbwyntio, yn amlinellu pwy arall ddylai fod yn cymryd rhan, sut fydd y gofwy yn symud ymlaen a pha mor aml y bydd cyfarfodydd prosiect yn cael eu cynnal.Yn naturiol, mae hynny'n golygu y bydd y cyfnod Gofwy dilynol yn dra gwahanol ym mhob Ardal Weinidogaeth.

Dros nifer o fisoedd bydd yr Archddiacon, yr Arweinydd Ardal Weinidogaeth a'r Tîm Gweinidogaeth yn ystyried y meysydd a nodwyd yn y cyfarfod cychwynnol a allai gynnwys gwaith manwl gan grŵp bychan o bobl.Gallai hefyd gynnwys ystyried y dyfodol gan ganolbwyntio ar strategaethau allweddol trwy gyfres o sgyrsiau creadigol.

Daw'r cyfnod Gofwy i ben pan fydd y nodau allweddol a nodwyd yn y cyfarfod cychwynnol wedi'u cyfarfod, gan ei gwneud yn bosibl edrych yn ôl ar Ofwy sydd wedi helpu'r Ardaloedd Gweinidogaeth i ddatrys problemau allweddol.

Meddai cyn Archddiacon Môn, a oedd yn llywio'r gofwyon newydd:

"Roedd bod yn rhan yn ddiweddar o gyfarfod cychwynnol y dull newydd o ofwyon yn ffantastig.Roedden ni'n siarad yn strategol ac yn bwrpasol ynghylch cenhadaeth, adeiladau a chyllid ac yn trafod pa ffordd ymlaen a fyddai orau i'r Ardal Weinidogaeth.Mae hyn yn newid cyffrous a dynamig a fydd yn drawsnewidiol i'n Hardaloedd Gweinidogaeth a fydd yn ein galluogi i Addoli Duw, Tyfu'r Eglwys a Charu'r Byd yn fwy effeithiol."

Cyfraniad Tîm Deiniol

Yn ogystal ag Ysgrifennydd yr Esgobaeth bydd aelodau eraill o Dîm Deiniol yn gweithio ar y cyd â'r Ardal Weinidogaeth i ddatblygu'r Gofwy, yn enwedig ym meysydd Cyllid ac Eiddo.

Ym maes cyllid, un agwedd i'w harchwilio yn ystod y Gofwy yw natur y gefnogaeth a gynigir i'r Ardal Weinidogaeth a thrysoryddion yr eglwysi gan Owain Pritchard, Kelly Edwards ac eraill yn Nhîm Deiniol.Mewn rhai Ardaloedd Gweinidogaeth bydd y gefnogaeth yn cynnwys hyfforddiant i dîm y trysorydd neu gyflwyno pecynnau meddalwedd newydd sy'n adeiladau ar lwyddiant y Cydlynydd Ariannol a My Giving ar lein.Mewn Ardaloedd Gweinidogaeth eraill ble mae mwy o bwysau ar dîm y trysorydd, bydd y Gofwy yn trafod y posibilrwydd y gallai Tîm Deiniol, yn hytrach na defnyddio cwmnïau cyfrifeg lleol, gadw'r cyfrifon ar ran yr Ardal Genhadaeth.Mae hyn yn rhywbeth y bydd angen ei ystyried yn ofalus ym mhob Ardal Weinidogaeth er mwyn sicrhau ein bod yn realistig ac yn dryloyw am natur y gefnogaeth sydd ei angen ac sydd ar gael.

Ym maes eiddo, bydd y Gofwyon yn cynnig cyfle i drafod camau nesaf ar ôl y broses Esra a'r gefnogaeth ychwanegol y mae penseiri'r Ardal Weinidogaeth wedi'i gynnig yn ystod y blynyddoedd blaenoro.Wrth i'r archwiliad pum mlynedd newydd nesau, bydd y Gofwyon yn llwyfan i bob Ardal Weinidogaeth ystyried y defnydd gorau o'u dyraniad o adnoddau cefnogi eiddo a ffurf eu perthynas yn y dyfodol gyda phensaer yr Ardal Weinidogaeth.

Hollalluog Dduw,
a ysbrydolaist dy esgob Deiniol
i gasglu o'i gwmpas gymuned o Gristnogion
i gyd-fyw bywyd cytûn;
caniatâ i ni, sy'n anrhydeddu'r cof amdano
weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys
mewn ffydd, gobaith a chariad;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd
y bo iddo gyda thi a'r Ysbryd Glân
yr holl anrhydedd a gogoniant
yn awr ac am byth.
Amen.

Beth yw ein cynlluniau?

Mae ein cynlluniau'n ein galluogi ni rannu darlun manwl o ble rydym ni ar hyn o bryd, tra'n ein helpu hefyd i ddychmygu'n greadigol sut y gallwn ni ddatblygu'n hadnoddau i alluogi cenhadaeth yr Eglwys ar draws ein holl Ardaloedd Gweinidogaeth.Mae pob rhan o'r cynlluniau'n gyfle i ddangos yr hyn sydd angen ei wneud ac yna ddirnad y dyfodol.

Cynllun Datblygu Cenhadaeth yr Ardal Weinidogaeth

Cynllun Datblygu Cenhadaeth yr Ardal Weinidogaeth yw'r ddogfen allweddol sy'n dod ynghyd bopeth rydym yn ceisio ei wneud i blannu'n hegwyddorion a'n blaenoriaethau ym mywyd cyffredin yr Ardal Weinidogaeth.Gan gymryd pob un o'n hegwyddorion a'n blaenoriaethau yn eu tro, gofynnir i ni ystyried ble ydym ni ar hyn o bryd a dirnad gweledigaeth yn dangos ble rydym yn gobeithio bod mewn tair neu bum mlynedd.

Cynllun Eiddo Ardal Weinidogaeth

Dylai ein hadeiladau fod yn ein helpu i wireddu'n gweledigaeth.Mae'r Cynllun Datblygu Eiddo'r Ardal Weinidogaeth yn edrych ymlaen at 2030. Mae'n darlunio sefyllfa bositif a grymus o ran eiddo ar gyfer yr Ardal Weinidogaeth - un a fydd yn ein helpu i ddarparu ein gweledigaeth gyffredin.Mae hyn yn gyfle i drafod yr holl asedau o ran adeiladau, anheddau, eiddo a'r tir sydd ym mherchnogaeth ac yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan yr Eglwys; ac yna i ganfod gweledigaeth o ofod sanctaidd, gofod hyblyg, gofod ac adeiladau cymunedol a fydd o gymorth i gyflawni cenhadaeth yr Ardal Weinidogaeth.Rydym yn anelu at fod yn obeithiol; yn realistig ac i gyrraedd rhagoriaeth.

Cynllun Ariannu Ardal Weinidogaeth

Mae'r Cynllun Datblygu Ariannu'r Ardal Weinidogaeth yn edrych ymlaen at 2020 a thu hwnt.Mae'n tynnu darlun bywyd o fframwaith ariannu fywiol i'r Ardal Weinidogaeth - unwaith eto, un a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth a rennir.Mae hyn yn gyfle i ystyried gweinyddiaeth ariannu ar draws yr Ardal Weinidogaeth; Cronfa Weinidogaeth yr Esgob; rhoi wedi'i gynllunio a haelioni o ddydd i ddydd; codi arian, rhoddion mawr a ffynonellau newydd o incwm: a chynlluniau eofn, lle nad yw arian yn broblem.Rydym yn anelu at fod yn obeithiol; yn realistig ac i weld arian fel gwas cenhadaeth yr Eglwys.


Cymraeg

Transformational Visitations

Advancing our principles and priorities requires focus, discipline and planning. Our three Development Plans allow each Ministry Area to reflect on how our principles and priorities are rooted within key aspects of the life of the Ministry Area. The Development Plans are real, living tools that can be used by Ministry Area Councils to assess progress, and by diocesan bodies to make grounded judgements about properties, grants, funding and mission. These plans are to be completed in consultation with the Archdeacon as part of the annual Archidiaconal Visitation process.

The former Archdeacon of Anglesey, the Ven. Andy Herrick said of the previous system:

“There was a day when an Annual Visitation was quite literally a rubber-stamping exercise. Following a (usually) dull address from an archdeacon, mostly about insurance policies, leaking gutters and unstable gravestones, Church registers and clergy licences were stamped to show that all was in order. And then we all went home to keep the status quo going for another year.”

We’re in the process of reimagining Archidiaconal Visitations in the Diocese of Bangor. Rather than lasting a single day these are to become fixed term projects involving the Archdeacon, Ministry Area Leader, Ministry Team and members of Tîm Deiniol. They will use the structure and focus of the three Development Plans, to establish concrete steps forward to achieve real and timely progress in the three key areas within the common life of the Ministry Area.

Purpose of reimagining

The Visitation process is being reimagined in order to support Ministry Areas in the three areas so that barriers which can hold back mission are recognised and removed. This new process seeks to engage Ministry Areas in transformative conversations to bring about progress and change which enables mission. This will complement the work that the Archdeacons and Ministry Area Leaders are doing with their ministry development reviews. Using the professional abilities of those within Tîm Deiniol will also reduce the pressure on volunteers.

Speaking of these new style visitations the Assistant Bishop of Bangor says:

“The hardest thing in ministry is to feel alone. When we feel we have to do everything ourselves it is easy to feel overwhelmed. One important part of the way we are seeking to approach Visitations at this time is to try and affirm that as a diocese we are on a shared journey. It is so important for our mission that we can demonstrate what friendship with God and friendship with one another is like. When we remember that we are always accompanied by God, and when we live this out as companions to one another we can discover the richness of the gifts that God has already given us.”

What will the visitations look like?

An initial meeting will be held by the Archdeacon with the Ministry Area Leader, the Diocesan Secretary and other members of Tîm Deiniol. This will determine the focus of the Visitation outlining who else needs to be involved, how the visitation will progress and how frequently project meetings will take place. This, naturally, means that the subsequent Visitation period will look very different for each Ministry Area.

Over the course of several months work the Archdeacon, Ministry Area Leader and Ministry Team will address the areas identified in the initial meeting which may involve detailed work by a small group of people. This may also involve visionary work focussing on key strategies through a series of creative conversations.

The Visitation period will come to an end when the key goals identified in the initial meeting have been met making it possible to look back at a Visitation which has helped Ministry Areas to address key issues.

The former Archdeacon of Anglesey, who piloted the new style visitations says:

“To have recently been part in the initial meeting of the new style visitations was fantastic. We talked strategically and with purpose about mission, buildings and finance, and mapped out a way forward that would be best for the Ministry Area concerned, with practical and committed support from the diocesan staff to ensure that things move forward at a good pace. This is an exciting and dynamic change that will be transformative for our Ministry Areas and enable us to Worship God, Grow the Church and Love the World more effectively.”

Involvement from Tîm Deiniol

In addition to the Diocesan Secretary other members of Tîm Deiniol will work alongside the Ministry Area to aid the progression of the Visitation, especially in the areas of Finance and Property.

In the area of finance, one aspect to be explored during the Visitations is the nature of support offered by Owain Pritchard, Kelly Edwards and others in Tîm Deiniol to the Ministry Area and church treasurers. In some Ministry Areas this will involve training support for the treasurer team or the introduction of new software packages which will builds on the success of Finance Coordinator and My Giving online. In other Ministry Areas where there is more pressure on the treasurer team, the Visitation will explore the possibility of bookkeeping functions being undertaken by Tîm Deiniol of behalf of the Ministry Area instead of using local accountancy firms for this work. This is something that will need to be considered carefully in each Ministry Area to ensure we are realistic and transparent about the nature of the support required and available.

In the area of property, the Visitations will offer the opportunity to explore the next steps after the Ezra process and the additional support offered by Ministry Area architects which has been offered over previous years. As a new quinquennium approaches Visitations will provide a platform for each Ministry Area to reflect on the best use of their allocation of property support resources and the future shape of their relationship with the Ministry Area architect.

Almighty God,
who inspired your bishop Deiniol
to gather around him a community
to live the common life:
grant that we, who honour his memory,
may work to build up the family of your Church
in faith and hope and love;
through Jesus Christ your Son our Lord;
to whom with you and the Holy Spirit
be all honour and glory,
now and for ever.
Amen.

What are our plans?

Our plans allow us to share a detailed picture of where we are now, whilst also helping us to imagine creatively how we can develop our resources to enable the mission of the Church across all our Ministry Areas. Each part of the plans offers an opportunity to map the territory and then to discern the future

The Ministry Area Mission Development Plan

The Ministry Area Mission Development Plan is the key document that brings together all that we seek to do to root our principles and priorities within the common life of the Ministry Area. Taking each of our principles and priorities in turn, we're asked to reflect on where we are now, and to discern a vision for we'd hope to be in three or five years' time.

The Ministry Area Property Plan

Our buildings need to help us deliver our vision. The Ministry Area Property Development Plan looks ahead to 2030. It sketches out a positive and compelling property set-up for the Ministry Area – one that will help us deliver our shared vision. Here is an opportunity to map all of the buildings, premises, properties and land assets currently owned and used by the Church; and then to discern a vision of sacred space, flexible space, community space and accommodation that would help to fulfil the mission of the Ministry Area. We aim to be hopeful; to be realistic: and to achieve excellence.

The Ministry Area Finance Plan

The Ministry Area Finance Development Plan looks ahead to 2020 and beyond. It sketches out a life giving financial framework for the Ministry Area - again, one that will help us deliver our shared vision. This is an opportunity to consider financial administration across the Ministry Area; the Bishop's Ministry Fund; planned giving and day-to-day generosity; fundraising, major gifts and new income streams: and bold, money-no-object plans. We aim to be hopeful; to be realistic; and to see finances as the servant of the mission of the Church.