Gwasanaethau Ffarwel Esgob David
Dydd Sadwrn 12 Chwefror, 12pmBishop David's Farewell Service
Saturday 14 February, Midday14/02/2026, noon
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor, Cathedral Close, Bangor.
Fe'ch gwahoddir yn gynnes i fynychu gwasanaeth ffarwel esgobaethol i'r Gwir Barchedig David Morris CStJ, Esgob Enlli.
Cynhelir y gwasanaeth ar ddydd Sadwrn 14eg Chwefror am 12 hanner dydd yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor, a bydd lluniaeth ysgafn yn Neuadd y Penrhyn i ddilyn. Gwahoddir Clerigwyr a Darllenwyr Lleyg i arwisgo : Casog a gwenwisg/cota, gydag ystola wen/sgarff pregethu.
Bydd y gwasanaeth hwn yn gyfle i ddiolch am weinidogaeth ffyddlon yr Esgob David ac i nodi ei gyfraniad i'r Esgobaeth.
Er mwyn cynorthwyo gyda'r trefniadau, byddem yn ddiolchgar pe byddech chi'n cofrestru eich presenoldeb gan ddefnyddio'r ddolen isod yma.
You are warmly invited to attend the diocesan farewell service for The Right Reverend David Morris CStJ, Bishop of Bardsey.
The service will be held on Saturday 14th February at 12 noon at St Deiniol’s Cathedral, Bangor, and will be followed by a light reception at Penrhyn Hall. Clergy and Lay Readers are invited to robe: Cassock and surplice/cotta, with a white stole/preaching scarf.
This service will provide an opportunity to give thanks for Bishop David’s faithful ministry among us and to mark his contribution to the Diocese.
To assist with arrangements, we would be grateful if you would register your attendance using the link below