‘Rhwng y môr a’r mynydd, dyna'r lle y dymunwn fod’: Proffil o’r Parch Ddr. Ruth Hansford
‘Rhwng y môr a’r mynydd, dyna'r lle y dymunwn fod’: Proffil o’r Parch. Ddr. Ruth Hansford
Ar ddydd Iau, Mawrth 22 March, am 7yh yn Eglwys St. Cadfan, Tywyn, bydd y Parch Ddr. Ruth Hansford yn cael ei sefydlu a’i thrwyddedu fel Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner. Fe fydd yn gweinidogaethu ymysg pobl Bro Ystumanner i wasanaethu cymunedau dalgylch Tywyn, Aberdyfi a Llanegryn yn Ne Meirionnydd. Aeth Robert Townsend draw i’w chyfarfod.
Mae siwrne Ruth Hansford i Fro Ystumanner a’r Ficerdy yn Nhywyn yn cychwyn yn y Dwyrain pell! Fe’i ganwyd a’i magwyd yng Ngwlad Thai, lle'r oedd ei rhieni yn genhadon gyda’r Gymdeithas Genhadol Dramor. Aeth i ysgol breswyl ym Malaysia pan yn 5 oed, ac yna ysgol breswyl uwchradd yma yn y DU.
Aeth i Goleg King’s yn Llundain i astudio Ffarmacoleg, pwnc mae hi’n ei disgrifio fel ‘ymchwilio i wneuthuriad cyffuriau, ond heb allu eu gweinyddu’! Wedi cwblhau ei gradd, penderfynodd nad oedd gweithio ym maes Fferyllol at ei dant, felly gweithiodd a, flwyddyn gydag eglwys yng nghanol dinas Lerpwl, cyn dychwelyd i Lundain i astudio am gyfer PhD mewn Tocsicoleg (y rhan o Ffarmacoleg oedd fwyaf wrth ei bodd!) yn yr Ysgol Fferyllyddiaeth.
Wedi 3 mlynedd roedd awydd arni i ddilyn trywydd ysgrifennu gwyddonol, ond roedd pob swydd yn gofyn am brofiad sgwennu. Felly, yn lle hynny, hyfforddodd fel Biocemegydd Clinigol (sef ymgymryd â phrofion a darparu canlyniadau i ddoctoriaid) yn Ysbyty Southmead, Bryste, cyn cael swydd yn Ysbyry Great Ormond Street, nôl yn Llundain, ac yna Coleg King’s wedi hynny (lle cafodd gyfle o’r diwedd i ddiweddu i gwblhau ei PhD!).
Dyma’r adeg y cafodd y teimlad ei bod yn cael ei galw i waith yn a oedd yn ymwneud yn fwy uniongyrchol â phobl. Roedd hi am wneud mwy na phrofion a dweud wrth ddoctoriaid am ganlyniadau’u cleifion! Tra’n byw yn Croydon ar y pryd, aeth i weld ei ficer lleol ac yna Cyfarwyddwr Ymgeiswyr am y Weinidogaeth yn Esgobaeth Southwark, yn archwilio posibiliadau’r weinidogaeth ordeiniedig. Fel y dywed hi ei hun,
‘Es i o un person at y llall, un pwyllgor dewis at y llall, heb i neb unwaith ddweud ‘na’!’
Aeth Ruth yn ôl i Fryste i hyfforddi ar gyfer ei hordeinio yng Ngholeg y Drindod. Mae’n disgrifio’i hun fel eithriad ymysg ei chyd-ymgeiswyr am y weinidogaeth yno, gan ei bod yn teimlo galwad cryf tuag at y weinidogaeth wledig, nid rhywbeth y base rhywun yn ei ddisgwyl gan ymgeisydd o Esgobaeth Sothwark! Fe’i hordeiniwyd felly yn 2003 a 2004 yn Esgobaeth Caerwysg, gan wasanaethu fel curad gyda Thîm Arfordir Hartland, wedi’i ganoli yn Parkham (i’r gorllewin o Bideford a Barnstaple), ac yna fel ficer tîm yng Ngweinidogaeth Tîm Northmoor, wedi’i leoli yn Hatherleigh, ger Dartmoor.
Felly beth ydy’r atynfa i’r weinidogaeth Gristnogol mewn ardaloedd cefn gwlad? Meddai Ruth, ‘Y ffaith bod cymaint o’r bobl wedi’u gwreiddio mor ddwfn yn eu tir, yr ymdeimlad o gymuned ac o berthyn, a’r cyfleoedd mae hyn yn ei gynnig i weinidogaethu. Mae pobl cefn gwlad ynghlwm â’u bröydd a’u cymdogion mewn ffyrdd llawer mwy eglur nag a welir yn y maestrefi neu dref fawr, ac mae hyn oll wedi’i adeiladu ar gydberthnasau. Ac yna fe geir hefyd yr hynodrwydd, y traddodiadau hynafol ac unigryw, megis ‘trochfa’r morfeirch’ yn Hatherleigh, lle gwelir gwirfoddolwyr mewn amrywiol wisgoedd, yn sefyll yn yr afon pob Dydd Calan i godi arian i’w helusen neu fudiad lleol! Dwi’n edrych ymlaen at ‘Rasio’r Trên’ yma yn Nhywyn, gan mai digwyddiadau mor wahanol fel y rhain sy’n gwneud cymuned ac yn dangos bod ynddi fywyd. Dwi wrth fy modd gyda chydgysylltiad cymunedau cefn gwald, curiad bywyd ychydig yn fwy hamddenol, a’r ffaith fod pethau weithiau’n cymryd rhyw fymryn bach yn hirach, ac wrth gwrs, ysblander y dirwedd!!’
Mae Ruth yn ystyried bod ganddi feddylfryd Celtaidd.
‘Mae f’enaid yn ymchwyddo wrth weld ehangder yr awyr, y môr, a chyfoeth gwyrddni’r bryniau a’r dyffrynnoedd’, meddai.
Felly, sut y digwydd iddi lanio yma yng Nghymru? Symudodd ei chwaer, ac yna ei mham i Dde Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl, ac wrth ymweld, doedd Ruth ddim yn gyfforddus nad oedd hi’n gallu ynganu’r enwau lleoedd ar arwyddion ffyrdd. Felly, dyma brynu llyfr bach i geisio addysgu’i hun, ac yn ddiweddarach dod ar encil i Ddylife (rhwng Llanidloes a Machynlleth). Daeth yma ar wyliau, gan ymweld ag Aberdyfi a Rheilffordd Tal-y-llyn, ynghyd ag encil distaw ym Meuno Sant, ger Llanelwy.
Teimlai bod Duw yn rhoi ymadrodd iddi, ‘Rhwng y môr a’r mynydd, dyna'r lle y dymunwn fod’, ac fe ddechreuodd weddïo i Dduw ganfod lle iddi weinidogaethu a’i helpu hi i ddysgu’r Gymraeg.
Dyma hi’n prynu mwy o lyfrau dysgu Cymraeg; yna daeth gwyliau arall, y tro yma i Dyddewi ac encil arall, y tro hyn yn Llangasty. Dechreuodd chwilio’r Church Times am hysbysebion, dim ond i weld sut bethau oedden nhw, a digwydd dod ar draws hysbyseb am swydd Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner.
‘Roedd hi’n hysbys wirioneddol ddeniadol, yn agor cil y drws ac yn rhoi’r cyfle i ddod a chael golwg. Nid hysbyseb yn gofyn am ryw Siwpyr-arwr a oedd yn ateb i bopeth oedd hon! Roedd y proffil a’r pwyslais ar weinidogaeth gyda phlant a theuluoedd yn gweddu’n union gyda’m diddordebau a’m doniau innau. Gwnes gais, cael mynd ar restr fer, cael cynnig cyfweliad… ac unwaith eto, ddywedodd neb ‘na’! Roeddwn ni’n teimlo Duw yn f’annog ac yn agor drysau cyfle imi .’
Felly, beth all trigolion ro Ystumanner ddisgwyl gan Ruth? ‘Wel, i ddechrau, dwi am wrando ar bobl, gweld lle maen nhw arni, a gweld lle mae’r dyfodol yn eu tyb nhw. Fe fydda i eisiau gweithio gyda phawb er mwyn gwireddu’r syniadau hyn a dwyn Bro Ystumanner at ei gilydd, i fod yn fwy o deulu estynedig sy’n cydweithio. Faswn i hefyd yn hoffi canfod beth ydy anghenion pobl yn eu cymunedau a darganfod p’un ai a oes gan y gymuned Eglwysig y gallu a’r modd i ddelio â nhw. Rydw i wastad wedi ceisio cefnogi pobl yn eu camau o ffydd a’u hannog i ddefnyddio’u doniau a’u galluoedd i rannu cariad Duw yn eu cymunedau. Dwi’n siŵr bod rhywfaint o hyn eisoes yn digwydd, ond mae gofyn inni edrych tuag allan a pheidio disgwyl bob amser y daw pobl aton ni. Mae’r ardal hon hefyd yn un sy’n ddibynnol ar dwristiaeth, ac mae hynny’n rhoi cyfle inni, mewn rôl gaplaniaeth, i wneud y gorau o gyfarfyddiadau â phobl wrth iddyn nhw ymlacio a chael amser i ystyried.'
Ac yn olaf, ond nid y lleiaf, teulu Ruth. Mae hi’n briod â Paul, ac mae iddyn nhw 2 o blant, Brendan (10) a Krystyna (7). ‘Roedd Paul wastad wedi gobeithio y deuai’n plant ni’n ddwyieithog’, meddai hi, ‘ond yn ei feddwl yntau, rhywbeth fel Ffrangeg a Saesneg oedd ganddo mewn golwg, yn hytrach na Chymraeg a Saesneg!
Dwi wir yn edrych ymlaen at fod yn gallu medru’r Gymraeg - fe fydd rhaid imi! Mae’r plant eisoes yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol, ac maen nhw’n dweud o hyd eu bod yn edrych ymlaen at allu siarad mewn iaith wahanol na fydd eu rhieni’n deall! Fedra i ddim gadael i hynny ddigwydd - felly fe fydda i’n dysgu efo nhw!!!’
‘Betwixt the mountains and the sea, that’s where I’d like to be’ : Profile of Rev Dr. Ruth Hansford
On Thursday 22 March, at 7pm in St. Cadfan’s Church, Tywyn, the Rev’d Dr. Ruth Hansford will be inducted and licensed as the Vicar and Ministry Area Leader of the Bro Ystumanner Ministry Area. She will be ministering alongside the people of the Bro Ystumanner to serve the communities around Tywyn, Aberdyfi and Llanegryn in south Meirionnydd. Robert Townsend went to meet her.
Ruth Hansford’s journey to Bro Ystumanner and the Vicarage in Tywyn begins in the oriental East! She was born and brought up in Thailand, where her parents were missionaries with Overseas Missionary Fellowship. She went to boarding school in Malaysia aged 5, followed by a secondary boarding school back here in the UK.
She went on to university at King’s College London to study Pharmacology, which she describes as meaning that you ‘can’t dispense drugs, but can research into their creation’! Having completed her degree, she decided that working in Pharmaceuticals was not for her, and worked for a year with a church in inner-city Liverpool, before returning London to study for a PhD in Toxicology (the part of pharmolocolgy she liked best!) at the School of Pharmacy.
After 3 years she wanted to go into scientific writing, but all jobs needed writing experience. Instead she trained as a Clinical Biochemist (where you do tests and provide results for doctors) at Southmead Hospital in Bristol, before getting a job at Great Ormond Street Hospital, back in London, and King’s College Hospital after that (where she finally wrote up and completed her PhD!).
It was at this point that she felt called to work more directly with people. She wanted to do more than tests and telling doctors about their patients’ test results! Living in Croydon at the time she went to see her local vicar and then the Director of Ordinands in the Diocese of Southwark, interested in exploring ordained ministry. As she says,
‘I went from one person to another, one selection committee to another, and no-one ever said no!’
Ruth went back to Bristol to train for ordination at Trinity College. She describes herself as an exception among her ordinand colleagues there, as she felt a strong call to rural ministry, which was not necessarily what was expected of an ordinand from the Diocese of Southwark! She was thus ordained in 2003 and 2004 in the Diocese of Exeter, serving as a curate in the Hartland Coast Team, centred around Parkham (west of Bideford and Barnstaple), then as team vicar in Northmoor Team Ministry based in Hatherleigh, close to Dartmoor.
So what is the attraction of Christian ministry in rural areas? Ruth says, ‘It is the rootedness of many people, the sense of community and belonging, and the opportunities that this gives in ministry. Rural people are committed to their place and neighbours in much clearer way than in suburbs or a large town, and it is all built on relationships. And then there is the quirkiness, the old and unusual traditions, such as the ‘walrus dip’ in Hatherleigh, where volunteers, in various costumes, stood in the river each New Year’s Day to raise money for their local charity or organisation! I’m looking forward to ‘Race the Train’ here in Tywyn, as it is events like this which are distinctive and bring life to a community. I love the connectedness of rural communities, the slower pace, the fact that things take a bit longer, and, of course, the landscape that is just so beautiful!!’
Ruth considers herself to be ‘Celtic-minded’ -
‘My soul expands when it sees a big sky, the sea, and the deep green of the hills and countryside’, she adds.
So, how does she now find herself in Wales? Her sister, and then her mother moved to South Wales a few years ago, and when visiting Ruth didn’t like the fact that she couldn’t pronounce the names on the roadsigns. She bought a book to try and teach herself, and then came on retreat to Dylife (between Llanidloes and Machynlleth). A holiday followed with visits to Aberdyfi and the Talyllyn Railway, along with a silent retreat St Beuno’s, near St. Asaph.
She felt that God was giving her a phrase, ‘Betwixt the mountains and the sea, that’s where I’d like to be’, and she started to pray that God would find a place for her to minister and help her to learn Welsh.
She bought more Welsh-learning books; then another holiday, this time at St David’s and another retreat, this time at Llangasty. She started looking in the Church Times for adverts just to see what they were like, and then came across the advert for a Vicar and Ministry Area Leader in Bro Ystumanner.
‘It really was a most inviting advert, which opened a door and gave the opportunity to come and have a look. The advert wasn’t asking for Wonderwoman or Superman! The profile and emphasis on ministry with children and families matched my interests and skills. I applied, was shortlisted, offered an interview and once again, no-one said no! l really felt God nudging me and opening doors for me.’
So what can Bro Ystumanner expect from Ruth? ‘Initially I will want to listen to people, see where they are, and see where they think the future lies. I’ll want to work with everyone to take these thoughts forward and draw Bro Ystumanner together, to be more of an extended family which works together. I’d also like to see what the needs of people are in their communities and discover whether the Church community has the capacity to meet them. I’ve always tried to support people in their faith journeys and and encourage them to use their gifts and talents to share God’s love in their communities. I’m sure that some of this is happening already, but we need to look outwards and not always expect people to come to us. This is also an area which depends on tourism, and that gives us an opportunity, a chaplaincy role, to make the most of encounters whilst people have time to ponder and wonder.'
And finally, Ruth’s family. She is married to Paul, and they have 2 children, Brendan (10) and Krystyna (7). ‘Paul always hoped that our children would be bilingual’ she says, ‘but he always imagined it would be French and English, rather than Welsh and English!
I’m really looking forward to being able to speak in Welsh, and I will have to. My children are already learning Welsh at school, and they keep on saying that they are looking forward to being able to talk in a different language that their parents won’t understand! I can’t let that happen - so I’ll be learning with them!!!’