Encil yr Esgobaeth 2019
Bydd Clerigion a Gweinidogion Lleyg o Esgobaeth Bangor yn dod ynghyd yn Nant Gwrtheyrn yr wythnos nesaf (sy’n dehrau 27/1) i gynnal Encil blynyddol yr Esgobaeth.
Bydd yr encil, dan y thema ‘Teithio gyda Job: Llawenydd Swnian Sanctaidd’, dan arweiniad y Tra Pharchedig Dr Sarah Rowland Jones, Deon Tyddewi, a fydd yn ymweld ag Esgobaeth Bangor am y tro cyntaf ers ei sefydlu ym mis Mai llynedd.
Magwyd Deon Sarah - sy’n cyfri’r clerigwr Anglicanaidd ac un o arweinwyr diwygiad anghydffurfiol y ddeunawfed ganrif, Daniel Rowland, yn un o’i chyndeidiau - yn Y Trallwng a’r Amwythig, gan astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn ymuno â’r gwasanaeth diplomyddol am 15 mlynedd, yn gweithio yn Llundain, Yr Iorddonen a Hwngari.
Bu’n hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Sant Ioan, Nottingham ac fe’i hordeiniwyd ym 1999, yn gwasanaethu i ddechrau yn Esgobaeth Llanelwy.
Yn 2002, symudodd i Dde Affrica ai briodi’r Gwir Barchedig Justus Marcus, Esgob rhanbarthol yn Esgobaeth Cape Town. Yn drist iawn, fe fu farw’r Esgob Marcus blwyddyn yn ddiweddarach, ond arhosodd Sarah yn Ne Affrica, yn gweithio fel Ymgynghorydd Ymchwil is sawl Archesgob dilynol yn Cape Town, gan gwblhau ei doethuriaeth mewn athroniaeth crefydd a diwinyddiaeth gyhoeddus, dan y teitl, 'Doing God in Public'.
Yn 2011 fe briododd â Peter Evans, Cymro alltud arall a oedd yn gweithio yn Ne Affrica. Fe ddychwelodd y ddau i Gymru yn 2013 er mwyn i Sarah ymgymryd â swydd yn Eglwys Ioan Fedyddiwr yng nghanol dinas Caerdydd. Dygodd Sarah hefyd ei phrofiad diplomyddol gyda hi i gydberthynas ecwmenaidd y Gymuned Anglicanaidd, yn gwasanaethu ar gyrff Anglicanaidd ac ecwmenaidd lleol a rhyngwladol.
Job ydy un o’r llyfrau mwyaf difyr yn yr Hen Destament, ac un sydd wedi bod o gymorth imi wrth imi frwydro yn erbyn poenau a rhwystredigaethau bywyd, ac i onest amdanyn nhw o flaen Duw, hyd yn oed pan y'n gelwir y ‘lawenhau yn yr Arglwydd bob amser
Wrth edrych ymlaen at yr encil, dywedodd Sarah, ‘Job ydy un o’r llyfrau mwyaf difyr yn yr Hen Destament, ac un sydd wedi bod o gymorth imi wrth imi frwydro yn erbyn poenau a rhwystredigaethau bywyd, ac i onest amdanyn nhw o flaen Duw, hyd yn oed pan y'n gelwir y ‘lawenhau yn yr Arglwydd bob amser’. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at rannu rhai o’m myfyrdodau, a dysgu o dreiddgarwch eraill. Pryd bynnag yr awn ar encil, fe ddylen ni ddod fel tasen ni’n bererinion mewn gweddi a gostyngeiddrwydd, yn barod ac agored i wrando a dysgu, ac i gael ein newid. Mae hyn hefyd yn wir i unrhyw un sy’n arwain encil, felly edrychaf ymlaen yn eiddgar at ddod i Nant Gwrtheyrn ac at Esgobaeth Bangor.'
Wrth edrych ymlaen hefyd at yr encil, meddai Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, ‘Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ein hencil eleni. Mae profiad amrywiol Sarah - cyn ei hordeinio ac wedi hynny - yn ogystal â’i hastudiaethau academaidd, wedi rhoi iddi ddirnadaeth werthfawr a fydd yn sicr o fud di bawb yma. Bydd croeso cynnes i Deon Sarah yma yn ein Hesgobaeth.'
Diocesan Retreat 2019
Clergy and Lay Ministers from the Diocese of Bangor will gather at Nant Gwrtheyrn next week (week beginning 27/1) for the annual Diocesan Retreat.
The retreat entitled ‘Journeying with Job: The Joy of Holy Complaining’ will be led by the Very Rev'd Dr Sarah Rowland Jones, the Dean of St, Davids, who will be visiting the Diocese of Bangor for the first time since her installation in May last year.
Dean Sarah - who counts the 18th Century Anglican cleric and non-conformist revival leader, Daniel Rowland, as one of her forbears - grew up in Welshpool and Shrewsbury, and read Maths at Cambridge University, before joining the diplomatic service for 15 years, working in London, Jordan and Hungary.
She trained for the priesthood at St John’s College, Nottingham and was ordained in 1999, serving initially in the diocese of St Asaph.
In 2002, she moved to South Africa to marry the Rt Revd Justus Marcus, a regional Bishop in the Diocese of Cape Town. Sadly, Bishop Marcus died a year later, but Sarah remained in South Africa working as Research Adviser to successive Archbishops of Cape Town, and completing her doctorate in philosophy of religion and public theology, entitled 'Doing God in Public'.
In 2011 she married a fellow Welsh exile working in South Africa, Peter Evans. They returned to Wales in 2013 for Sarah to take up a post at the city centre Church of John the Baptist in Cardiff. Sarah also has brought her diplomatic experience to the Anglican Communion’s ecumenical relations and serves on local and international Anglican and ecumenical bodies.
Job is one of the most intriguing books in the Old Testament, and one which has helped me in my wrestlings with the pains and frustrations of life, and be honest about them before God, even as we are called to ‘rejoice in the Lord always
Looking forward to the retreat Sarah said, 'Job is one of the most intriguing books in the Old Testament, and one which has helped me in my wrestlings with the pains and frustrations of life, and be honest about them before God, even as we are called to ‘rejoice in the Lord always’. I am really looking forward to sharing some of my reflections, and learning from the insights of others. Whenever we go on a retreat, we should come as if we are pilgrims in prayer and humility, ready and open to listen and learn, and to be changed. This is also true for any retreat leader, so I am really looking forward to coming to Nant Gwrtheyrn and the Diocese of Bangor.'
Also looking forward to the retreat, the Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said,, 'I am really looking forward to our retreat this year. Sarah's varied experience - both prior to her ordination and afterwards - as well as her academic studies gives her valuable insights which I'm sure will be of benefit to everyone there. We are looking forward to welcoming Dean Sarah to our Diocese.'