minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Negeseuon Pasg 2019

Mae Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andrew John - yn falch o ryddhau ei negeseuon Pasg.

Yn ei neges ysgrifenedig (isod), Y Gair B, mae Esgob Andy yn adfyfyrio ar effaith negyddol trafodaethau Brexit i'n cymdeithas ac yn gofyn beth y gellir ei adennill.

I ffilmio ei neges fideo Pasg, Cod a Cherdda, mae Esgob Andy yn siarad â gŵr gweddw, Jonno Jones, yn ogystal ag ymweld â Phont ar Fynach, Abergeirw ger Trawsfynydd - safle bedd Cristion cynnar - wrth ofyn beth mae bedd gwag Iesu yn ei olygu i ni wrth ddathlu'r Pasg eleni.

Cofiwch rannu a defnyddio'r negeseuon hyn.


Y Gair B

Beth bynnag a ddaw o drafodaethau Brexit yn San Steffan a llefydd eraill, mae un peth sy’n llawer mwy amlwg na chanlyniad hyn i gyd: mae’r hyn oll wedi bod yn anodd iawn inni fel cenedl ac fel gwledydd. Nid yn gymaint ai peth da ai peidio ydy Brexit yn unig ond ein bod, fel gwladwriaeth, wedi bod yn fwy rhanedig nag unrhyw gyfnod arall dros y 70 mlynedd ddiwethaf. Mae safon y drafodaeth gyhoeddus wedi dirywio, mae lefel yr ymddiriedaeth yn ein gwleidyddion a’n sefydliadau wedi’i danseilio ac mae maint y gagendor wedi arwain at normaleiddio ideolegau brawychus o ffiaidd. Does ond rhaid edrych ar y digwyddiadau erchyll yn Seland Newydd i sylweddoli beth all ddigwydd pan fo casineb yn cael pen rhyddid.

Mae’r Beibl yn gwbl ddigyfaddawd yn ei gondemniad o’r math yma o elyniaeth. Mae geiriau megis ‘drygioni’ neu ‘dieflig’ bellach wedi colli llawer o ddyfnder eu hystyr blaenorol, ond dim o’u perthnasedd. Mae’n hen bryd adfer defnydd iaith a geiriau sy’n crisialu difrifoldeb gweithredoedd ofnadwy y ddynoliaeth, os ydyn ni am adfer parch a gwerth unigolion tuag at ei gilydd.

Fodd bynnag, dwi’n amau bod angen llawer mwy nag adfer syniadau erbyn hyn: mae angen newid calonnau a meddyliau. Nid darn o hanes yn unig ydy atgyfodiad Iesu, mae’n delio gyda’r modd mae Iesu Grist yn dod wyneb yn wyneb â ninnau rŵan, yma, heddiw. Mae’r cyfarfyddiad yma’n agor y drws i ffordd ragorach o fod yn fod dynol, lle gwelir posibiliadau trawsnewid perthynas a chydberthynas a dull llai hunanfeddiannol o fyw.

Dros y misoedd diwethaf, fe fûm yn dechrau ymweld â rhai o ffynhonnau sanctaidd hynafol yr esgobaeth - mannau lle bu pobl yn cyfarfod ac yn ceisio iachâd ers talwm. Mae gordyfiant wedi hen guddio llawer ohonyn nhw bellach nes eu bron â mynd yn angof. Fe’m hatgoffwyd am un o’r straeon llai adnabyddus yn y Beibl lle bu un o arweinwyr cynnar pobl Dduw’n ailagor ffynhonnau dŵr yfed a fu ynghau cyhyd. Diben y stori ydy dangos pa mor rhwydd mae colli ffynonellau dwfn bywyd ond bod modd eu hadfer eto.

Does dim modd inni allu troi’r cloc yn ôl i gyfnod cyn Brexit, ond fe allwn ni ail-gydio yn yr hyn sy’n ddwfn, yn fywiol ac â’r gallu i’n cynnal ninnau a’n cymunedau mewn cariad a pharch. Yn y bôn, medrwn ail-ymweld â’r gallu sydd gan Grist i wneud popeth yn newydd ac yn ein galluogi i greu cydberthnasau newydd a gwell sy’n dal ac yn ffynnu. Dyma rym a rhodd y Pasg a’r Crist atgyfodedig i ni.

+Andrew Bangor

Cymraeg

Easter Messages 2019

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andrew John - is pleased to release his Easter messages.

His written message (below), The B Word, Bishop Andy reflects on the negative impact of Brexit discussions in our society and asks what can be reclaimed.

In his Easter video message, Rise Up and Walk, Bishop Andy talks to a widower, Jonno Jones as well as visiting Pont ar Fynach, Abergeirw near Trawsfynydd - the site of an early Christian grave - asking what Jesus’ empty grave means for us as we celebrate Easter this year.

Please do share and use these messages which can also be found at on Bishop Andy's blog.


The B Word

Whatever the outcome of the Brexit discussions in Parliament and elsewhere, one thing is a great deal clearer than that outcome: this has been difficult for us as a nation. It isn’t just a question of whether Brexit is a good thing or not but that as a country we are more divided than at any time in the last 70 years. The level of public discourse has eroded, the level of trust in politicians and institutions has diminished and the silos of difference have led to horrible ideologies being normalized. We have only to recall the terrible events in New Zealand to see what happens when hatred is allowed to flourish.

The Bible is uncompromising in its condemnation of this kind of hostility. The word ‘evil’ has lost a good deal of its former strength but none of its relevance. Reclaiming a language which captures the gravity of dreadful human action seems to me long overdue if we are to value and respect one another.

However, I suspect we need a great deal more than reclaimed ideas at this point: we need new hearts and minds. The resurrection of Jesus is not just a piece of history, it’s about the way Jesus Christ encounters us now. This encounter opens the door to a better way of being human where relationships are capable of transformation and a less self-centred way of living becomes possible.

In recent months I have begun exploring some of the ancient holy wells in the Diocese (of Bangor) – places of former gathering and healing. Many of them are now overgrown and in danger of being lost. I was reminded of one of the less well-known stories of the Bible where an early leader of God’s people reopens drinking wells which had long been closed. The point of the story is that deep sources of life are easily lost but can still be reclaimed.

We cannot press rewind to a time before Brexit but we can revisit what is deep, life giving and capable of sustaining us and our communities in love and respect. In short, we can revisit how Christ makes everything new and enables new and better relationships to flourish. This is the power and gift of Easter and the risen Christ for us.

+Andrew Bangor