Llythyr yr Esgob at y Prif Weinidog
Mae Esgob Bangor wedi ysgrifennu ar ran Esgobion Cymru at Boris Johnson ynghylch y sefyllfa wleidyddol gyfredol ddwys. Dyma destun y llythyr.
Annwyl Brif Weinidog,
Fel Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, eglwys sy'n gwasanaethu cymunedau ym mhob rhan o Gymru ac sydd â chonsyrn dros bobl o bob ffydd a'r rhai heb unrhyw ffydd, beth bynnag fo eu barn wleidyddol, teimlwn reidrwydd arnom i fynegi pryderon am ddigwyddiadau digynsail y dyddiau diwethaf hyn a'r tebygrwydd buan y ceir BREXIT heb gytundeb.
Ynghylch BREXIT ei hun, credwn fod Cymru'n agored i beryglon penodol. Mae'r sector ffermio a chynhyrchu bwyd, sy'n bwysicach o lawer i'r economi Gymreig nag yn Lloegr neu'r DU yn ei chyfanrwydd, yn ddibynnol iawn nid yn unig ar gymorth yr UE, ond hefyd ar hwylustod allforio i dir mawr Ewrop. Mae cwmni o fri fel Airbus, a busnesau eraill yn y sector technoleg, yn dibynnu ar gyfnewid rhannau, personél ac arbenigedd yn gyflym gyda'n partneriaid yn Ewrop, y gellir eu colli, yn enwedig os byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb. Yn ogystal, mae addysg uwch, busnesau bach, a'r trydydd sector i gyd yn debygol o ddioddef oni wneir trefniadau gofalus iawn i lenwi'r bwlch a adewir gan golli cyllid yr UE, cytundebau a threfniadau partneriaeth. Amlygodd llythyr agored gan sefydliadau Cymdeithas Sifil ym mhob un o 4 gwlad y DU yr wythnos hon y peryglon i'r 3ydd sector o adael heb gytundeb. Gadewir ardaloedd dan anfantais economaidd heb gymorth ychwanegol, a hyd yn hyn, ni chafwyd unrhyw eglurder ynghylch y trefniadau a fydd yn llenwi'r bwlch a adewir wrth golli cyllid neu bartneriaethau'r UE. Ynghyd â Rebecca Evans AC, Gweinidog Cyllid Cymru (cyfarfod ar 29 Awst gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Rishi Sunak), gofynnwn i lywodraeth y DU i gadw ei haddewid i Gymru ynghylch 'dim ceiniog yn llai ' o gefnogaeth nag o fewn yr UE.
Yn unol â'n hegwyddorion Cristnogol, rydym yn arbennig o awyddus i amddiffyn y tlawd a'r rhai sy'n agored i niwed. Mae bron pob eglwys yn y tir yn cefnogi banc bwyd; rydym yn ymgyrchu ac yn cefnogi cinio ysgol a brecwast am ddim; mae nifer o eglwysi'n gweithio i frwydro yn erbyn 'newyn gwyliau' ymhlith plant a theuluoedd sy'n dibynnu ar brydau bwyd ysgol yn ystod y tymor. Mae'r posibilrwydd y bydd prinder bwyd a meddyginiaethau, yn enwedig os bydd y DU yn gadael yr UE heb unrhyw gytundeb neu gyfnod pontio, yn real iawn; mae'r amcangyfrifon diweddaraf hefyd yn dangos y bydd pris bwyd a hanfodion eraill yn codi. Bydd swyddi'n cael eu colli, a gosodir mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Er budd cymodi a heddwch, rydym yn pryderu am y berthynas rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig, a'n perthynas â gwledydd eraill Ewrop - eglwysi'r rhai y byddwn yn parhau i feithrin cysylltiadau â nhw. Gan nad yw ein cymdogion ond i'w canfod oddi fewn i'n ffiniau neu mewn gwledydd cyfagos, pryderwn y bydd gadael yr UE, mewn brys i sicrhau bargeinion, yn golygu gwneud cytundebau masnach sy'n debygol o waethygu amodau gweithwyr, israddio pryderon amgylcheddol, a gwneud cyfiawnder treth yn anos i'w weithredu.
Ar yr adeg benodol yma, rydym yn wirioneddol bryderus am yr hyn a ymddengys fel defnydd o weithdrefn Seneddol i wthio penderfyniadau'r llywodraeth na chytunwyd arnyn nhw, neu hyd yn oed heb eu craffu, gan y Senedd. Byddwch yn ymwybodol bod Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi galw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ôl i eistedd ar 5 Medi yng ngolau'r "dyfroedd dieithr" yr ydym ynddi yn awr. Roedd y ddeiseb yn erbyn gohirio'r Senedd (a ddechreuwyd ddoe) wedi cyrraedd bron i 1.5 m o lofnodion erbyn 2pm ar 29 Awst, a dylai ysgogi trafodaeth. Mae'n bwysig bod y llywodraeth yn cynnal hyder a pharch yr etholwyr. Er y gall fod yn wir dweud na all llywodraethau ddewis pa bleidleisiau cyhoeddus y maen nhw yn glynu wrthyn nhw, nid yw etholiadau hyd yn oed yn cael gwared ar yr wrthblaid; a gellir a dylai fod cyfleoedd creadigol i ddylanwadu ar y ffordd y caiff rhaglenni eu datblygu.
Credwn yn y bon bod cynrychiolwyr etholedig o bob barn wleidyddol â buddianau gorau'r cyhoedd mewn golwg. Anogwn eich llywodraeth i fod yn dryloyw, yn onest ac yn agored yn ei hystyriaethau ar yr adeg eithriadol yma.
Yn gywir
Y Gwir Barchedig Andy John
Esgob Bangor
Bishop’s letter to the Prime Minister
The Bishop of Bangor has written to Boris Johnson on behalf of the Welsh Bishops about the current grave political situation. Here is the text of the letter.
Dear Prime Minister
As Bishops of the Church in Wales, which serves communities in every part of Wales and is concerned for people of all faiths and none, regardless of their political opinions, we feel compelled to express concerns about the unprecedented events of recent days, and the imminent prospect of a no-deal Brexit.
Regarding Brexit itself, Wales is vulnerable to particular dangers. The farming and food production sector, which is significantly more important to the economy than in England or the UK as a whole, is highly dependent not only on EU support, but also on ease of export to mainland Europe. Prestige company Airbus, and other businesses in the tech sector, rely on the rapid exchange of parts, personnel and expertise with our European partners, which stands to be lost, especially if we leave the EU without a deal. In addition, Higher Education, small businesses, and the Third Sector are all liable to suffer unless very careful arrangements are made to replace EU funding, agreements and partnership arrangements. An open letter from Civil Society organisations in all 4 nations of the UK this week highlighted the dangers to the 3rd sector of leaving without a deal. Economically disadvantaged areas will be left without additional assistance, and as yet, there has been no clarity on the arrangements which will replace EU funding or partnerships. Along with Rebecca Evans AM, Wales’ Finance Minister (meeting on August 29 with Chief Secretary to the Treasury Rishi Sunak), we ask the UK government to keep its promise to Wales for ‘not a penny less’ in support than within EU.
In accordance with our Christian principles, we are particularly concerned for protection of the poor and vulnerable. Almost every church in the land supports a foodbank; we campaign for and support free school lunches and breakfasts; numerous churches are working to combat ‘holiday hunger’ amongst children and families dependent on school meals during term-time. The prospect of shortages of food and medicines, especially if the UK crashes out of the EU without a deal or transition period, is very real; latest estimates also indicate that the price of food and other essentials will go up. There will be job losses, and increased pressure on public services. In the interests of reconciliation and peace, we are concerned for relationships between the countries of the United Kingdom, and for those with other European countries – with whose churches we will continue to have links. Since our neighbours are not just those within our own shores or in immediately adjacent countries, we are concerned that leaving the EU will, in the haste to secure deals, mean trade agreements which are likely to worsen conditions for workers, downgrade environmental concerns, and make tax justice harder to implement.
At this particular point in time, we are gravely concerned about the apparent use of parliamentary procedure to force through government decisions which have not been agreed upon, or even subjected to scrutiny, by parliament. You will be aware that Mark Drakeford, First Minister of Wales, has recalled the Welsh Assembly to sit on September 5 in light of the “uncharted waters” we are now in. The petition against proroguing parliament (started yesterday) had reached nearly 1.5m signatures by 2pm on August29 and should trigger consideration of a debate. It is important that the government maintains the confidence and respect of the electorate. Whilst it may be true to say that governments cannot choose which public votes they abide by, even elections do not eliminate the opposition; and there can and should be creative opportunities to influence how programmes are taken forward.
We believe that elected representatives of all political opinions have the best interests of the people at heart. We urge your government to be transparent, truthful and open in its considerations at this exceptional time.
Yours sincerely
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor