Cyd-greu yng Nghonwy
Mae dros fil o loÿnnod byw yn cael eu harddangos yn Eglwys y Santes Fair. Mae pob un yn cynnal gweddi. Gweddi calon. Calon sy'n cael ei charu gan Dduw.
Cynigiwyd y cyfle i fyfyrio ar bandemig Covid-19 mewn man diogel a chreu glöyn byw origami i ysgolion lleol, cartrefi gofal ac ymwelwyr ag Eglwys y Santes Fair yng Nghonwy. Yna, roedd y gloÿnnod byw hyn yn cael eu hongian yn yr eglwys fel gosodiad celf lle byddant yn aros tan y Cynhaeaf. Yn union fel glöyn byw go iawn bydd eu bywyd yn fyr.
Defnyddiodd gweithdai mewn ysgolion glip fideo o Mr Bean ar rollercoaster i gyflwyno'r syniad o rannu profiadau sy'n teimlo'n wahanol i bawb. Roedd rhai pobl yn y clip yn sgrechian gydag eraill yn chwerthin tra bod Mr Bean yn syrthio i gysgu. Esboniwyd i'r plant ein bod i gyd wedi byw drwy dirdroeon a throeon y pandemig ond roedd yn teimlo'n wahanol i bawb. Yna fe'u hanogwyd i feddwl am eu gobeithion a'u breuddwydion yn edrych tua'r dyfodol a symbol y lindysyn a'r glöyn byw. Dywedwyd wrthynt,
"Mae gloÿnnod byw yn aml yn cael eu hystyried fel symbolau o newid a thrawsnewid. Maent yn gysylltiedig â gobaith, bywyd newydd a rhyddid. Ond, maent hefyd yn ein hatgoffa o fregusrwydd bywyd a pha mor werthfawr iawn ydyw.
Ond mae lindys braidd yn ddiflas – y cyfan maen nhw'n ei wneud yw cropian o gwmpas drwy'r dydd – ddim yn mynd yn bell iawn ac maen nhw jyst yn cnoi ar ddail yn gyson. Nid bywyd cyffrous iawn yw e?! Ac mae'n swnio'n debyg iawn i'r 16 mis diwethaf!"
Mae pob glöyn byw, wedi'i wneud o sgwariau o fapiau Arolwg Ordnans, wedi'i greu yn yr un ffordd ac felly yn edrych yn union yr un fath ar eu ffurf. Fodd bynnag, mae'r weddi y tu mewn yn unigryw i bob unigolyn.
Mae Eryl Parry, a arloesodd y prosiect, yn sôn am lawer o wahanol sgyrsiau gyda llawer o wahanol bobl, o unigolion oedrannus i ferch ifanc a oedd wedi creu glöyn byw mawr gartref i deulu Iddewig a siaradodd am symbolaeth y glöyn byw yn y ffydd Iddewig. Roedd pob un o'r sgyrsiau hyn yn arbennig, pob un yn unigryw ac roedd pob un yn bwysig i Dduw.
Roedd Eryl, a'r tîm yn Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin, am greu lle diogel lle gallai pobl o bob oed siarad am y pandemig a sut mae wedi effeithio arnyn nhw. Roeddent yn cydnabod nad oedd hyn yn rhywbeth y gallent ei wneud ar eu pennau eu hunain ac felly gofynnwyd am help. Cysylltodd Eryl â ffrind ac artist i feddwl am symbol y glöyn byw a chreu'r gosodiad tra bod Eglwys Fethodistaidd Sant Ioan yng Nghonwy, fel sawl gwaith o'r blaen, hefyd yn bartner iddynt gan ddod â'u sgiliau mewn gwaith plant a phobl ifanc i'r prosiect. Mae Eryl yn sôn am bwysigrwydd cyd-greu rhywbeth a sut mae cydweithio'n creu datgeliadau ac adegau o ysbrydoliaeth sy'n digwydd yn anaml wrth weithio ar ein pennau ein hunain.
Mae'r pwyntiau cyffwrdd hyn, yr adegau hyn o gysylltedd rhwng y seciwlar a'r cysygredig, yn rhan hanfodol o ymgysylltu â'r gymuned. Os ydym ni, fel eglwys, yn ceisio bod yn berthnasol, i gael 'waliau mandyllog', mae angen mannau mynediad i bobl a dim ond un o'r rheini yw'r gosodiad celf glöyn byw hwn.
Siaradodd y teulu Iddewig am gerdd a ysgrifennwyd gan garcharor, Pavel Friedmann, yn un o'r gwersyll difodi ar ôl gweld glöyn byw melyn. Dyma linc i'r cerdd ar wefan Holocaust Memorial Day Trust: https://www.hmd.org.uk/resource/the-butterfly-by-pavel-friedmann/
Co-creating in Conwy
Over a thousand butterflies are displayed in St Mary’s Church. Each one holds a prayer. The prayer of a heart. A heart that is loved by God.
The opportunity to reflect on the Covid-19 pandemic in a safe space and to create an origami butterfly was offered to local schools, care homes and visitors to St Mary’s Church in Conwy. These butterflies were then hung in the church as an art installation where they will remain until Harvest. Just like a real butterfly their life will be fleeting.
Workshops in schools used a video clip of Mr Bean on a rollercoaster to introduce the idea of shared experiences being different for everyone. Some people in the clip were screaming with others laughing while Mr Bean fell asleep. It was explained to the children that we have all lived through the twists and turns of the pandemic but it felt different for everyone. They were then encouraged to think about their hopes and dreams looking towards the future and the symbol of the caterpillar and the butterfly. They were told,
“Butterflies are often thought of as symbols of change and transformation. They are associated with hope, new life and freedom. But, they also remind us of the fragility of life and just how very precious it is.
But caterpillars are a bit boring – all they do is crawl around all day – not getting very far and they just munch on leaves constantly. Not a very exciting life is it?! And it sounds a lot like the last 16 months!”
Each butterfly, made of squares of Ordnance Survey maps, is crafted in exactly the same way so look identical in their form. However, the prayer inside is unique to each individual.
Eryl Parry, who pioneered the project, speaks of many different conversations with many different people from elderly individuals to a young girl who had created a large butterfly at home to a Jewish family who spoke of the symbolism of the butterfly in the Jewish faith. All of these conversations were special, each unique and all mattered to God.
Eryl, and the team in Bro Celynnin, wanted to create a safe space where people of all ages could talk about the pandemic and how it has affected them. They recognised this was not something they could do on their own and so they asked for help. Eryl approached a friend and artist to come up with the symbol of the butterfly and to create the installation whilst St John’s Methodist Church in Conwy, like many times before, also partnered with them bringing their skills in children’s and youth work to the project. Eryl speaks of the importance of co-creating something and how working together brings about revelations and moments of inspiration that rarely happen when working alone.
These touch-points, these moments of connectivity between secular and sacred are an essential part of community engagement. If we, as a church, are seeking to be relational, to have ‘porous walls’ there need to be access points for people and this butterfly art installment is just one of those.
The Jewish family spoke of a poem written by a prisoner, Pavel Friedmann, in one of the concentration camps after seeing a yellow butterfly. To read the poem by Pavel Friedmann on the Holocaust Memorial Day Trust's website click on this link.
https://www.hmd.org.uk/resource/the-butterfly-by-pavel-friedmann/