Cofio COP26 - Gwrando ar Bobl Frodorol
Yn ôl y geiriadur, ystyr brodorol, yw bodoli neu’n fyw’n naturiol mewn ardal, heb ei gyflwyno o le arall; mae’n frodorol. Mae hefyd yn gysylltiedig â’r geiriau ‘cynhenid' a ‘greddfol’, ac felly’n nodweddiadol o le penodol, yn perthyn i'r lle hwnnw. Mae hynny’n tynnu ynghyd y byd naturiol a’r byd wedi’i greu a phob un ohonom ni hefyd.
Darlleniad o’r Beibl: Genesis 1:31 a Luc 13: 6-9
Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac ‘yr oedd yn dda iawn’.
Adroddodd Iesu'r ddameg hon i’r rhai a oedd wedi ymgasglu o’i gwmpas: ‘yr oedd gan ddyn ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan. Daeth i chwilio am ffrwyth arno, ac ni chafodd ddim. Ac meddai wrth y gwinllannydd, ‘Ers tair blynedd bellach yr wyf wedi bod yn dod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn a heb gael dim. Am hynny tor ef i lawr! Pam y caiff dynnu maeth o’r pridd?’
Ond atebodd ef, ‘Meistr, gad iddo eleni eto, imi balu o’i gwmpas a’i wrteithio. Ac os daw â ffrwyth y flwyddyn nesaf, popeth yn iawn; onid e, cei ei dorri i lawr.’
Myfyrdod
Mae’r byd heddiw yn cofleidio treftadaeth ddiwylliannol cyfoethog ac amrywiol. Nid yw bobl bellach wedi’u cyfyngu i fyw ym mhle y ganwyd nhw, ond mae’n nhw’n gallu teithio a bwrw gwreiddiau yn unrhyw ran o wlad neu o’r byd. Eto, mae meddwl am beth mae’n ei olygu i wrando ar leisiau brodorol yn gallu mynd â ni i gymunedau bychain ac ynysig mewn lleoedd megis Kenya, Ghana, Tanzania neu Fecsico er enghraifft. Mae ganddyn nhw lais rydym ni angen gwrando arno, a datgelodd cynrychiolwyr y cymunedau hyn yng Nglasgow ar gyfer COP 26, fod ganddyn nhw hefyd ran i’w chwarae yn y gwaith o newid hinsawdd. [gweler ‘ychydig o awgrymiadau’]
Wrth siarad yn COP26, meddai Mindahi Bastida o’r genedl Otomi-Toltec ym Mecsico:
“Nid ydym yn gweld ein cyndeidiau, ond rydym yma oherwydd nhw. Nid ydym yn gweld cenedlaethau’r dyfodol ond yr hyn rydym yn ei wneud nawr sy’n penderfynu drostynt.’
Mae’r hyn sy’n cael ei benderfynu ar hyn o bryd yn penderfynu sut y bydd bywyd, neu y gallai bywyd gael ei fyw yn y dyfodol.
Cymunedau yw’r rhain sy’n adnabod y tir maen nhw'n byw arno, ac i raddau mwy neu lai, sy'n byw heb y diwydiant a'r dechnoleg sydd gennym ni ac eto, maen nhw hefyd yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd. Mae beth sy’n digwydd mewn un rhan o’r byd yn effeithio ar bawb, ac ar 'genedlaethau’r dyfodol’ sydd i ddod.
Sut mae’r dirwedd wedi newid ble rydych chi’n byw nawr?
Sut allwn ni wrando’n fwy gofalus ar y ddaear, yr amgylchedd ac ar leisiau dynol?
Mae Ruth Valerio o Tearfund [soniwyd amdani'r mis diwethaf] wedi ysgrifennu ar y ffyrdd yr ydym ni fel bodau dynol, wedi ein datgysylltu o’r ddaear a’r byd naturiol. Ychydig o gyfle sydd gan lawer o bobl i fynd ar fannau gwyrdd, nac unrhyw le i dyfu ffrwythau a llysiau, ac eto fel sydd wedi'i ddangos yn y blynyddoedd diwethaf, mae bob yn yr awyr agored yn dda at ein llesiant a’n hiechyd yn gyffredinol. Fel bodau dynol rydym yn bobl frodorol o’r ddaear, yn rhan o'r cread ac felly, mae’r cwestiwn yn codi sut allwn ni ail ddysgu neu ail ddarganfod y glust sy’n gwrando ar anghenion y greadigaeth.
Po fwyaf y mae diwydiant a thechnoleg yn darparu ar ein cyfer gyda’n holl anghenion, y mwyaf datgysylltiedig yr ydym yn dod o’r ddaear, yn enwedig os byddwn yn anghofion am ein galwedigaeth i ofalu am y cread mae Duw wedi'i ddatgan ‘yn dda’. Mae’r ddaear yn rhan ohonom ni a ninnau’n rhan o’r ddaear.
Mae’r gwrando hwn, ar y cread ei hun ac arnom ni’n hunain, yn bwysig os ydym ni eisiau gwneud gwahaniaeth. Yn y darn o’r Beibl, roedd y garddwr yn gwybod fod y ffigysbren yn y lle iawn ac mai dim ond angen ychydig yn fwy o ofal oedd arno i’w helpu i gynhyrchu ffigys. Gwrandawodd y garddwr ac mi oedd yn gwybod hefyd fod hyd yn oed cymryd pethau’n araf yn gallu gwneud gwahaniaeth. Gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth wrth gymryd camau bychain tuag at newid.
Ydych chi wedi ystyried eich hunain fel person brodorol ble rydych yn byw?
Beth mae hynny’n ei wneud i chi, ac efallai’n gofyn ohonoch?
Mae gwrando ar yr amrywiaeth cyfoethog o leisiau brodorol ar draws y byd yn datgelu sut yr ydym wedi’n cysylltu â’n gilydd; y ddaear rydym yn byw arni a’r aer rydym yn ei anadlu.
Gweddi
Dduw'r Greadigaeth,
edrychaist, a’i alw’n dda iawn:
y ddaear o dan ein traed,
yr aer rydym yn ei anadlu i fewn,
yr amrywiaeth gyfoethog o fodau dynol,
y creaduriaid sy’n nofio, cropian, cerdded a hedfan,
y planhigion sy’n tyfu yn rhoi lliw, cysgod, bwyd ac arogleuon.
Dduw'r Greadigaeth,
helpa ni i edrych a gweld yr harddwch o’n cwmpas:
i gymryd gofal sut rydym yn cerdded ar y ddaear,
i chwilio am ffyrdd o lanhau’r aer rydym yn ei anadlu i mewn,
i orfoleddu yn yr holl bobl ac i wrando ar yr holl leisiau,
i ddarparu cynefinoedd iach i’r holl greaduriaid,
i sicrhau nad ydym yn halogi’r ddaear ac yn atal tyfiant.
arwain ni mewn camau bach a mawr,
i wrando ar y ddaear ac i ni’n hunain,
i’r holl leisiau brodorol, yn agos ac ymhell,
fel y bydd popeth rydym yn ei wneud heddiw ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod,
yn ail gysylltu â’r ddaear
ac y bydd yn dda iawn.
Amen.
Ychydig o Awgrymiadau
- Gwgl – gwrando ar leisiau brodorol yn COP26 a chwiliwch am insightshare.org – a – flourishingdiversity.com
- Chwiliwch am Ruth Valerio, Eiriolydd Byd Eang a Chyfarwyddwr Dylanwadu yn Tearfund fel mae hi’n siarad ac yn ysgrifennu ar y ffydd Gristnogol a materion amgylcheddol. https://ruthvalerio.net
- Oes yna le ble gallwch fwynhau bod yn yr awyr agored? Treuliwch ychydig o amser dim ond yn gwrando ar y synau o’ch cwmpas.
- Os ydych yn hoffi cerdded, yna cerddwch yn araf a theimlwch weadedd y greadigaeth. Edrychwch ar beth sy’n tyfu ai beidio. ‘Blaswch’ yr arogleuon sydd yn yr aer o’ch cwmpas. Gorffwyswch am ychydig a gweddïwch ac os allwch, codwch unrhyw ysbwriel rydych yn ei ganfod wrth gerdded
Remembering COP26 - Listening to Indigenous People
Looking in the dictionary, indigenous means occurring or living naturally in an area, it has not been introduced from another place; it is native. It also relates to the words ‘intrinsic’ and ‘innate’, and so characteristic of a particular place, belonging to that place. This draws together the natural and created world and each one of us too.
Bible Reading: Genesis 1:31 and Luke 13: 6-9
God saw everything in creation that had been made and ‘it was very good’.
Jesus told a parable to those gathered around him: ‘A man had a fig tree planted in his vineyard; and he came looking for fruit on it and found none. So he said to the gardener, ‘See here! For three years I have come looking for fruit on this fig tree, and still I find none. Cut it down! Why should it be wasting the soil?’
He replied, ‘Sir, let it alone for one more year, until I dig around it and put manure on it. If it bears fruit next year, well and good; but if not, you can cut it down.’
Reflection
The world today embraces a rich and diverse cultural heritage. No longer are people confined to living in the place they were born, but can travel, and settle, in any part of a country, or of the world. Yet, thinking about what it means to listen to indigenous voices may take us to small and remote communities in places such as Kenya, Ghana, Tanzania, or Mexico for example. They have a voice that we need to listen to, and representatives of these communities in Glasgow for COP26 revealed they also have role to play in the work of climate change. [see ‘a few suggestions’]
Speaking at COP26, Mindahi Bastida, of the Otomi-Toltec nation in Mexico, is quoted as saying:
‘We don’t see our ancestors, but we are here because of them. We don’t see future generations but what we do now is deciding for them.’
What is decided in the present moment determines how life will, or could be lived in the future.
These are communities who know the land they live on, and to a greater or lesser extent, live without the industry and technology that we have and yet, they too are affected by climate change. What happens in one part of the world effects everyone, and the ‘future generations’ to come.
How has the landscape changed in the place you now live?
How can we listen more carefully to the earth, the environment and human voices?
Ruth Valerio, of Tearfund, [mentioned last month] has written on the ways in which, as human beings, we have become disconnected from the earth and the natural world. Many have little access to green spaces, or anywhere to grow fruit and vegetables, and yet as the recent years have shown, being outside is good for our overall well-being and health. As human beings we are an indigenous people of the earth, a part of creation, and so the question this raises is how can we re-learn or re-discover a listening ear to the needs of creation?
The more industry and technology that provides us with all needed for living, the more disconnected from the earth we become, especially if we forget our calling to care for creation which God declared ‘good’. The earth is a part of us and we are a part of the earth.
This listening to creation itself and to ourselves is important if we want to make a difference. In the bible passage the gardener knew the fig tree was in the right place and simply needed a little more care to help it to produce figs. The gardener listened and knew too that even taking things slowly can make a difference; and we can all make a difference even by taking small steps towards change.
Have you considered yourself as an indigenous person in the place you live?
What does this to you, and perhaps ask of you?
Listening to the rich variety of indigenous voices across the world reveals ways in which we are connected together; the earth we live on and the air that we breathe.
Prayer
God of Creation,
you looked, and called it all very good:
the earth beneath our feet,
the air we breathe in,
the rich variety of human beings,
the creatures which swim, crawl, walk and fly,
the plants that grow giving colour, shelter, food and scents.
God of Creation,
help us look and see the beauty around us:
to take care how we walk upon the earth,
to seek ways to clean the air we breathe in,
to rejoice in all people and to listen to all voices,
to provide healthy habitats for all creatures,
to ensure we do not pollute the earth and prevent growth.
God of Creation,
guide us in steps both small and big,
to listen to the earth, and to ourselves,
to all indigenous voices both near and far,
so all we do today for generations still to come,
will be reconnected to the earth
and all shall be very good.
Amen.
A Few Suggestions
- Google – listening to indigenous voices at COP26 and look for – insightshare.org – and – flourishingdiversity.com
- Search for Ruth Valerio, Global Advocate and Influencing Director at Tearfund as she speaks and writes on the Christian faith and environmental issues. https://ruthvalerio.net
- Is there a place where you can enjoy being outside? Spend some time simply listening to the sounds around you.
- If you like walking, then walk slowly and feel the textures of creation, look at what is growing or not, ‘taste’ the scents in the air around you, rest a while and pray, and if you can pick up any rubbish you find as you walk.