minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Torri Bara gyda’ch Aelod Seneddol

A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni 

Hebreaid 10:25

Yn ystod Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, lansiwyd adnodd newydd yn y Gymraeg gan Cymorth Cristnogol, sef ‘Torri Bara gyda’ch Aelod Seneddol Newydd’.

Wrth i’n Haelodau Seneddol newydd setlo wedi’r Etholiad Cyffredinol, mae Cymorth Cristnogol yn galw arnom i fagu perthynas ac i gychwyn sgwrsio gyda’n cynrychiolwyr Llywodraeth DU.

Gyda newid mewn Llywodraeth, daw’r cyfle i ni roi ein ffydd ar waith ac annog y rhai mewn sefyllfaoedd o rym i sicrhau bod materion cyfiawnder byd-eang ar blaen eu hagenda.

Mae’r adnodd newydd (hefyd ar gael yn Saesneg ‘Breaking Bread with your new MP’) yn ganllaw ar groesawu’r Aelod Seneddol newydd i’ch eglwys - p’un ai’n fore coffi neu ginio cawl.

Trwy wahodd yr Aelod Seneddol sydd newydd ei ethol i’ch eglwys i dorri bara a siarad am dlodi gallech sbarduno perthynas ar gyfer trechu tlodi a allai bara am flynyddoedd i ddod.

Mae torri bara yn symbol o groeso, lletygarwch, gofal, didwylledd a heddwch. Wrth dorri bara, rydym yn adeiladu ac yn cryfhau ein perthynas ag eraill. Gall y prydau symlaf - hyd yn oed paned de a bisged - helpu i feithrin perthynas.

Matt Batten, Cyfarwyddwr Cyfathrebu

Mae’r weithred gyffredin a’r symbolaeth o rannu bara gyda dieithriaid yn amlwg mewn sawl rhan o’r Beibl. Byddai Iesu’n aml yn rhannu bara gyda’i gymdogion a dod yn gyfaill iddynt - ac fel gweithred ganolog y Swper Olaf, mae torri bara yn llawn arwyddocâd arbennig i Gristnogion.

Yn ogystal â’r adnodd ‘Torri Bara’, mae yna hefyd adnoddau pellach i ganfod mwy am yr hyn y mai Cymorth Cristnogol yn galw'r Llywodraeth DG newydd i’w gwneud megis tair taflen gwybodaeth ar yr angen am heddwch, cyfiawnder dyled a chyfiawnder hinsawdd. Mae hefyd gwrs ‘Taclo Tlodi er mwyn helpu Cristnogion i ddeall materion tlodi a chyfiawnder a sut i siarad gyda cynrychiolwyr gwleidyddol amdanynt.

I ganfod mwy, ewch i wefan Cymorth Cristnogol a chliciwch ar ‘Get Involved’, wedyn ‘Campaigns’

Cymraeg

Breaking Bread with your MP

And let us consider how we may spur one another on toward love and good deeds

Hebrews 10:24

As all around Wales newly elected MPs are settling in to their Parliamentary seats, international charity Christian Aid is calling on people to forge relations and start conversations with their UK Government representatives.

With a change of Government comes an opportunity for people to put their faith into action and encourage decision-makers to put issues of global justice at the top of their agendas.

To help churches, and individuals, Christian Aid has put together a guide to Breaking Bread with an MP (launched also in Welsh at the National Eisteddfod at the beginning of August) - whether that’s a coffee morning or a bring and share lunch.

Inviting your newly elected MP into church to break bread could spark a connection that could last for years.

The everyday act and symbolism of sharing food with strangers appears in many parts of the Bible; Jesus frequently shared bread with those he encountered and befriended – and as the central act of the Last Supper, the breaking of bread is imbued with special significance for Christians.

It’s a symbol of welcome, hospitality, care, openness, and peace. In breaking bread, we build and strengthen our relationships. And the humblest of meals - even a cup of tea and biscuits - can help build relationships.

Taclo Tlodi Matt Batten
Matt Batten, Director of Communication

In addition to the ‘Breaking Bread’ guide, there are more resources which explain what Christian Aid is asking of the UK Government - from putting peace first, and funding climate justice, to cancelling the debts of low income countries. Find out more via these crib sheets (available in Welsh too). 

There is also the ‘Act on Poverty’ course (‘Taclo Tlodi’, available in Welsh) created with UK partners to help Christians gain a deeper understanding of poverty and get equipped to talk to political representatives about it.

To find out more, visit the Christian Aid website and click on Get Involved and Campaigns.