minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Eglwysi’n croesawu cynwysoldeb gyda hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod

Mae eglwysi yn y gogledd yn codi ymwybyddiaeth o gefnogi pobl fyddar mewn diwrnod o hyfforddiant fydd yn cael ei gynnal gan Esgobaeth Bangor ddydd Iau 24 Hydref, i helpu cymunedau eglwysig i ddysgu sut i groesawu aelodau byddar a thrwm eu clyw a sut i gyfathrebu’n well â nhw. Bydd y diwrnod hyfforddi yn gyfle i aelodau’r eglwys ddysgu sut i estyn croeso i bawb, beth bynnag yw eu gallu i glywed.

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei arwain gan yr ymgyrchwyr ymwybyddiaeth o fyddardod Rosemary Thompson, Cadeirydd grŵp Gweithgareddau Byddar Sir Conwy a Ruth Fabby MBE, Cyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru. Bydd y bobl sy’n bresennol yn dysgu iaith arwyddion sylfaenol er mwyn croesawu pobl, ymuno mewn addoli, a gweddïo. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn dysgu eu henwau personol eu hunain yn yr iaith arwyddion.

Cynhelir y digwyddiad yn Nhŷ Deiniol, Clos y Gadeirlan, Bangor rhwng 10am a 4pm a bydd yn cynnwys gwasanaeth Cymun arbennig gydag arwyddion yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys gweddïo dros gymunedau byddar lleol.

Yn ôl Action on Hearing Loss mae Cymru yn gartref i ryw 575,000 o bobl fyddar ac mae dros 7,500 o bobl yng Nghymru yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu prif ffordd o gyfathrebu.

Meddai Rosemary a Ruth, “Wrth i bobl dyfu'n hŷn, mae’r clyw yn aml yn dirywio a bydd yn debygol o effeithio ar lawer o aelodau hŷn yn ein cynulleidfaoedd eglwysig.

"Mae’r diwrnod hyfforddi hwn yn gam tuag at wneud ein heglwysi yn fwy cynhwysol. Mae’n gyfle i ddysgu sgiliau newydd a helpu i sicrhau bod pawb, beth bynnag yw eu gallu o ran clywed, yn gallu cymryd rhan lawn ym mywyd yr eglwys."

Y cyntaf i’r felin gaiff falu, ond mae rhestr aros ar gael ar gyfer hyfforddiant yn y dyfodol. Defnyddiwch y ffurflen hon i sicrhau eich lle. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda hygyrchedd, rhowch wybod i’r trefnwyr pan fyddwch yn archebu.

Cymraeg

Churches embrace inclusivity with deaf awareness training

Churches in North Wales are raising awareness about supporting deaf people with a training day organised by the Diocese of Bangor on Thursday 24th October, helping church communities learn how to better welcome and communicate with deaf and hard-of-hearing members. This training day is a chance for church members to learn how to make everyone feel welcome, regardless of their hearing ability.

Training will be led by deaf awareness campaigners Rosemary Thompson, Chair of the Conwy County Deaf Activities group and Ruth Fabby MBE, Director of Disability Arts Cymru. Attendees will learn some basic sign language that can be used for welcoming people, joining in worship, and saying prayers. Participants will also learn their own personal sign name.

The event takes place at Tŷ Deiniol, Cathedral Close, Bangor from 10am to 4pm and includes a special signed Eucharist service at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor. The service will include prayers for local deaf communities.

According to Action on Hearing Loss Wales is home to about 575,000 deaf people and over 7,500 people in Wales use British Sign Language (BSL) as their main way to communicate.

Organisers Rosemary and Ruth say, “As people grow into older age, hearing often deteriorates and will likely impact on many older members in our church congregations.

“This training day is a step towards making our churches more inclusive. It's a chance to learn new skills and help ensure that everyone, regardless of their hearing ability, can fully participate in church life. We hope all participants will leave feeling confident in future interactions with deaf people”

Spaces are limited but a waiting list is available for future training. Use this booking form to secure a place. If you need any help with access, just let the organisers know when you book.