minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cadeirlan Deiniol Sant yn cynnal digwyddiad celfyddydol ac iechyd meddwl arloesol

Cynhaliodd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor un o’r sesiynau peilot ar gyfer Cysylltu, prosiect arloesol gyda’r nod o ymdrin â phroblemau iechyd meddwl drwy’r celfyddydau. Cafodd y sesiwn, o’r enw REFRESH Just Be ei harwain gan Gyfarwyddwr y Prosiect Ellie Davies a thîm o artistiaid sydd â phrofiadau personol o frwydrau iechyd meddwl sy’n ceisio torri cylch ynysigrwydd a hybu adferiad.

Mae Cysylltu yn darparu amrywiaeth amryfal o ymarferion artistig sydd wedi’u cynllunio i helpu unigolion i ddod o hyd i’w llais, cael eu clywed, ailgysylltu ac adfer. Mae’r prosiect eisoes wedi bod yn llwyddiannus gyda chyfres o weithdai mewn lleoliadau cymunedau adfer a digwyddiadau cyhoeddus.

Roedd y sesiwn beilot ddiweddar a gafodd ei chynnal yn y Gadeirlan, yn llwyddiant ysgubol. Mae rhai eraill wedi’u cynllunio ar gyfer clwb ar ôl ysgol yng Nghaernarfon, cartref gofal ym Mangor a grŵp profedigaeth ym Methesda. Yn dilyn gwerthuso’r cynlluniau peilot hyn, y gobaith yw sicrhau cyllid ar gyfer cyflwyno rhaglen lawn o ddigwyddiadau yn 2025.


Ynglŷn â Cysylltu

Mae Cysylltu yn brosiect celfyddydau cymunedol sy’n archwilio sut y gall y celfyddydau creadigol helpu i roi llais i’r rhai nad ydynt yn cael eu clywed, gan chwalu stigma caethiwed i sylweddau a phroblemau iechyd meddwl, a herio canfyddiad elitaeth y celfyddydau. Mae’r prosiect yn gwau ynghyd sgyrsiau gwreiddiol, barddoniaeth, cerddoriaeth, symudiad, clai, paent a dawns i greu deialog newydd sy’n mynd y tu hwnt i eiriau, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a gwella lles ac iechyd meddwl.

Wrth i ni nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref, mae Cysylltu yn sefyll fel llusern o obaith, gan ddangos grym y celfyddydau wrth hybu iechyd meddwl a lles.


Cymorth iechyd meddwl a lles

I gael cyngor a chymorth ynghylch rheoli eich lles a’ch iechyd meddwl, cysylltwch â’r sefydliadau canlynol.


Cyngor Gwynedd sy’n ariannu Cysylltu fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Arian sbarduno ar gyfer y celfyddydau - peilota ffyrdd newydd a chreadigol o weithio yng Ngwynedd.

Cymraeg

Bangor Cathedral hosts groundbreaking arts and mental health event

Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor hosted one of the pilot sessions for Cysylltu, a pioneering project aimed at addressing mental health issues through the arts. The session, called REFRESH Just Be, was led by Project Director Ellie Davies and a team of artists with personal experiences of mental health struggles who are seeking to break the cycle of isolation and promote recovery.

Cysylltu provides a diverse range of artistic practices designed to help individuals find their voice, be heard, reconnect, and recover. The project has already seen success through a series of workshops in recovery community settings and public events.

The recent pilot session held at the Cathedral, was a resounding success. Others are planned for an after-school club in Caernarfon, a care home in Bangor and a bereavement group in Bethesda. Following the evaluation of these pilots, the hope is to secure funding for a full programme of events to be rolled out in 2025.


About Cysylltu

Cysylltu, meaning “Connecting,” is a community arts project that explores how creative arts can help give voice to the unheard, breaking down the stigma of addiction and mental health issues, and challenging the perceived elitism of the arts. The project weaves together original conversations, poetry, music, movement, clay, paint, and dance to create a new dialogue that goes beyond words, fostering a sense of belonging and improving well-being and mental health.

As we mark World Mental Health Day on 10 October, Cysylltu stands as a beacon of hope, demonstrating the power of the arts in promoting mental health and well-being.


Mental health and wellbeing support

For advice and support with managing your wellbeing and mental health, please contact the following organisations.


Cysylltu is funded by Gwynedd Council as part of the UK Shared Prosperity Funding - Seed funding for the arts - piloting new and creative ways of working in Gwynedd.