minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cerdded yn Ôl Traed y Saint

Ymunodd dros 20 o bererinion ag Esgob Enlli ac Archddiacon Ynys Môn y penwythnos diwethaf ar gyfer taith gerdded goffa yn nodi 800 mlynedd ers i’r Brodyr Llwydion gyrraedd Prydain am y tro cyntaf. Roedd y bererindod, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 6 Hydref, yn olrhain y llwybr o'r hen frodordy Ffransisgaidd o'r 13eg ganrif yn Llanfaes i Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas ym Miwmares, Ynys Môn.

Yma, mae Wendy Davies o Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol ar Ynys Môn, yn dweud mwy wrthym.


Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth fyddai dilyn ôl traed y saint? Wel, dyna'n union beth wnaethon ni ar fore iach o Hydref pan ddaeth dros 20 o bererinion (a thri ffrind pedair coes!) at ei gilydd ar gyfer taith gerdded arbennig i ddathlu Sant Ffransis o Assisi.

Taith trwy amser a ffydd

Aeth ein llwybr â ni o safle hen frodordy Ffransisgaidd yn Llanfaes i eglwys Biwmares. Wrth i ni gerdded, nid dim ond troedio pellter ffisegol oeddem - roeddem yn pontio bwlch o 800 mlynedd i gysylltu â'r Brodyr Llwydion cyntaf a gyrhaeddodd Prydain ym mis Medi 1224. Mae'n anhygoel meddwl bod un o'r cenhadon gwreiddiol hynny, a anfonwyd gan Sant Ffransis ei hun, wedi cerdded y llwybrau hyn.

Mae'r cysylltiad lleol yn ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig - ym 1237, daeth Llanfaes o bosib yn gartref i'r brodordy Ffransisgaidd cyntaf yng Nghymru. Roeddem ni wir yn cysylltu ein ffydd bresennol â'n treftadaeth Gristnogol Gymreig.

Mwy na thaith gerdded yn unig

Roedd ein pererindod yn ymwneud â mwy na’r gyrchfan yn unig. Ar hyd y ffordd, fe wnaethon ni oedi i fyfyrio ar yr hanes cyfoethog hwn, ac yn yr eglwys, rhannodd Brawd Llwyd y dyddiau hyn feddyliau ynghylch pam mae neges Sant Ffransis yn dal i daro tant heddiw. Ar ddiwedd ein taith gyda'n gilydd buom yn dathlu gyda chacen a chafodd ein cŵn fendith arbennig hefyd.

Cysylltu â Duw ac â'n gilydd

Roedd y bererindod arbennig hon yn rhan o rywbeth mwy yr ydym wedi bod yn ei drefnu ym Mro Seiriol. Yn ystod y pandemig, pan gaewyd drysau ein heglwys, aethom â'n haddoliad allan i’r awyr agored. Daeth y teithiau cerdded hyn yn noddfa i ni, ein ffordd o gysylltu â Duw ac â'n gilydd.

Rydym wedi darganfod rhywbeth hyfryd - mae cerdded a myfyrio gyda'n gilydd yn agor sgyrsiau a chysylltiadau na fyddem efallai erioed wedi'u cael o fewn muriau'r eglwys. Yn union fel pererinion Chaucer, rydyn ni'n cael ein hunain yn sgwrsio â phobl na fyddem ni fel arfer yn siarad â nhw, gan rannu meddyliau a phrofiadau, a thyfu mewn ffydd gyda'n gilydd.

Mae ein teithiau cerdded yn croesawu pawb - eglwyswyr rheolaidd, ymwelwyr achlysurol, a'r rhai sy'n chwilfrydig yn unig. Weithiau rydym yn cael ein harwain gan glerigwyr, ond yn aml aelodau o'n cymuned ein hunain yn rhannu myfyrdodau, barddoniaeth a meddyliau sy'n peri i ni weld ein ffydd - a'n byd - mewn ffyrdd newydd.

Os hoffech wybod mwy am ein teithiau cerdded, anfonwch neges e-bost ataf fi Wendy; wdatpyb1@gmail.com


Rhowch gynnig ar bererindod

Mae Esgobaeth Bangor, gyda'i thraddodiad o bererindod dros y canrifoedd yn cynnig cyfleoedd niferus i bererinion profiadol a'r rhai sy'n newydd i'r arfer. O deithiau cerdded myfyriol byr i deithiau hirach yn dilyn llwybrau pererinion hynafol, mae'r Esgobaeth yn darparu gwahanol ffyrdd o ymgysylltu â'r traddodiad ystyrlon hwn.

I ddechrau eich taith bererindod:

  • Archwiliwch Lwybr Cadfan, ein llwybr pererindod newydd sbon yng ngogledd Cymru.
  • Rhowch gynnig ar Addoli yn y Gwyllt gyda'r Parchedig Eryl Parry – a ddaeth i enwogrwydd drwy raglen Pilgrimage y BBC.
Cymraeg

Walking in the Footsteps of Saints

More than 20 pilgrims joined the Bishop of Bardsey and Archdeacon of Anglesey last weekend for a commemorative walk marking 800 years since Franciscan friars first arrived in Britain. The pilgrimage, which took place on Saturday 6 October, traced the route from the former 13th-century Franciscan friary at Llanfaes to St Mary and St Nicholas Church in Beaumaris, Anglesey.

Here, Wendy Davies from Bro Seiriol Ministry Area on Anglesey, tells us more.


Have you ever wondered what it would be like to follow in the footsteps of saints? Well, that's exactly what we did on a crisp October morning when over 20 pilgrims (and three four-legged friends!) came together for a special walk to celebrate St Francis of Assisi.

A Journey through time and faith

Our path took us from the site of a former Franciscan friary at Llanfaes to Beaumaris church. As we walked, we weren't just covering physical distance - we were bridging an 800-year gap to connect with the first Franciscan friars who arrived on British soil in September 1224. It’s incredible to think that one of those original missionaries, sent by St Francis himself, walked these same paths.

The local connection makes it even more special - in 1237, Llanfaes became home to what was probably the first Franciscan friary in Wales. We truly were connecting our present faith with our Welsh Christian heritage.

More than just a walk

Our pilgrimage wasn't just about the destination. Along the way, we paused for reflections on this rich history, and at the church, a modern-day Franciscan shared thoughts on why St. Francis's message still resonates today. At the end of our journey together we celebrated with cake and our canine companions also received a special blessing.

Connecting with God and each other

This special pilgrimage was part of something bigger that we have been organising in Bro Seiriol. During the pandemic, when our church doors were closed, we took our worship outside. These walks became our sanctuary, our way of connecting with both God and each other.

We have discovered something beautiful - walking and reflecting together opens up conversations and connections we might never have had within church walls. Just like Chaucer's pilgrims, we find ourselves chatting with people we might not usually talk to, sharing thoughts and experiences, and growing in faith together.

Our walks welcome everyone - regular churchgoers, occasional visitors, and those who are just curious. Sometimes we're led by clergy, but often it's members of our own community sharing reflections, poetry, and thoughts that make us see our faith - and our world - in new ways.

If you would like to find out more about our walks, email me, Wendy, at wdatpyb1@gmail.com

Try pilgrimage

The Diocese of Bangor, with its centuries-old tradition of pilgrimage, offers numerous opportunities for both experienced pilgrims and those new to the practice. From short reflective walks to longer journeys following ancient pilgrim routes, the Diocese provides various ways to engage with this meaningful tradition.

To start your pilgrimage journey: