Cadeirlan Bangor i’w gweld ar un o Stampiau Nadolig y Post Brenhinol ar gyfer 2024
Heddiw, cyhoeddodd y Post Brenhinol mai darlun gwreiddiol o Fangor fydd i’w weld ar stamp Dosbarth Cyntaf Mawr cyfres Stampiau Arbennig y Nadolig 2024.
Bydd rhai o’r nifer o gadeirlannau mawreddog yn y Deyrnas Unedig i’w gweld ar stampiau Nadolig y Post Brenhinol ar gyfer 2024 – y pedair yn y gyfres fydd: Caeredin; Armagh; Lerpwl; a San Steffan.
Cafodd y stampiau eu darlunio gan yr artist Prydeinig o Penzance, Judy Hoel, y mae eu paentiadau poblogaidd wedi cael eu gwerthu ledled y byd dros y 50 mlynedd diwethaf.
Meddai Esgob Enlli, y Gwir Barchedig David Morris, “Rydym yn falch iawn bod y Post Brenhinol wedi dewis Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor ar gyfer casgliad stampiau’r Nadolig. Mae wir yn ddyluniad hyfryd ac rwy’n edrych ymlaen at gael fy ngherdyn Nadolig cyntaf gyda stamp Cadeirlan Bangor y Post Brenhinol arno.
“Mae’n arwyddocaol iawn i ni wrth i ni baratoi i ddathlu 1500 o flynyddoedd ers i Sant Deiniol sefydlu cymuned ym Mangor a sefydlu’r Gadeirlan a’r Ddinas a welwn heddiw. Rydym yn gobeithio y bydd y stamp yn annog pobl i ymweld â’r Gadeirlan yn ystod ein dathliadau Nadolig.”
Meddai David Gold, Cyfarwyddwr Materion Allanol a Pholisi: “Rydym yn falch iawn bod Cadeirlan Bangor i’w gweld ar ein stamp Dosbarth Cyntaf Mawr y Nadolig hwn. Mae cadeirlannau yn rhan bwysig iawn o’n treftadaeth ddiwylliannol ac maent yn chwarae rôl bwysig mewn cymunedau lleol. Maent hefyd yn cynnig lle i fyfyrio’n dawel a dianc rhag heriau bywyd bob dydd, a all fod yn bwysig iawn adeg y Nadolig.”
Mae’r Nadolig yn amser o ddathlu yng nghanol tywyllwch y gaeaf ym mhob un o gadeirlannau’r Deyrnas Unedig. Cadeirlan yw sedd esgob (cathedra yn Lladin) a phrif eglwys yr esgobaeth, neu ardal weinyddol yr eglwys. O Gadeirlan Padrig Sant yn Armagh, a sefydlwyd gan y sant Gwyddelig nodedig (yn wreiddiol o Brydain Rufeinig) fel cymuned fynachaidd ar ben bryn, i Gadeirlan Lerpwl, a gysegrwyd ganrif yn ôl, mae cadeirlannau yn dyst i hanes ac yn chwarae rôl allweddol ym mywyd ysbrydol, diwylliannol a chymdeithasol y genedl. Gyda goleuadau cannwyll, addurniadau Nadoligaidd, pensaernïaeth fawreddog, celf a thrysorau ysbrydoledig a cherddoriaeth a litwrgi aruchel, mae cadeirlannau yn lleoedd rhyfeddol a chroesawgar i ymweld â nhw adeg y Nadolig.
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Yn 525 OC, sefydlodd Sant Deiniol gymuned genhadol wedi’i hamgáu gan ffens o goed cyll, mewn ardal o dir isel ar y Fenai rhwng mynyddoedd Eryri a glannau Ynys Môn. Deiniol oedd un o’r seintiau Celtaidd o’r 6ed ganrif a sicrhaodd fod presenoldeb Cristnogol yn parhau ar hyd glannau gorllewin Cymru ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain. Yn y blynyddoedd wedi hynny, cafodd y mynachdy ei ysbeilio sawl gwaith, a does dim o’r adeilad gwreiddiol wedi goroesi.
Mae’r gadeirlan bresennol yn un Normanaidd. Fe’i hadeiladwyd gan frenin Gwynedd, Gruffudd ap Cynon, a oedd yn feistr ar adeiladu eglwysi ac a gladdwyd yno yn 1137. Cafodd y gadeirlan ei hysbeilio droeon gan y Saeson oherwydd ei chysylltiad â thywysogion brodorol Cymru, a gwnaethpwyd llawer o ddifrod iddi yn 1211 gan fyddin y Brenin Ieuan. Erbyn y 19eg ganrif, roedd mewn cyflwr gwael a chafodd gwaith ailadeiladu ac atgyweirio mawr ei wneud gan George Gilbert Scott.
Mileniwm a hanner yn ddiweddarach, mae’r gadeirlan yn parhau i fod wedi’i gwreiddio yn y gorffennol, ond mae hefyd yn ymatebol i’r anghenion a welir heddiw.
Ar hyn o bryd, Bangor yw cadeirlan daleithiol yr Eglwys yng Nghymru, gan mai Esgob Bangor yw Archesgob Cymru. Caiff Dydd Nadolig ei ddathlu yma gyda cherddoriaeth a litwrgi yn Gymraeg a Saesneg.
Mae’r stampiau, ac amrywiaeth o gynhyrchion y gellir eu casglu, ar gael i’w prynu o heddiw (5 Tachwedd) ymlaen yn www.royalmail.com/christmas2024, dros y ffôn ar 03457 641 641 ac mewn 7,000 o Swyddfeydd Post ledled y Deyrnas Unedig. Mae Pecyn Cyflwyno sy’n cynnwys y pum stamp ar gael i’w brynu am £10.35.
Bangor Cathedral features on Royal Mail 2024 Christmas Stamp
Royal Mail today announced that an original illustration of Bangor will feature as the First Class Large Class stamp for its Christmas Special Stamps in 2024.
Royal Mail’s 2024 Christmas stamps feature some of the many spectacular cathedrals in the UK – the remaining four completing the set being: Edinburgh; Armagh; Liverpool; and Westminster.
The stamps were illustrated by Penzance-based, British artist, Judy Joel, whose popular paintings have been sold worldwide over the last 50 years.
Bishop of Bardsey the Rt Reverend David Morris, said: “We are delighted that the Royal Mail has chosen Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor to feature in their Christmas stamp collection. It really is a beautiful design and I look forward to receiving my first Christmas card with the Bangor Cathedral Royal Mail stamp.
“It is particularly significant for us as we prepare to celebrate 1500 years since St Deiniol established a community in Bangor and founded the Cathedral and City we see today. We hope the stamp will encourage visitors to the Cathedral during our Christmas celebrations.”
David Gold, Director of External Affairs and Policy said: “We are delighted that Bangor Cathedral features on our First Class Large Christmas stamp. Cathedrals are a hugely significant part of our cultural heritage and play an important role in local communities. They also offer space for peaceful reflection and a bit of an escape from the challenges of daily life, which can be especially important at Christmas.”
Christmas is a time of celebration in the midst of winter darkness at all of the United Kingdom's cathedrals. A cathedral is the seat of a bishop (cathedra in Latin) and the principal church of the diocese, or church administrative area. From St Patrick's Cathedral in Armagh, founded by the great Irish saint (originally from Roman Britain) as a monastic community on a hilltop, to Liverpool Cathedral, consecrated a century ago, cathedrals bear witness to history and play a key role in the nation's spiritual, cultural and social life. With candlelight, festive decorations, magnificent architecture, awe-inspiring art and treasures and sublime music and liturgy, cathedrals are wonderful and welcoming places to visit at Christmas.
St Deiniol’s Cathedral in Bangor
In ad 525, St Deiniol set up a missionary community enclosed by a bangor, or hazel fence, in a low-lying spot on the Menai Strait between the mountains of Snowdonia and the shores of Anglesey. Deiniol was one of the 6th-century Celtic saints who, after the departure of the Romans from Britain, sustained a Christian presence along the western shores of Wales. In the ensuing years, the monastery was plundered several times, and nothing of the original building survives.
The current cathedral is Norman in origin, built by the great church-builder king of Gwynedd, Gruffudd ap Cynan, who was buried there in 1137. The cathedral’s association with the native princes of Wales resulted in repeated sackings by the English, and the building was heavily damaged in 1211 by King John’s invading army. By the 19th century, it was in a poor state, and a major rebuild and refurbishment were undertaken by George Gilbert Scott.
A millennium and a half on, the cathedral remains rooted in the past while being responsive to the needs of the present.
Bangor is currently the provincial cathedral of the Church in Wales, as the Bishop of Bangor is also the Archbishop of Wales. Christmas Day is celebrated here with music and liturgy in Welsh and English.
The stamps, and a range of collectible products, are available to buy from today (5 November) at www.royalmail.com/christmas2024, by telephone on 03457 641 641 and 7,000 Post Offices across the UK. A Presentation Pack including all five stamps is priced at £10.35.