Croes Cymru i arwain dathliadau 1500 Bangor
Mae Croes Cymru, a chwaraeodd ran ganolog yng ngorymdaith Coroni'r Brenin Charles III, ar fin dychwelyd i dir Cymru wrth i Fangor, dinas hynaf Cymru, lansio blwyddyn o ddathliadau i nodi ei phen-blwydd yn 1500 oed.
Bydd y groes orymdeithiol a gomisiynwyd yn arbennig, sy'n cynnwys crair o'r Gwir Groes a roddwyd i'r Brenin Charles gan y Pab Francis, yn cael ei derbyn yn swyddogol yng Nghadeirlan Deiniol Sant yn ystod gwasanaeth Cymun dwyieithog arbennig ddydd Sul 1 Rhagfyr. Archesgob Cymru, Andrew John, fydd yn arwain y gwasanaeth, gydag Esgob Llandaf, Mary Stallard, yn traddodi’r bregeth. Bydd y Groes yn cael ei derbyn yn ffurfiol ar ran y Gadeirlan gan Esgob Enlli, David Morris, a'r Canon Tracy Jones.
Cyflwynwyd Croes Cymru fel rhodd canmlwyddiant i'r Eglwys yng Nghymru gan y Brenin Charles a hi oedd yn arwain gorymdaith y Coroni yn Abaty Westminster ar 6 Mai 2023. Ers hynny, mae wedi bod yng ngofal Cwmni’r Eurychod yn Llundain, a arweiniodd y broses ddylunio a chynhyrchu. Cyflwynwyd y Groes yn swyddogol i Archesgob Cymru, ar ran yr Eglwys yng Nghymru, gan yr Athro Charles Mackworth-Young, Prif Warden Cwmni Anrhydeddus yr Eurychod mewn seremoni yn Llundain ar 25 Ionawr.
Yn dilyn ei gosod yng Nghadeirlan Bangor, bydd y Groes yn cychwyn ar daith o amgylch eglwysi cadeiriol Cymru, gan sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael cyfle i weld y darn arwyddocaol hwn o dreftadaeth grefyddol a diwylliannol. Bydd y Groes yn cael ei rhannu rhwng yr Eglwysi Anglicanaidd a’r Eglwysi Catholig yng Nghymru.
Bangor 1500
Bydd y gwasanaeth yn nodi dechrau dathliad blwyddyn o hyd sy'n coffáu 1,500 o flynyddoedd ers i Deiniol Sant sefydlu mynachlog – a elwir yn glas – yn 525 OC mewn cwm diarffordd yng ngogledd-orllewin Cymru. Yn y pen draw, tyfodd yr anheddiad hwn i fod yn gadeirlan a dinas Bangor.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys ennyd o fyfyrio ac undod wrth i'r ddinas baratoi ar gyfer blwyddyn o ddathlu.
Mae rhaglen ben-blwydd y Gadeirlan yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau nodedig drwy gydol 2025, gan gynnwys:
- Darllediad byw o Sunday Worship BBC Radio 4.
- Cyngerdd aduniad hanesyddol gan y band roc Cristnogol Cymraeg Yr Atgyfodiad.
- Lansio CD Cerddoriaeth Eglwysig Newydd Gymreig wedi'i recordio gan Gôr Cadeirlan Deiniol Sant.
- Gosod eicon newydd o Deiniol Sant.
Bydd dathliadau'r ddinas yn parhau gydag arddangosfa ysblennydd o dân gwyllt dros bier hanesyddol Bangor ar Nos Galan. Mae Cyngor Dinas Bangor hefyd wedi dechrau plannu 18,000 o gennin Pedr – un am bob mis ers sefydlu'r ddinas yn 525 OC – a fydd yn blodeuo mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Bydd plant ysgol lleol hefyd yn nodi'r achlysur trwy gladdu capsiwlau amser o dan goeden goffa yn ddiweddarach yn 2025.
Dywed Esgob Enlli, David Morris, “Mae'r gwasanaeth hwn yn nodi dechrau blwyddyn bwysig i ni. Bydd hwn yn gyfle i ddiolch am 1500 o flynyddoedd o ffydd a thystiolaeth, ac mae gwneud hynny drwy dderbyn Croes Cymru yn ffurfiol yn arwyddocaol iawn.
“Credir bod darn o'r wir groes a gynhwysir ynddi wedi dod o'r groes y croeshoeliwyd Iesu Grist arni, bron i 500 mlynedd cyn gweinidogaeth Deiniol Sant yng ngogledd Cymru, ac ar farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad y gorffwysai ffydd Deiniol a dyna a'i hysgogodd i rannu'r newyddion da gyda’i genhedlaeth.
“Byddwn yn diolch am yr etifeddiaeth hon o ffydd sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau dirifedi ac sy'n rhoi bywyd i'r Gadeirlan heddiw yng nghanol dinas Bangor, gan sefyll fel ffagl o olau a gobaith i bawb.
Wedi'i dylunio a'i llunio gan y meistr gof arian Michael Lloyd, gan ymgynghori â'r Casgliad Brenhinol, mae Croes Cymru wedi'i llunio o fwliwn arian wedi'i ailgylchu, a roddwyd gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, a phaladr o bren o goeden a syrthiodd yng Nghymru a stand wedi’i llunio o lechen o Gymru. Rhoddwyd geiriau o bregeth olaf Dewi Sant ar gefn y Groes yn Gymraeg: “Byddwch lawen. Cadwch y ffydd. Gwnewch y Pethau Bychain.”
I gael rhagor o wybodaeth am amseroedd gwylio a rhaglen lawn digwyddiadau Bangor 1500, ewch i wefan y Gadeirlan.
Cross of Wales to lead Bangor's 1500 year celebrations
The Cross of Wales, which played a central role in King Charles III's Coronation, is set to return to Welsh soil as Bangor, Wales' oldest city, launches a year of celebrations marking its 1500th anniversary.
The specially commissioned processional cross, containing a relic of the True Cross gifted to King Charles by Pope Francis, will be officially received at St Deiniol's Cathedral during a special bilingual Eucharist service on Sunday 1 December. Archbishop of Wales Andrew John will preside over the service, with Bishop of Llandaff Mary Stallard preaching. The Cross will be formally received on the Cathedral's behalf by Bishop of Bardsey David Morris and Canon Tracy Jones.
The Cross of Wales was presented as a centenary gift to the Church in Wales by King Charles and led the Coronation procession at Westminster Abbey on 6 May 2023. Since then, it has been in the care of the Goldsmiths' Company in London, who led the design and production process. The Cross was officially presented to the Archbishop of Wales, on behalf of the Church in Wales, by Professor Charles Mackworth-Young, Prime Warden of the Worshipful Company of Goldsmiths at a ceremony in London on 25 January.
Following its installation at Bangor Cathedral, the Cross will embark on a tour of Welsh cathedrals, ensuring people across Wales have the opportunity to view this significant piece of religious and cultural heritage. The Cross will be shared between the Anglican and Catholic Churches in Wales.
Bangor 1500
The service marks the beginning of a year-long celebration commemorating 1,500 years since Saint Deiniol founded a monastery – known as a clas – in 525AD in a secluded valley in North West Wales. This settlement would eventually grow to become the cathedral and city of Bangor.
The service will include a moment for reflection and unity as the city prepares for a year of celebration.
The Cathedral's anniversary programme includes several notable events throughout 2025, including:
- A live broadcast of BBC Radio 4's Sunday Worship.
- An historic reunion concert by Welsh language Christian rock band Yr Atgyfodiad.
- The launch of New Welsh Church Music CD recorded by Saint Deiniol’s Cathedral Choir.
- The installation of a new icon of Saint Deiniol.
The city's celebrations will continue with spectacular New Year's Eve fireworks display over Bangor's historic pier. Bangor City Council has also begun planting 18,000 daffodils - one for each month since the city's foundation in 525 AD - which will bloom in time for St David's Day. Local schoolchildren will also mark the occasion by burying time capsules beneath a commemorative tree later in 2025.
Bishop of Bardsey David Morris says, “This service marks the beginning of a momentous year for us. This will be an opportunity to give thanks for 1500 years of faith and witness, and to do so with the formal reception of the Cross of Wales is hugely significant.
“The fragment of the true cross contained within it is believed to have come from the cross on which Jesus Christ was crucified, nearly 500 years prior to St Deiniol’s ministry in North Wales, and it was the death of Jesus and his resurrection on which Deiniol’s faith rested and that motivated him to share the good news to his generation.
“We will be giving thanks for this inheritance of faith which has inspired countless generations and which gives the Cathedral its life today at the heart of the city of Bangor, standing as a beacon of light and hope to all.
Designed and made by master silversmith Michael Lloyd, in consultation with the Royal Collection, the Cross of Wales is crafted from recycled silver bullion, provided by the Royal Mint at Llantrisant, a shaft of Welsh windfall timber and a stand of Welsh slate. Words from the last sermon of St David are chased on the back of the Cross in Welsh: “Byddwch lawen. Cadwch y ffydd. Gwnewch y Pethau Bychain”, which translates as: “Be joyful. Keep the faith. Do the little things.”
For more information about viewing times and the full programme of Bangor 1500 events, visit the Cathedral's website.