Pregeth y Gwasanaeth Olaf
Cefais fy magu y tu allan i Aberystwyth mewn pentref bach ychydig uwchlaw Cwm Ystwyth. Wrth edrych o’m hystafell wely tua’r môr rhwng dau gaer fryn, roedd y gorwel yn creu machlud haul trawiadol iawn yn y gorllewin pell. Fel plentyn, edrychais yn hiraethus (roeddwn bob amser yn freuddwydiwr) tuag at y terfyn pell ac roeddwn yn gweld y man lle roedd y môr a’r awyr yn cyfarfod. Roeddwn wir yn meddwl mai dyna ddiwedd y byd ac yn hiraethu i fynd yno – antur! Wrth gwrs, rydym yn tyfu i fyny ac yn dod i ddeall bod rhywbeth y tu hwnt i’r gorwel, man a lle sydd y tu hwnt i’r llygad.
Mae ffydd Gristnogol yn dweud wrthym ein bod yn blant nid yn unig o’r llwch ond hefyd o’r nefoedd.
Nid yw’r gorwelion y mae ein bywydau’n eu cynnwys mor wahanol. Mae machlud a gwawrio, dechrau a diwedd. Yn ogystal mae’r crud a’r bedd. Ond mae ffydd Gristnogol yn dweud wrthym ein bod yn blant nid yn unig o’r llwch ond hefyd o’r nefoedd. Yn iaith Sant Paul, ein dinasyddiaeth yw’r uchod. Mae geiriau emyn Pasg mawr yn dweud y gwir:
Ehedwn yn awr lle arweiniodd Crist,
Gan ddilyn ein Pen sanctaidd, goruchaf ei ryst,
Fel ef, fe gyfodwn, yn ogoniant a’i fri,
Ein coron yw’r groes, y bedd a’r nef uwch i ni!
Ac mae’r safbwynt hwn ar fywyd yn un trawsnewidiol. Oherwydd ein bod yn credu ein bod yn perthyn i Grist, gwyddom na all dim ein gwahanu oddi wrth ei gariad. Ynddo Ef rydym yn byw, yn symud ac yn bod. Ac fel rhai sydd wedi’u bedyddio i Grist, rydym bellach yn cario marwolaeth Iesu gyda ni er mwyn i fywyd Iesu gael ei amlygu ynom ni hefyd. Dyma beth yw dilyn Iesu, ond y cwestiwn rwyf am i ni ei ystyried heno yw: sut ddylai’r bywyd hwn edrych?
Dylai olygu bod Cristnogion yn cael eu hadnabod yn gyntaf oll gan y llawenydd sydd gennym. Gwyddom fod Crist wedi agor pyrth y nefoedd ac wedi trechu grymoedd marwolaeth – ac mae hynny’n rhoi llawenydd parhaol inni. Ar y groes fe ddioddefodd Iesu dros ein pechodau fel na fyddem yn gorfod eu cario mwyach. Ar y groes, rhoddodd Crist inni fywyd Duw ei hun. Felly daw ein llawenydd oddi wrth Dduw ac fe’i cyhoeddwn yn rheolaidd ar y Sul: Bu farw Crist, Atgyfododd Crist, Daw Crist mewn gogoniant!
Ac mae hyn yn cynnig her i ni i gyd – efallai nawr yn fwy nag erioed. Rhaid inni wrthsefyll bod yn bryderus: gadael i bryder gymryd lle llawenydd fel nodwedd ddiffiniol bywyd Cristnogol. Pryder am ein niferoedd, ein hadeiladau, ein cyllid, beth all eraill ei ddweud am ein bywyd yn yr esgobaeth hon ac yn ein cadeirlan hefyd. Efallai y byddwn hefyd yn pryderu’n ormodol am y newidiadau sy’n angenrheidiol ac yn hanfodol os ydym i gael unrhyw barch ystyrlon yn y byd. Roedd eglwys a arferai ddibynnu ar ei henw heb angen goruchwyliaeth broffesiynol – mewn diogelu, AD ac mewn gweithrediadau systemau – fel y mae ei hangen arnom nawr. Gall hyn fod yn gyfnod pryderus os yw’r lefel o newid yn ymddangos yn feichus. Ond mae bod yn sylwgar i’r pethau hyn yr un mor hanfodol i’n disgyblaeth â dim arall, ac mae gweithio tuag at gyflwr o ras hefyd yn rhan hanfodol o’n tystiolaeth a’n bywyd.
Ond rhaid hefyd i ni beidio â chael ein llethu gan bryder ac anghofio’r berlen werthfawr. Ni ddylai pryder ein gwneud mor ddiogel fel na fyddwn byth yn mentro. Os byddwn yn cael ein parlysu gan yr ofn o wneud camgymeriadau, fe fyddwn yn ddi-gyffro ac yn ddi-ddylanwad. Nid galwad i fod yn eofn yw hyn, ond galwad i aros yn eglwys llawen, broffwydol : sy’n gwrthod anghyfiawnder ac yn dweud y gwir amdano,sy’n onest ynghylch ei diffygion ond sydd dal i gredu yng ngwyrth a nerth yr efengyl i achub a bendithio. Nid yw Duw yn ein harwain at bryder, ond at hyder llawen.
Ydym ni’n benderfynol o fod yn llawen? Bob amser wedi’n synnu gan yr efengyl a’r Crist sy’n ein harwain ymlaen?
Gwaith yr offeiriaid a’r lleygion ledled yr esgobaeth sy’n sicrhau bod eraill yn cael gofal. Rwy’n diolch i Dduw amdanoch i gyd.

Dylai’r bywyd hwn i’r Cristion hefyd olygu ymrwymiad i eraill mewn gwasanaeth cariadus. Rwyf am dalu teyrnged i nifer o bobl (BC, staff yr esgobaeth, fy Nhîm Swyddfa fy hun a’r Tîm Cenedlaethol hefyd). Ond yn enwedig, rwyf am ddiolch i bawb y mae eu ffydd yn eu harwain i ymgysylltu â’r rhai sy’n fregus ac mewn angen. Gwelir hyn mewn banciau bwyd ac elusennau ac mewn mentrau di-ri. Ond caiff ei weld yn bennaf yng ngofal beunyddiol yr AG. Gwaith yr offeiriaid a’r lleygion ledled yr esgobaeth sy’n sicrhau bod eraill yn cael gofal. Rwy’n diolch i Dduw amdanoch i gyd.
Yn ddiweddar, yng Nghanada, fe dreulion ni amser mewn dwy Gadeirlan sy’n rhoi’r tlodion yn ganolog: mae cryn dipyn o waith yn cael ei gyfeirio at y rhai y byddai pawb arall yn eu hanghofio.Ond byddai pawb sydd ynghlwm â hyn yn cadarnhau nad yw’n broses unffordd. Wrth efelychu Iesu Grist, gan wasanaethu a gofalu, maent yn dod yn fwy dynol, yn llai hunanol, yn fwy ymwybodol o’u dynoliaeth a’u diffygion eu hunain – yn fwy tosturiol. Mewn gwirionedd, dylai pob eglwys ymgorffori’r math hwn o fywyd. Y tu allan i Gadeirlan Hamilton fe welwch gerflun o Grist Croesawgar gan Timothy Schulz (efallai eich bod yn adnabod Crist Digartref gan yr un crefftwr). Mae’r ffigwr yn eistedd gyda’i dwylo ar agor, ei golwg yn pwyntio i’r un cyfeiriad â’i llaw. Ond nid ceisio rhodd y mae. Dyma gynnig bywyd sydd heb ffiniau a sydd mor hael â Duw nefoedd a daear.
Rwyf wedi meddwl ers tro am y cydbwysedd rhwng gweithredoedd gwasanaeth a geiriau gobaith. Rwy’n credu ei fod ychydig fel poen a llawenydd. Mewn gwirionedd, nid oes gwrthddweud. Mae arnom angen efengyl o weithredoedd sy’n rhyddhau a geiriau llawn gobaith. Rhaid i’r ddau gael eu selio ar hyder yng Nghrist.
Ydym ni’n cael ein hadnabod, yn y rhan hon o Gymru, fel pobl llawen, sydd a’n ffydd yn cael ei weld mewn gwasanaeth cariadus ac ymddiriedaeth yn yr efengyl bob dydd?
Ond gyda’n gilydd, addoliad yw’r weithred oruchaf sy’n ein gosod wrth draed Crist.
Rwyf am orffen drwy ddweud gair am ein haddoliad. Mae hyn hefyd wrth wraidd yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gristion. Mae addoli yn ymwneud â Duw. Dyma’r cynnig o eiriau, gweithredoedd a gobeithion – popeth a roddwn i Dduw. Wrth gwrs, yn y canu emynau ac wrth dorri’r bara, ie wrth gwrs, yn y llefydd distaw pan fyddwn ar ein pen ein hunain. Ond gyda’n gilydd, addoliad yw’r weithred oruchaf sy’n ein gosod wrth draed Crist. Dyma’n galwad gyntaf ar orau. Mae eglwys lle rhoddir digon o amser i aros, addoli a gwrando yn eglwys sy’n meithrin y gallu i garu’n ddiffuant ac yn ddwys. A dyna pam mai Mair syn ei chael hi’n iawn. Nid oherwydd nad oes gwaith i’w wneud (rhaid i ni gael Martha’s hefyd, on’d oes?), ond oherwydd bod cariad ac ymroddiad yn ffurfiannol yn bennaf. Pan fyddwn yn addoli Duw, nid yn unig ydym yn rhagweld rhagflas o’r nefoedd, ond rydym hefyd yn dechrau efelychu delwedd berffaith Iesu ei hun.
Bu’n fraint enfawr.
Beth bynnag a ddaw yn y dyfodol, fy ngweddi dros yr esgobaeth yw y bydd ein haddoliad o Dduw yn gyfoethog, yn ffyddlon ac yn angerddol. Felly fy nghyfeillion, diolch. Eto. Rwy’n ddiolchgar dros ben am eich holl waith ac am yr anrhydedd o fod wrth eich ochr am gyfnod. Bu’n fraint enfawr.
Dechreuais gyda’r gorwel a machlud haul. Oes yna unrhyw beth harddach yn y greadigaeth? Mae pob machlud nid yn unig yn nodi diwedd y dydd ond hefyd yn rhagflaenu dechreuad newydd – a bydd yn union felly i mi ac i’r esgobaeth. Ond bydd Duw yn ein harwain ac yn ein bendithio. Bydded i ni gyd-gerdded, a cherddwd yn dda oherwydd mae Duw yn dda bob amser. Bob amser, mae Duw yn dda.
Amen.
Y Cymun Bendigaid a Dathlu Gweinidogaeth
Final Service Sermon
I was brought up outside Aberystwyth in a small village just above the Ystwyth Valley. As you gazed from my bedroom towards the sea between two hillforts the horizon produced some stunning sunsets in the far west. As a child I looked longingly (always a dreamer) to the distant scene and could see the point at which sea and sky met. I thought that was the end of the world and longed to go there – an adventure! Of course we grow up and know there is something beyond the horizon, a point and place which lies beyond the seeing eye.
Christian faith tells us we are children not only of the dust but also of heaven.
The horizons within which we live our lives are not very different. There is sunrise and sunset, beginning and end. There is the cradle and the grave. But Christian faith tells us we are children not only of the dust but also of heaven. In the language of St Paul, our citizenship is above.
The words of a great Easter hymn get it right:
Soar we now where Christ has led,
Following our exalted Head,
Made like him, like him we rise,
Ours the cross, the grave, the skies!

And this perspective on life is transforming. Because we believe we belong to Christ, we know nothing can separate us from His love. In Him we live and move and have our being. And as those who have been baptized into Christ, we now carry around the death of Jesus so that the life of Jesus might also be made manifest in us. This is what it means to follow Jesus but the question I want us to ponder this evening is what should this life look like?
It should mean that Christians are known firstly by the joy we possess. We know that Christ has opened the gates of heaven and that the powers of death are defeated and this gives us lasting joy. On the cross Jesus bore our sins so that we should do so no longer. On the cross Christ gave us the very life of God. So our joy comes from God and we proclaim it every Sunday: Christ has died, Christ is Risen, Christ will come in glory!
And this brings a challenge for us all, perhaps now as never before. We must resist becoming anxious: allowing anxiety to displace joy as the defining characteristic of Christian life. Anxiety about our numbers, about our buildings, our finance, what others might say about our life in this diocese and our cathedral too. We might also become anxious, too anxious at the changes which are necessary and vital if we are to have any kind of credit out there in the world.
A church which once relied on its name didn’t need levels of professional oversight – in safeguarding, in HR and in systems operations which we now need. It can become an anxious time if the level of change seems onerous. But being attentive to these things belongs as much to our discipleship as anything else and working towards a state of grace also a critical part of our witness and life.
But we must also not become incapacitated by anxiety and to lose the pearl of great price. Anxiety must never make us so safe that we never venture. Paralyzed by fear of mistakes we will become anodyne. This is no call to recklessness but, rather, to remain a church that is joyfully prophetic: which hates injustice and names it, which is ruthlessly honest about shortcomings but which still believes in the wonder and power of the gospel to save and bless. God does not lead us to anxiety but to joyful confidence.
Are we determined to be joyful? Always astonished at the gospel and the Christ who leads us forward?
The work of clergy and laity, the diocese over, who make sure others are cared for. I thank God for you all.
And this life for the Christian should also mean a commitment to others in loving service. I want to pay tribute to a number of people (BC, Diocesan staff, my own Office Team and the National Team too). But especially I want to thank all those whose faith takes them into engaging with those who are vulnerable and in need. It’s seen in food banks and charities and countless other schemes. But it’s seen supremely in the day-to-day care exercised in MA’s. The work of clergy and laity, the diocese over, who make sure others are cared for. I thank God for you all.
In Canada recently we spent time in 2 Cathedrals both of whom prioritize the poor: a huge amount of work is directed to the ones whom everyone else would forget. But those involved would all say it isn’t one way traffic. As they model Jesus Christ, serving and caring, they become more human, less self-absorbed, more conscious of their own humanity and failings, more compassionate. In truth every church should embody this kind of life. Outside Hamilton Cathedral you will see a statue of the Welcoming Christ by Timothy Schulz (some of you might know the Homeless Christ by the same craftsman). The seated figure offers an open palm, her gaze directed in the same direction as her hand. But this is less a request for alms. It is the offer of life which has no limit and as generous as the God of heaven and earth.
I’ve long pondered the balance we seek to strike between acts of service and words of hope. I think it’s a bit like pain and joy. In reality there is no contradiction. We need a gospel of liberating deeds and hopeful words. Both must be underpinned by confidence in Christ.
Are we known, in this part of Wales, to be joyful and whose faith is seen in loving service and confidence in the gospel each day?
Worship is supremely the act which places us at the feet of Christ.
And I want to end by saying something about our worship. This too lies at the heart of what it means to be a Christian. Worship is to do with God. It is the offering of words, deeds and hopes all of which we give to God. Yes of course in the singing of hymns and breaking of bread, yes of course in the place of quiet when alone. But together worship is supremely the act which places us at the feet of Christ. This is our first and best calling. A church in which there is much waiting, much adoring, much listening is a church which builds capacity to love as no one else could.
And this is why Mary gets it right.
Not because there isn’t work to do (we really need Martha’s don’t we?) but because love and devotion are supremely formational. When we worship God we not only anticipate something of heaven but start to mirror the perfect image of Jesus himself.
It has been the greatest privilege.
Whatever else the future holds for us, my prayer for the diocese is that our worship of God will be rich, faithful and passionate. So my friends, thank you. And again. I am deeply grateful for all your work and for the honour of being at your side for a season. It has been the greatest privilege.
I began with horizons and sunsets. Is there anything more beautiful in creation? Each sunset marks not only the end of the day but heralds a new start and so it will be for me and for the diocese. But God will lead us and bless us. Let us walk closely, let us walk well for God is good all the time. All the time, God is good.
Amen.