Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Padrig
Mae Bro Padrig yn cynnwys y rhan helaeth o gornel ogleddol a ...Vicar and Ministry Area Leader of Bro Padrig
Bro Padrig is located in the stunning coastal scenery of North Anglesey.
Rydym yn chwilio am offeiriad i arwain a gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Padrig yn Esgobaeth Bangor. Mae Bro Padrig yn cynnwys y rhan helaeth o gornel ogleddol a gogledd-orllewinol Ynys Môn ac mae’n gwasanaethu pentrefi Cemaes a Llanfechell, Llanfaethlu a Llanfair-yng-Nghornwy, a phentrefannau cyfagos (poblogaeth o tua 3600, cyfrifiad 2021).
Rydym yn chwilio am rywun:
- sy’n ymrwymedig i weithio gyda’r Cyngor Ardal Weinidogaeth i gynllunio’n strategol ar gyfer y dyfodol o ran cenhadaeth, eiddo a chyllid.
- sy’n ymroddedig i gydweithio ac yn barod i ddirprwyo a rhannu cyfrifoldeb am ddatblygu cenhadaeth a gweinidogaeth, gan annog galwedigaeth unigol ac ar y cyd.
- sy’n gallu archwilio ymhellach gyda ni, gyda dychymyg a chreadigrwydd, yr arfer rydym wedi’i gyflwyno o ddefnydd ein hadeiladau’n hyblyg ar gyfer cenhadaeth a gweinidogaeth, gan archwilio mathau newydd o addoli ochr yn ochr â’r ffurfiau traddodiadol ar addoli rydym yn eu trysori.
- sy’n frwdfrydig ynghylch datblygu ein hymwneud â’r gymdeithas a’r gymuned a’n ffordd o ymgysylltu ag anghenion y byd a’r greadigaeth.
- sy’n barod i ymgysylltu’n ddwys â’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae’r swydd yn addas ar gyfer siaradwr Cymraeg neu ddysgwr Cymraeg – fel esgobaeth rydym yn gallu rhoi cefnogaeth i glerigwyr ddysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Proffil Ardal Weinidogaeth

Esgobaeth Bangor
Rydym yn gymuned Gristnogol fywiog gyda hanes cyfoethog sy'n dyddio'n ôl i'r bumed ganrif, wedi'i gwreiddio yn nhraddodiadau seintiau Celtaidd cynnar er enghraifft Deiniol, Cybi, Seiriol, Tudwen, Madryn, ac eraill. Mae'r seintiau hyn wedi’u hanfarwoli yn enwau ein heglwysi, ein pentrefi a'n trefi.
Er bod ein cenhadaeth yn parhau i fod yn gadarn dros fileniwm a hanner, mae ein cyd-destun cyfoes yn cyflwyno cyfleoedd newydd a heriol. Mewn ymateb, rydym wedi cofleidio gweledigaeth o ddilyn Iesu gyda brwdfrydedd o'r newydd a dulliau arloesol. Rydym wedi sefydlu tair egwyddor allweddol, tair blaenoriaeth, tri chynllun, a thri llwyfan newydd i arwain ein taith.
Darllenwch fwy am y rhain ar ein gwefan.
Mae ein hymrwymiad yn troi o amgylch tair egwyddor weledigaethol y credwn y dylent ddiffinio ein bywyd cymunedol:
- Addoli Duw.
- Tyfu'r Eglwys.
- Caru'r byd.
Rydym yn eich croesawu i ymuno â ni yn y genhadaeth drawsnewidiol hon, wrth i ni wneud ein ffordd trwy heriau ein hamser gyda ffydd, ymroddiad, ac ymrwymiad i addoli, twf a chariad.
Proses Ymgeisio
Anfonwch eich CV ynghyd â llythyr cais at Archddiacon John Harvey, johnharvey@churchinwales.org.uk
Dylai eich CV amlinellu eich cymwysterau addysgol a hyfforddiant, a'ch hanes cyflogaeth.
Yn eich llythyr cais dylech, mewn dim mwy na dwy ochr A4, ddisgrifio yr hyn yr sy’n eich denu at y swydd, a pherthnasu eich sgiliau a phrofiad i fanyleb y person. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad.
Am sgwrs anffurfiol am yr apwyntiad
Egob David Morris
07930 283833
davidmorris@churchinwales.org.uk
Archddiacon John Harvey
07534 549682
johnharvey@churchinwales.org.uk

We are looking for a priest to lead and serve in the Ministry Area of Bro Padrig in the Diocese of Bangor. Bro Padrig covers much of the north and north-western corner of Anglesey and serves the villages of Cemaes and Llanfechell, Llanfaethlu and Llanfair-yng-Nghornwy, and surrounding hamlets (population approximately 3600, 2021 census).
We are looking for someone who is:
- Committed to working with the Ministry Area Council to plan strategically for the future in relation to mission, property and finance.
- Dedicated to collaborative working, willing to delegate and to share responsibility for the development of mission and ministry, encouraging individual and collective vocation.
- Able, with imagination and creativity, to explore further with us the flexible use we’ve introduced of our buildings for mission and ministry and explore new forms of worship alongside the cherished forms of traditional worship.
- Enthusiastic in developing our social and community involvement and engage us with the needs of the world and creation.
- Willing to engage deeply with the Welsh language and culture. The post is suitable for a Welsh speaker or a Welsh learner - as a diocese we are able to provide support for clergy in learning and developing their Welsh language skills.
Bro Padrig Ministry Area Profile

Diocese of Bangor
We are a vibrant Christian community with a rich history dating back to the fifth century, rooted in the traditions of early Celtic saints such as Deiniol, Cybi, Seiriol, Tudwen, Madryn, and others. These saints are immortalised in the names of our churches, villages, and towns.
While our mission remains steadfast over a millennium and a half, our contemporary context presents new and challenging opportunities. In response, we have embraced a vision of following Jesus with renewed vigor and innovative approaches.
We have established three key principles, three priorities, three plans, and three new platforms to guide our journey.
Read more about these on our website.
Our commitment revolves around three visionary principles that we believe should define our communal life:
- Worshipping God.
- Growing the Church.
- Loving the world.
We welcome you to join us in this transformative mission, as we navigate the challenges of our time with faith, dedication, and a commitment to worship, growth, and love.
Application process
Pease send your CV together with a letter of application by email to Archdeacon John Harvey johnharvey@churchinwales.org.uk
Your CV should outline your educational and training qualifications and your employment history.
Your letter of application, taking up no more than two sides of A4, should describe what attracts you to the role and relate your skills and experience to the person specification.
Shortlisted applicants will be invited for interview.
More information and an informal chat
Bishop David Morris
07930 283833
davidmorris@churchinwales.org.uk
Archdeacon John Harvey
07534 549682
johnharvey@churchinwales.org.uk