minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Cynnig Cymraeg


Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol. 

Rydym wedi gweithio gyda Comisiynydd y Gymraeg i ddatblygu darpariaeth Gymraeg ein sefydliad. Mae bod yn rhan o’r cynllun a derbyn y Cynnig Cymraeg yn eithriadol o bwysig i ni. Mae defnyddio’r Gymraeg yn rhan anatod a naturiol o’n bywyd bob dydd. Mae’r cynllun wedi helpu i sicrhau fod pawb yn gallu cyfathrebu gyda ni ac addoli gyda ni yn eu dewis iaith.

Mae cwblhau’r Cynnig Cymraeg wedi rhoi hyder gwirioneddwol i ni wrth ddweud ein bod yma i wasanaethu holl drigolion yr Esgobaeth trwy gyfrwng y Gymraeg gan arddangos ein ymrwymiad ni yma ym Mangor tuag at yr iaith Gymraeg. 


Ein Cynnig Cymraeg

Rydym yn Esgobaeth Bangor yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth cyflawn dwyieithog ym mhob agwedd o waith yr Esgobaeth yn cynnwys darpariaeth i'r cyhoedd, addolwyr a staff.

  1. Mae ein hunaniaeth a delwedd Esgobaeth Bangor yn gwbl ddwyieithog. Bydd egwyddor o gydraddoldeb bob amser, gyda'r Gymraeg yn ymddangos uwchben neu o flaen y Saesneg.
  2. Rydym yn ceisio sicrhau bod pob neges yn cael ei roi’n ddwyieithog ac ar yr un pryd ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ogystal rydym yn ymrwmiedig i ddarparu gwefan cwbl ddwyieithog.
  3. Rydym yn ymdrechu i annog a chefnogi staff sy'n dymuno dysgu Cymraeg a chefnogi staff sy'n siarad Cymraeg sydd eisiau gwella eu sgiliau iaith bob amser.
  4. Rydym yn annog unigolion i deimlo’n yn gyfforddus i ddefnyddio eu dewis iaith ffydd wrth addoli.Rydym hefyd yn yr un modd yn annog unigolion i gysylltu â ni yn eu dewis iaith.
  5. Rydym yn rhoi cynnig rhagweithiol o’r Gymraeg i bawb drwy gychwyn sgyrsiau yn Gymraeg.
  6. Drwy groesawu gwesteion a staff o du hwnt i Gymru i Esgobaeth Bangor byddwn yn eu haddysgu ynglŷn â'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Cwrs newydd i helpu dysgwyr i brofi gwasanaethau eglwysig yn Gymraeg

Rydyn ni wedi lansio cwrs newydd sbon i helpu’r rhai sy’n dysgu Cymraeg i brofi gwasanaethau eglwysig drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod y cwrs blasu ar-lein, sy’n 10 awr o hyd, yw rhoi blas ar y Gymraeg i ddysgwr ar bob lefel. Mae rhan gyntaf y cwrs yn cyflwyno dysgwyr i ymadroddion sgyrsiol sylfaenol. Mae’r ail ran wedi’i theilwra’n gyfan gwbl tuag at yr eglwys a’r ffydd Gristnogol, ac mae’n helpu dysgwyr i adrodd Gweddi’r Arglwydd yn Gymraeg a deall cymundeb syml. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd dysgwyr yn deall ynganiadau ac ymadroddion Cymraeg yn well, a fydd yn eu helpu i gymryd rhan mewn gwasanaethau eglwysig yn Gymraeg.


Dechreuwch y cwrs

Duw a Dysgwyr

Mae gwasanaeth misol newydd i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg.

Gwasanaeth cymun yn Gymraeg yw Duw a Dysgwyr, ond gyda chymorth geirfa ac ynganu yn nhrefn y gwasanaeth. Yn dilyn y gwasanaeth bydd cyfle i ymarfer siarad Cymraeg dros ginio ysgafn gyda Menter Iaith Bangor.

Croeso i bawb, boed yn siaradwr iaith gyntaf rhugl neu’n ddechreuwr.

Am fwy wybodaeth, anfonwch ebost i Elin Owen, Galluogydd y Gymraeg.

Cymraeg

Welsh Offer


Cynnig Cymraeg (Welsh Offer) is the official recognition of the Welsh Language Commissioner and is given to organisations that have supported the Commissioner’s long-term plan to ensure people can use the Welsh language in all aspects of their lives, in all parts of Wales.

We have worked with the Welsh Language Commissioner to plan our Welsh language provision. Being part of the scheme is extremely important to us. 

Using Welsh is an integral and natural part of our everyday life. The plan ensures that everyone can communicate and worship with us in their chosen language.

The scheme has helped us to ensure that everyone can communicate and worship with us in the language of their choice.

Our Welsh Offer

We in the Diocese of Bangor are committed to providing a completely bilingual service in all aspects of the work of the Diocese, including provision for the public, worshipers and staff.

  1. Our identity and the image of the Bangor Diocese are completely bilingual. There will be a principle of equality at all times, with the Welsh appearing above or before the English.
  2. We strive to ensure that every message is given bilingually and at the same time on our social media accounts and we are also committed to providing a completely bilingual website.
  3. We always strive to encourage and support staff who wish to learn Welsh and support staff who speak Welsh and who want to improve their language skills.
  4. We encourage individuals to feel comfortable in using their chosen language when worshipping. Similarly, we encourage individuals to contact us in their chosen language.
  5. We give a proactive offer of Welsh to everyone by starting conversations in Welsh.
  6. When welcoming guests and staff from outside Wales to the Diocese of Bangor we will educate them about the language and culture of Wales. 

New course to help learners experience church services in Welsh

The Diocese of Bangor has launched a brand new course to help Welsh learners experience church services through the medium of Welsh

The 10-hour online taster course is designed to give learners of all levels a taste of the Welsh language. The first part of the course introduces learners to basic conversational phrases. The second part is tailored entirely toward church and the Christian faith and helps learners to say the Lord’s Prayer in Welsh and understand a simple communion service. After completing the course, learners will better understand Welsh pronunciation and phrases which will help them participate in Welsh language church services.


Start the course

Duw a Dysgwy

A new monthly service at Bangor Cathedral for Welsh learners.

Duw a Dysgwyr is a communion service in Welsh, but with vocabulary and pronunciation help in the order of service. The service will be followed by chance to practise speaking Welsh over a light lunch with Menter Iaith Bangor

All welcome, whether a fluent first language speaker or a beginner.

For more information contact Elin Owen, Welsh Language Enabler.