Debbie Peck
Yn un a anwyd ac a fagwyd ar fferm ger Llangurig, mae Debbie bellach yn byw ger Llanidloes. Astudiodd yn Lerpwl, a threuliodd 10 mlynedd fel actores a chyfarwyddwraig yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn Lerpwl, Swydd Derby a Llundain, cyn dychwelyd adre yn 2001. Bu’n freintiedig i gael gweithio gyda Theatr Powys, gan ymweld ag ysgolion ledled y sir gyda dramâu teithiol, ac yna fel cyfarwyddwraig CARAD. (Celfyddydau Cymunedol Rhaeadr a’r Cylch), gan wasanaethu’r gymuned wrth ddarparu cyfleoedd i bobl o bob oed ymwneud â’r celfyddydau.
Mae Debbie’n weithgar gyda Chyfeillion Ysgol Gynradd Llanidloes, clwb ar-ôl-ysgol Eglwys Sant Idloes ac, yn fwyaf diweddar, gyda Girl Guiding Cymru ym Mroneirion, Llandinam.
Ers mynychu cwrs Alffa yn 2006, mae hi wedi bod eisiau gwasanaethu’r Eglwys yn fwy gweithgar, a bu’n teithio i gapeli Canolbarth Cymru fel pregethwraig leyg.
Debbie Peck
Born and brought up on a farm near Llangurig, Debbie now lives near Llanidloes. She studied in Liverpool and spent 10 years as an actress and director working with children and young people in Liverpool, Derbyshire and London, before returning home in 2001. She was very privileged to work for Theatre Powys touring plays to schools throughout the county, and subsequently as a director of CARAD (Community Arts Rhayader and District), providing involvement in the arts for all ages in the local community.
Debbie enjoys helping the Friends of Llanidloes C.P. School, the St Idloes Church after-school club and, most recently, Girl Guiding Cymru at Broneirion, Llandinam.
Since attending an Alpha course in 2006 she has wanted to serve the Church more actively, and has been travelling as a lay preacher to chapels around Mid Wales.