Curad yn lansio llyfr newydd
Mae curad sy'n byw yn Aberdaron ac yn gweinidogaethu yn Ardal Gweinidogaeth Bro Enlli wedi lansio ei llyfr newydd.
Nos Lun (25.9.17) yn Eglwys Pedrog Sant, Llanbedrog, lansiodd y Parchedig Naomi Starkey ei llyfr diweddaraf, The Recovery of Joy: finding the path from rootlessness to returning home. Mae'n dilyn ymlaen o The Recovery of Love (2012) a The Recovery of Hope (2015).
Mae The Recovery of Joy yn mynd â'r darllenydd ar daith trwy pum pennod. Mae gan bob pennod elfen stori yn ogystal â myfyrdod ar y Salmau. Mae pob pennod yn cymryd y cymeriad dychmygol - crwydryn anhysbys - ar daith i ynys newydd, lle mae’n cael cyfle i sylweddoli pethau am ei fywyd a thyfu drwyddynt.
Ysgrifennwyd y llyfr yn rhannol ar Ynys Enlli, lle'r oedd Naomi yn aros am wythnos fel Caplan, a lle'r oedd hi'n ysgrifennu gyda phen a phapur, yn hytrach na defnyddio cyfrifiadur. Cyn ordeinio roedd Naomi yn olygydd comisiynu ar gyfer Cymrodoriaeth Darllen y Beibl, wrth byw yn Llanidloes cyn iddi ddod i Aberdaron.
Wrth sôn am ei llyfr newydd, dywedodd Naomi, "Yn ein bywydau, gallwn ni darganfod ein bod ni’n cario dipyn o lwyth - baich emosiynol - ac mae angen rhoi trefn ar hynny. Mae hyn yn digwydd, yn rhannol, trwy faddeuant. Nid yn unig trwy faddau eraill am yr hyn maen nhw wedi'i wneud i ni, ond trwy faddau ein hunain am yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud i eraill. Ac wrth i mi feddwl am hyn, dechreuais weld pwysigrwydd sylweddoli maint y baich yr ydym yn ei gario gyda ni, ei gydnabod ac yna dod o hyd i ffordd i osod y baich hwn i lawr. Ac yn ei adael yna ar y llawr! Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed sut mae darllenwyr yn ymateb i’r llyfr hwn ac a ydynt yn ei hoffi ai peidio!"
Dywedodd Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, "Roedd yn fraint i mi fod un o ddarllenwyr prawf Naomi ar gyfer y llyfr ardderchog hwn. Fel Cristnogion yr ydym yn cael ein galw i fod yn bobl sy'n llawn llawenydd Duw, ond yn aml iawn na fyddwn yn teimlo'n llawen ar adegau yn ein bywydau ein hunain. Mae stori Naomi a’i myfyrdodau ar y Salmau yn mapio taith sy'n dangos sut y gellir adfer a mwynhau'r llawenydd yn ein bywydau, hyd yn oed pan fyddwn ni'n dechrau o’r gwaelod isaf. Cymeradwyaf y llyfr hwn a gobeithio y bydd llawer o bobl yn dwyn nerth ohono.”
Cyhoeddir The Recovery of Joy: finding the path from rootlessness to returning home, awdures Naomi Starkey gan Gymrodoriaeth Darllen y Beibl : https://www.brfonline.org.uk/9780857465184/
Curate launches new book
A curate who lives in Aberdaron and ministers in the Bro Enlli Ministry Area has launched a her new book.
On Monday night (25.9.17) at St. Pedrog’s Church, Llanbedrog, The Rev’d Naomi Starkey launched her latest book, The Recovery of Joy: finding the path from rootlessness to returning home. It follows on from The Recovery of Love (2012) and The Recovery of Hope (2015).
The Recovery of Joy takes the reader on a journey through five chapters. Each chapter has a story element as well as a reflection on a Psalm. Each chapter takes the imaginary character - an anonymous wanderer on a journey - to an new island, where they have the opportunity to realise things about their life and grow through them.
The book was partly written on Bardsey Island, where Naomi stayed for a week as a Chaplain, and where she wrote with pen and paper, rather than using a computer. Prior to her ordination Naomi was a commissioning editor for the Bible Reading Fellowship, whilst living in Llanidloes before coming to Aberdaron.
Commenting on her new book, Naomi said, “In our lives we can end up carrying quite a load – an emotional burden - that needs sorting out. This happens, in part, through forgiveness. Not just forgiving others for what they’ve done to us but forgiving ourselves for what we’ve done to others. And as I thought about this, I began to see the importance of recognising the burden we are carrying around with us, acknowledging it and then finding a way of setting the burdens down. And leaving them put down! I’m looking forward very much to hearing what readers make of this book and whether they like it or not!”
The Bishop of Bangor, the Right Rev’d Andy John - said, “It was a privilege for me to be one of Naomi’s proofreaders for this excellent book. As Christians we are called to be people who radiate God’s joy, yet very often we may not feel particularly joyful at times in our own lives. Naomi’s story and reflections on the Psalms map a journey which shows how how joy can be recovered and restored in our lives, even when we’re starting from rock bottom. I commend this book and hope that many people will draw strength from it.”
The Recovery of Joy: finding the path from rootlessness to returning home, author Naomi Starkey is published by the Bible Reading Fellowship : https://www.brfonline.org.uk/9780857465184/