minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Symud tua’r Gogledd – penodiad newydd i Fro Moelwyn

Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Roland Barnes fel Arweinydd newydd Ardal Weinidogaeth Bro Moelwyn, sy’n gwasanaethu’r cymunedau o amgylch Blaenau Ffestiniog, Penrhyndeudraeth a Thrawsfynydd.

Roland ar hyn o bryd ydy Cyd-arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy, yn gwasanaethu’r cymunedau yng nghyffiniau Mallwyd, Machynlleth, a Llanbrynmair. Mae’n briod â Julie a chanddyn nhw ddau o feibion hŷn, Ben a Peter.

Wedi’i eni a’i fagu yng nghylch Y Bala, symudodd Roland i Lanymawddwy gyda’i deulu i ffermio ym 1980. Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig gydag Esgobaeth Bangor, a bu’n gweinidogaethu ei gymuned leol ers ei ordeinio yn 2003.

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Roland, ‘Cefais sioc pan ofynnwyd imi ystyried y rôl newydd hon ym Mro Moelwyn. Dwi wedi bod yn rhan o’r gymuned ym Mro Cyfeiliog a Mawddwy am dros 37 o flynyddoedd.

Fe fydd symud yn rhwyg mawr imi; gadael cymaint o ffrindiau, y rhai hynny y bues i’n rhannu holl droeon bywyd dros gyfnod o hanner oes; gwylio’n plant yn tyfu a phrifio, cyd-gerdded â phobl trwy fywyd pob dydd a bod yn bresennol i weinyddu’r gymwynas olaf i sawl ffrind a chydweithiwr y deuthum i dyfu mewn parch a chariad tuag atyn nhw.

Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfeillgarwch a’u cefnogaeth, a’m dymuniad ydy y gwnewch chi gynnig yr un fath i’r arweinydd Ardal Weinidogaeth a ddaw i gymryd yr awenau oddi wrth Canon Kath Rogers a finnau yn y Flwyddyn Newydd.

Fodd bynnag, wrth imi weddïo a myfyrio ar y rôl newydd hon, dwi’n grediniol y bydd hi’n gyfle ardderchog i mi ac i bobl ffyddlon Bro Moelwyn i dyfu gyda’n gilydd yn ein ffydd a’n gwasanaeth i’n Harglwydd. Dwi’n edrych ymlaen at y fraint hon.

Mae newid yn gallu bod yn broses boenus, ond yn aml yn beth da, pa fo’r amser yn iawn. Mae profiad yn ein dysgu bod hyn yn rhan o’r broses o dyfu ac aeddfedu. Gobeithiaf mai dyna fydd ein profiad ninnau yma, ac y cawn barhau i dyfu mewn ffydd a dealltwriaeth. Bendith Duw arnon ni i gyd.’

Meddai Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John, ‘Bu Roland yn fugail ffyddlon i’w gymuned leol ers sawl blwyddyn. Rhoddwn ddiolch i Dduw am bopeth a gyflawnodd Roland a diolch i Roland am ei weinidogaeth ym Mro Cyfeiliog a Mawddwy. Bellach mae ganddo’r cyfle i ddefnyddio’i ddoniau mewn cymunedau newydd, i arwain a thyfu Corff Crist ym Mro Moelwyn.

Gweddïwch dros Roland a’i deulu, yn ogystal â thros bobl a chymunedau Bro Moelwyn, ynghyd â Bro Cyfeiliog a Mawddwy.’

Mae disgwyl i Roland ddechrau ar ei weinidogaeth newydd ym Mro Moelwyn gyda gwasanaeth arbennig ym mis Chwefror.

Cymraeg

Moving North - new appointment to Bro Moelwyn

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is pleased to announce the appointment of the Reverend Roland Barnes as the new Ministry Area Leader for the Bro Moelwyn Ministry Area, which serves the communities around Blaenau Ffestiniog, Penrhyndeudraeth and Trawsfynydd.

Roland is currently serving the Bro Cyfeiliog and Mawddwy Ministry Area, which comprises communities around Mallwyd, Machynlleth, and Llanbrynmair. He is married to Julie and they have two grown up sons, Ben and Peter.

Born and brought up around Bala, Roland moved to Llanymawddwy with his family to farm in 1980. He trained for ordained ministry with the Diocese of Bangor, and has ministered in his local community since his ordination in 2003.

Looking forward to his new role, Roland said, ‘I was shocked when I was asked to consider this new role in Bro Moelwyn. I have been part of the community in Bro Cyfeiliog and Mawddwy for over 37 years.

Moving will be a great wrench; leaving so many good friends, with whom we've shared all the ups and downs of life for over half a lifetime. Watching our children grow to maturity, walking with people through life and presiding over the last rights of friends and colleagues we've grown to respect and love.

I thank everyone for their friendship and support, and would ask that you offer the same to the Ministry Area leader who takes over from Canon Kath Rogers and myself in the new Year.

However, as I have prayed and thought about this new role, I believe that it will be an excellent opportunity for me and the faithful people of Bro Moelwyn to grow together in our faith and service to our Lord. I am looking forward to this privilege.

Change is painful, but is often a good thing, when the time is right. Experience tells us that it is part of the process of growing and maturing. I hope that will be the case for all of us, and we can continue to grow in faith and understanding. May God's blessing be upon us all.’

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said, ‘Roland has been a faithful shepherd to his local communities for many years. I give thanks to God for all that Roland has accomplished, and thank Roland for his ministry in Bro Cyfeiliog and Mawddwy. Now he has the opportunity to use his gifts in new communities, to lead and grow the Body of Christ in Bro Moelwyn.

Please do pray for Roland and his family, as well as for the people and communities of Bro Moelwyn and Bro Cyfeiliog and Mawddwy.’

It is expected that Roland will begin his new ministry in Bro Moelwyn with a special service in February.