minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube

Holi ac Ateb / Esgob Míth a Chil Dara, Pat Storey

Yn 2015, fe lansiodd Esgobaeth Bangor ac Esgobaethau Unedig Míth a Chil Dara (Meath & Kildare) yn Eglwys Iwerddon ddolen bartneriaeth.

Yr wythnos hon, bydd clerigion y ddwy esgobaeth yn ymuno â’i gilydd am gynhadledd ddeuddydd yn Llandudno. Cyn cyrhaeddiad ein hymwelwyr o’r Iwerddon, fe ofynnon ni i Esgob Míth a Chil Dara , y Parchedicaf Pat Storey, ychydig o gwestiynau ynglŷn â’i hesgobaeth a’r cyswllt rhwng esgobaethau yn yr Iwerddon a Chymru.


Esgob Pat, fedrwch chi ddweud wrthon ni am eich Esgobaeth yn Míth a Chil Dara?

Mae Esgobaeth Míth a Chil Dara wedi’i lleoli o amgylch Canolbarth Gweriniaeth Iwerddon , gan grwydro i mewn ac allan o sawl talaith, o Dún an Ri (Kingscourt) yn y gogledd, i Baile Átha Luain (Athlone) yn y gorllewin, a Móinteach Mílic (Mountmellick) yn y de.

Ceir dau ar bymtheg o blwyfi ac ysgol uwchradd brysur Eglwys Iwerddon, gydag oddeutu 25 o glerigwyr sydd un ai’n gweinidogaethu’n llawn amser neu’n anghyflogedig. Gan ei bod yn ardal eang yn ddaearyddol a chyn lleied o glerigwyr llawn amser, rydyn ni’n dibynnu’n helaeth iawn ar griw ffyddlon iawn o ddarllenwyr esgobaethol a chlerigwyr wedi ymddeol.

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, datgelwyd o fysg esgobaethau’r Eglwys Iwerddon, bod oddeutu 15% o’r rhai a oedd yn honni bod yn Eglwys Iwerddon yn mynychu’n rheolaidd - felly mae llawer o waith i’w wneud?! Mae gan y rhan fwyaf o’r plwyfi yn yr esgobaeth ysgol gynradd Eglwys Iwerddon ynghlwm â’r plwyf.


Unwyd Esgobaethau an Míth a Chil Dara ym 1976. Ydy hynny’n golygu bod yr Esgobaeth bellach yn gweithredu fel un esgobaeth, neu a oes gwahaniaethau’n parhau o fewn eich Esgobaeth?

Unwyd Esgobaeth Míth a Chil Dara ym 1976, ac mae bellach yn uniad clos iawn, er iddi gymryd amser i’r cymathu ddigwydd ar y pryd. Yn y trafodaethau ynglŷn â newid ffiniau esgobaethau yn y Synod Cyffredinol, roedd Míth a Chil Dara yn bendant iawn eu bod am aros gyda’i gilydd a pheidio â chael eu gwahanu, wedi gweithio mor gale di berthyn i’w gilydd. Ceir dwy gadeirlan – yn nhref Cill Dara ac yn Baile Átha Troim (Trim) – ac mae’r esgobaeth bellach yn gweithredu i raddau helaeth fel un uned.

Mae’r teitl ‘Y Parchedicaf’ yn deillio o’r hen ddyddiau’r Uchel Frenhinoedd yn Iwerddon. Y gred ydy, oherwydd ei daearyddiaeth heb fod yn bell o Ard Mhacha (Armagh) a Dulyn, y dynodwyd an Mhi y drydedd esgobaeth bwysicaf yn Iwerddon a rhoddwyd y teitl ‘Y Parchedicaf’ i’r esgob gan un o uchel frenhinoedd Iwerddon.


Beth ydy agweddau positif bywyd yn eich Esgobaeth, y byddwch yn diolch i Dduw amdanyn nhw?

Mae Míth a Chil Dara yn esgobaeth hapus iawn, ac rydyn ni i gyd yn ddiolchgar iawn am hynny. Oherwydd y ffaith nad oes llawer ohonon ni, does dim lle nac yn wir chwant am raniadau neu ymladd mewnol ymysg ein gilydd. Mae hynny’n beth cadarnhaol iawn.

Rydyn ni’n byw mewn rhan brydferth o ynys Iwerddon. Mae pobl yn gynnes, agored, ac yn ddiolchgar am eu clerigwyr. Maen nhw’n gwerthfawrogi ac yn ceisio arweiniad ysbrydol. Mae’r esgobaeth wedi treulio ychydig o flynyddoedd erbyn hyn yn sefydlu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ynghyd â rhai blaenoriaethau, er mwyn gwreiddio’r weledigaeth honno’n gadarn yn y tir.

Ein gweledigaeth ydy ‘gyda’n gilydd yng nghariad Duw, yn trawsnewid bywydau’.

Ein tair blaenoriaeth ydy: bod yn ddisgyblion; darpariaeth gweinidogaeth i’r dyfodol, a phrosiect cyfiawnder cymdeithasol esgobaethol.

Hyd yn hyn rydyn ni wedi cynnal Cwrs Pererinion (bod yn ddisgybl), prosiect llwyddiannus iawn yn ymwneud ag atal y gwahanglwyf (cyfiawnder cymdeithasol), ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ddarpariaeth y weinidogaeth i’r dyfodol (gan edrych ar weinidogaeth leol ordeiniedig), ac rydyn ni’n cynnal adolygiad llawn o’r esgobaeth yn 2018.


Mae pawb yn wynebu heriau! Beth ydy’r prif heriau i’ch Esgobaeth ar hyn o bryd?

Dydyn ni ddim gwahanol i unrhyw le arall - dydy’n niferoedd ni ddim mor gryf ag yr hoffen ni’u gweld ac mae’r Iwerddon yn mynd yn fwyfwy secwlar. Rydyn ni’n cynrychioli 3% yn unig o boblogaeth y Weriniaeth, ac mae hynny ynddo’i hun yn cyflwyno heriau. Sut fedrwch chi gynnal a chadw eich hunaniaeth, yn enwedig pan fo’r cenedlaethau iau mewn ‘priodasau cymysg’ neu wedi ymwrthod â hunaniaeth Gristnogol yn gyfangwbl?

Mae’n debygol bod ein prif heriau’n cael eu rhannu o amgylch esgobaethau deheuol gwledig Eglwys Iwerddon: secwlariaeth gynyddol; cynnal a chadw’r genhedlaeth nesaf; litwrgi ac addoliad creadigol; calon dros estyn allan ac efengylu; ceisio ymwrthod â dim mwy na rheoli dirywiad.

Ers lansio’r ddolen gyswllt rhwng ein Hesgobaethau yn 2015, bu tîm o Fangor yn ymweld ag Míth a Chil Dara, a chafwyd penwythnos ieuenctid ar y cyd yng Nghaergybi eleni, ymysg pethau eraill. Beth ydy eich gobeithio am y cyswllt yma rhwng ein Hesgobaethau?

Y gobaith ydy y gwnawn ni ddysgu oddi wrth ein gilydd ac annog ein gilydd, a bod gynnon ni, hyd yn oed, rhywbeth hefyd i’w gynnig! Mae perthynas neilltuol yn datblygu pan fo dwy esgobaeth yn treulio amser yn dod i nabod ei gilydd, rhannu rhai pethau sy’n gyffredin a hefyd dysgu sut y gallen ni ddelio’n wahanol â’r llawenydd a’n tristwch sy’n dod i’n rhan.

Mae’r amser a dreulir ynghyd yn bwysig, er bod llyn go sylweddol rhyngddon ni, ond fy ngobaith ydy bod modd inni ddod at ein gilydd o leiaf unwaith neu ddwy'r flwyddyn i gael rhannu ein bywydau a’n gweinidogaethau â’n gilydd fel y medrwn ni, naill ochr i’r Môr Celtaidd, dyfu’n well pobl a gweinidogion mwy ffyddlon o’r Efengyl.


A oes gynnoch chi hoff gân addoliad neu emyn?

Dwi wrth fy modd gyda chân Matt Redman, ’10,000 Achos’, yn syml oherwydd mod i’n berson diolchgar. Dwi’n teimlo imi gael fy mendithio’n fawr ac ar y dyddiau gorau, fe alla i gael hyd i 10,000 achos neu reswm i deimlo fy mod yn wirioneddol ffodus.

Fy hoff emyn traddodiadol ydy O the deep, deep love of Jesus’. Mae’r geiriau yn anhygoel – doed dim angen dweud mwy!


Ac yn olaf, Esgob Pat, tybed a hoffech chi rannu adnod neu ddarn o’r Beibl gyda ni, efallai rhywbeth rydych chi’n myfyrio arno ar hyn o bryd?

Mae Eseia 50.4 bob amser wedi bod yn adnod sydd wedi aros gyda mi ac sy’n fy herio:

‘Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD, dafod i mi siarad ar ei ran; dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig.’

Dyna ichi her sy’n cael ei osod inni! Nid doniau inni ddefnyddio i’n defnydd ein hunain a gawson ni, ond i sicrhau bod bywydau eraill yn well o fod wedi bod yn ein cwmni. Mae hynny yn ymdrech barhaus gen i yn fy mywyd a’m gweinidogaeth fy hun. Ambell ddiwrnod, fe fydda i’n teimlo mod i’n ennill y frwydr honno, a dyddiau eraill... dwi’n sylweddoli pa mor feidrol ydw i!

Diolch o galon, Esgob Pat.

Welsh

Question & Answer / Bishop of Meath & Kildare, Pat Storey

In 2015 the Diocese of Bangor and the United Dioceses of Meath and Kildare in the Church of Ireland launched a partnership link.

This week the clergy of the two dioceses are joining together for a 2-day conference in Llandudno. In advance of the arrival of our visitors from Ireland, we asked the Bishop of Meath and Kildare, the Most Rev’d Pat Storey, a few questions about her diocese and the link between dioceses in Ireland and Wales.


Bishop Pat, can you tell us about your Diocese of Meath and Kildare?

The Diocese of Meath and Kildare is based around the Midlands of the Republic of Ireland and meanders into several counties, from Kingscourt in the north, to Athlone in the West, and Mountmellick in the south.

There are seventeen parishes and a busy Church of Ireland secondary school, with around 25 clergy who are in full time or non stipendiary ministry. As it is a wide geographical area and few in the number of full time clergy, we are heavily reliant on a very faithful band of diocesan readers and retired clergy.

The recent census revealed that around the dioceses of the Church of Ireland, around 15% of those claiming to be Church of Ireland, attend church regularly – so there is much work to do! Most parishes in the diocese have a Church of Ireland primary school attached to the parish.


The Diocese of Meath and the Diocese of Kildare were united in 1976. Does this mean that the Diocese is now effectively one diocese, or are there still differences within your Diocese?

The Diocese of Meath and Kildare was united in 1976, and is a very tight union now, even though it took time for assimilation at the time. In discussions around changing borders of dioceses at General Synod, Meath and Kildare was very firm on wanting to stay together and not be split up, having worked so hard to belong to each other. There are two cathedrals – in Kildare town and in Trim – and the diocese now very much operates as one entity.

The Bishop's title ‘Most Reverend’ comes from the ancient times in Ireland of the High Kings. It is thought that because of its geography near Armagh and Dublin, Meath was designated the third most important diocese and the bishop was given the title ‘Most Reverend’ by one of the high kings of Ireland.


What are the positive aspects of life in your Diocese, for which you give thanks to God?

Meath and Kildare is a very happy diocese, and we are all very grateful for that. Due to the fact that there are not that many of us, there is not space or indeed appetite for factions or for fighting amongst ourselves. That is a huge positive.

We live in a beautiful part of the island if Ireland. People are warm, open, and grateful for their clergy. They appreciate and look for spiritual leadership. The diocese has spent a few years now establishing a vision into the future, and some priorities, in order to place that vision firmly rooted in the ground.

Our vision is ‘together in God’s love, transforming lives’.

Our three priorities are: discipleship; the provision of ministry into the future, and a diocesan social justice project.

So far we have run a Pilgrim Course (discipleship), a very successful project around the prevention of leprosy (social justice), and we are working presently at the provision of ministry into the future (looking at ordained local ministry), and we are holding a full diocesan review in 2018.


We all have challenges! What are the main challenges for your Diocese at present?

We are just like everywhere else – our numbers are not as strong as we would like and Ireland is becoming more secular. We are 3% of the general population in the Republic, and that brings challenges of its own. How do you maintain your identity, especially when younger generations are in ‘mixed marriages’ or are not continuing a Christian identity at all?

Our principal challenges are likely to be shared around the rural southern dioceses of the Church of Ireland: rising secularism; maintaining the next generation; creative liturgy and worship; a heart for outreach and evangelism; resisting simply managing decline.


Since the link between our Dioceses was launched in 2015, a team from Bangor has visited Meath and Kildare, and there was a joint youth weekend in Holyhead this year, amongst other things. What are your hopes for the link between our Dioceses?

We hope that we will learn from one another and encourage one another, and that we might even have something to offer too! There is a special relationship when two dioceses spend time getting to know one another, sharing some things in common and also learning how differently we could approach our joys and sorrows.

Time spent together is important, even though there is a body of water between us, but I hope that at least once or twice each year we can meet up and share our lives and ministries with each other so that on each side of the Irish Channel, we can be becoming better people and more faithful ministers of the gospel.

Do you have a favourite worship song or hymn?

I love Matt Redman’s ’10,000 Reasons’, simply because I am a very thankful person. I feel that I have been really richly blessed and I can find, on my good days, 10,000 reasons to feel that I am very fortunate indeed.

My favourite traditional hymn is ‘O the deep, deep love of Jesus’. The words are amazing and it speaks for itself!


And finally Bishop Pat, could you share a Bible verse or passage with us, which you are reflecting on at present?

Isaiah 50.4 has always been a verse that I hold on to and that challenges me:

The Lord God has given me the tongue of a teacher, that I may know how to sustain the weary with a word.’

What a challenge that presents! We are not given gifts to use for ourselves, but to make sure that the lives of others are better for having been with us. That is an ongoing endeavour in my own life and ministry. Some days I feel like I am winning, and other days ….. I feel very human!

Thank you, Bishop Pat.