Penodiad newydd i Fro Ystumanner
O Dartmoor i Dysynni: Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd i Fro Ystumanner
Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – yn falch o allu cyhoeddi penodiad y Parch Ddr Ruth Hansford fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner, sy’n gwasanaethu’r cymunedau yng nghylch Tywyn, Aberdyfi a Llanegryn yn Ne Meirionnydd.
Ar hyn o bryd mae Ruth yn Ficer Tîm i Hatherleigh, Meeth, Exbourne, Jacobstowe a Northlew yn Nhîm Gweinidogaeth Northmoor yn Esgobaeth Caerwysg.
Fe’i ganed yn Thailand, lle'r oedd ei rhieni’n genhadon. Profodd Ruth amrywiaeth fawr o ran eglwys, cymuned, diwylliant ac iaith yn ystod ei bywyd. Yn dilyn gyrfa fel Biocemegydd Clinigol yn y GIG, roedd ei hordeiniad yn 20013 yng Nghadeirlan Caerwysg wedi caniatáu iddi gyflawni ei llawn dymuniad i weithio mewn cymunedau gwledig ac i rannu gyda phobl y neges fod Duw yn eu caru.
Wedi 14 o flynyddoedd yn Esgobaeth Caerwysg yn Eglwys Lloegr, mae Ruth a’i theulu yn edrych ymlaen at weithio gydag eglwysi Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner a rhannu’r un neges. Bydd hefyd yn gyfle i ddarganfod treftadaeth Gymreig ei theulu. Ganwyd nain ei gŵr, Paul, ym Mae Colwyn, ac mae eu plant, Brendan a Krysty (y ddau o oedran ysgol gynradd), yn barod am yr her o geisio bod am y cyntaf gyda’u rhieni i ddysgu Cymraeg. Dechreuodd Ruth ryw ddwy flynedd yn ôl, ond dydy hi ddim wedi gwneud camau mawr, eto ... !
Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Ruth, ‘Dwi’n gyffrous iawn ynglŷn â derbyn y swydd yma. Dyma ydy canlyniad ymateb o’r diwedd i holl awgrymiadau Duw imi ystyried gweinidogaeth gyda’r Eglwys yng Nghymru. Mae hi hefyd yn rhodd annisgwyl, gan ei fod yn cyflawni dymuniad personol i fyw rhwng môr a mynydd!’
Meddai Esgob Caerwysg, y Gwir Barchedig Robert Atwell, ‘Mae Ruth wedi mwynhau cefnogaeth ei phlwyfolion ac wedi dod â sefydlogrwydd a gofal bugeiliol cadarn i fywoliaeth a oedd mewn angen tynerwch a gofal pan ymgymerodd â’r swydd ddeng mlynedd yn ôl. Mae hi’n adnabyddus iawn ac yn uchel ei pharch o fewn y gymuned a bu’n gyfrifol am godi proffil yr eglwys o fewn yr ysgolion lleol ac ymysg teuluoedd. Mae Ruth yn gosod safonau uchel i’w gweinidogaeth bersonol, sy’n cael ei fynegi trwy ei dull tyner er cadarn o arweinyddiaeth. Fe fydd hi’n chwith ei cholli ond mae’n dod â chymeradwyaeth wresog i’w swydd newydd.’
Yn ôl Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John, ‘Fe fydd hi’n bleser mawr cael croesawu Ruth, Paul, Brendan a Krysty i Esgobaeth Bangor. Mae Duw wedi arwain Ruth yma aton ni ac edrychaf ymlaen at weld Bro Ystumanner a’i Thîm Gweinidogaeth yn datblygu a thyfu o dan ei harweiniad. Dwi’n sicr y gwnaiff Duw fendithio ei gweinidogaeth yn helaeth. Gweddïwch dros Ruth, ei theulu, pobl Bro Ystumanner a Thîm Gweinidogaeth Northmoor.’
Y disgwyl ydy y bydd Ruth a’i theulu’n symud i Fro Ystumanner yn y Gwanwyn, pan gynhelir gwasanaeth arbennig i ddathlu dechrau ei gweinidogaeth yno.
New Appointment to Ystumanner
From Dartmoor to Dysynni : new Vicar and Ministry Area Leader for Bro Ystumanner
The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is pleased to announce the appointment of the Reverend Dr Ruth Hansford as Ministry Area Leader in the Bro Ystumanner Ministry Area, which serves the communities around Tywyn, Aberdyfi and Llanegryn in south Meirionnydd.
Ruth is presently the Team Vicar of Hatherleigh, Meeth, Exbourne, Jacobstowe and Northlew in the Northmoor Team Ministry in the Diocese of Exeter
Born in Thailand, where her parents were missionaries, Ruth has experienced great diversity in church, community, culture, and language during her life. Following a career as a Clinical Biochemist in the NHS, her ordination in 2003 at Exeter Cathedral has allowed her to fulfill her desire to work in rural communities and to share with people the message that God loves them.
After 14 years in the Diocese of Exeter in the Church of England, Ruth and her family are looking forward to working with the churches in the Bro Ystumanner Ministry Area and sharing the same message. It will also be an opportunity to explore her family’s Welsh heritage. Her husband Paul’s grandmother was born in Colwyn Bay, and their children, Brendan and Krysty (both in primary school), are up for the challenge of beating their parents in learning Welsh. Ruth started a couple of years ago, but has not got very far, yet …. !
Looking forward to her new role, Ruth said, ‘I am really excited about taking up this post. It is the culmination of responding to God’s nudges to consider ministry in the Church in Wales. It is also an unexpected gift, as it fulfils a personal desire to live between the mountains and the sea!’
The Bishop of Exeter, the Right Reverend Robert Atwell, said, ‘Ruth has enjoyed the support of her parishioners and has brought stability and sound pastoral care to a benefice that needed some kindness and care when she took it on ten years ago. She is well-known and well-regarded in the community and raised the church’s profile in local schools and among families. Ruth has high standards for her own ministry which is expressed in her gentle but firm leadership style. Though we are sorry to be losing her we commend her warmly to her new role.’
The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said, ‘It will be a great pleasure to welcome Ruth, Paul, Brendan and Krysty to the Diocese of Bangor. God has brought Ruth to us and I am looking forward to seeing Bro Ystumanner and it’s Ministry Team develop and grow under her leadership. I am sure that God will bless her ministry greatly. Please do pray for Ruth, her family, the people of Bro Ystumanner and Northmoor Team Ministry.’
It is expected that Ruth and her family will move to Bro Ystumanner in the Spring, when a special service will be held to celebrate the start of her new ministry there.