minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Negeseuon Nadolig Esgob Andy

Mae Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andrew John - yn falch i ryddhau ei negeseuon Nadolig.

Mae ei neges ysgrifenedig (isod) yn dwyn y penawd #hysbysgorau ac yn cyfeirio at ddau hysbyseb Nadolig poblogaidd a'r mannau annisgwyl lle canfyddir Duw.

Mae ei neges fideo Nadolig (a drafodir yn Saesneg), a saethwyd yng Nghaernarfon a Bangor, yn cynnwys ffocws ar rôl banciau bwyd yn ystod tymor y Nadolig.

Mae 'na groeso i chi rannu a defnyddio'r negeseuon hyn.




#hysbysgorau

Bellach mae hi’n mynd yn dipyn o gystadleuaeth i ennill anrhydedd ‘hysbyseb gorau’ y Nadolig.

Unwaith eto, John Lewis oedd ar flaen y gad gyda #MozTheMonster , gan gyflwyno’r frawddeg ‘Am roddion sy’n goleuo’u byd’ i bwysleisio’u neges. Faswn i’n herio unrhyw un i’w wylio heb wenu.

Fodd bynnag, i mi, yr enillydd heb os ydy busnes bach mewn tref yng nghanolbarth Cymru: Hafod Hardware o Raeadr Gwy, Powys, gyda’u hysbyseb ‘Rhannu hud y Nadolig hwn’. Mae’r fideo yn dilyn ymdrechion gŵr ifanc ar ei feic modur i ddosbarthu anrhegion cyn y diwrnod mawr a’r blinder affwysol a brofodd fel canlyniad i’w waith trylwyr. Ar ddiwedd y dydd mae’n syrthio i drwmgwsg, gan ddeffro i ganfod fod rhywun eisoes wedi lapio’i anrhegion yntau i gyd. Mae Nadolig y gŵr yma’n dechrau o ddifrif wrth i’w fabi gropian i’r golwg, gan rannu llawenydd a chyffro’r eiliad honno.

Mae’n ymddangos fod gwobrwyo siop fach ddi-nod yn Rhaeadr Gwy yn enghraifft arall o lwyddiant Dafydd yn erbyn Goliath y busnesau mawrion.

Mae’n werth nodi bod rhywbeth tebyg wedi digwydd adeg geni Iesu, a hynny yn un o bentrefi bach tawelach Palestina. Doedd gan brysurdeb byd yn llawn pwysigrwydd ei hymerodraethau a’i Chesar ddim amser i wastraffu ar gwmwd cysglyd Bethlehem. Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn anweledig i lawer a daeth i sylw fawr o neb - a doedd y rhai fu’n ymweld ddim yn rhai y gellid eu galw’n wahoddedigion dewisol - gwarchodwyr defaid a’r math o bobl na fyddai fel arfer yn glanio ar eich stepan drws i ddathlu achlysur y ganrif.

Ond dyma’r holl bwynt, wrth gwrs. Pan fo Duw’n cyrraedd, ddylech chi ddim disgwyl chwilio amdano ym mhalasau brenhinol ac ymysg y mawrion a’r hunangyfiawn. Nid dyna ffordd Duw. Mae gofyn ichi edrych yn llefydd annisgwyl ac ymysg y rhai sydd gyrion cymdeithas, oherwydd, rhywsut, yn y mannau hynny mae Duw’n dueddol o ymddangos pob tro. Pan ddown i ddarganfod Duw yn y modd yma, clywir angylion yn dal i seinio’u cân.

Ond mae rheswm arall pam, i mi, bod hysbyseb yr Hafod yn haeddu’r wobr: eu pennawd sy’n ei gwneud hi, ac yn fy meddwl i, gall fod yn fodd i’n hatgoffa o wir ystyr genedigaeth Iesu heddiw, fel bryd hynny: ‘Rhannu hud y Nadolig hwn’. Fy ngweddi i ydy y cewch chithau hefyd ddarganfod rhywbeth o’r hud hwnnw ynghanol eich dathliadau chi.

Hoffwn ddymuno Nadolig llawen iawn ichi i gyd.

+Andrew Bangor

Cymraeg

Bishop Andy's Christmas Messages

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andrew John - is pleased to release his Christmas messages.

His written message (below), entitled #bestadvert, refers to two popular Christmas adverts and the unexpected places where God is found.

His video Christmas message includes a focus on the role of foodbanks during the Christmas season.

Please do share and use these messages.





#bestadvert

It’s become something of a competition to win the accolade of ‘best advert’ at Christmas.

Yet again, John Lewis made the running with #MozTheMonster and delivered the line ‘For gifts that brighten their world’ to press home the point. I defy anyone to watch it without a smile on their face.

However, for me the winner has to be a small business from a town in mid-Wales: Hafod Hardware of Rhayader, Powys and their advert ‘Delivering magic this Christmas’. The video tracks the efforts to deliver presents before the big day and the consequent exhaustion felt by the motorcycle rider. At the end of the day he falls into deepest slumber waking to find someone has wrapped his own gifts. His Christmas really begins as his baby crawls into view sharing the joy and excitement of the moment.

A small and quiet Rhayader shop taking the award looks like another instance of the small and local trouncing mega businesses.

It’s worth noting that when Jesus was born, that too happened in one of the quieter villages in Palestine. The busyness of a world caught up with its empires and Caesars had no time for the sleepy backwater of Bethlehem. What happened was invisible to many and captured the attention of only a few - and those who turned up weren’t what we might call the ‘crème de la crème’ – drovers of sheep and the kind of folk you wouldn’t normally invite to the event of the century.

This is, of course, the point. When God shows up you shouldn’t expect to look in kings’ palaces and among the great and the good. That’s not God’s way. You need to look in the unexpected places and among the marginalised because somehow God always shows up there. When we find God like this, angels still sing their song.

But there’s another reason why, for me, the Hafod advert takes the prize: their strapline is the real clincher. And I think it can serve as a reminder of what the birth of Christ means today as it did then: ‘Delivering magic this Christmas’. I pray you might discover something of that magic in your own celebrations.

May I wish you all a very merry Christmas.

+Andrew Bangor