Caplan Prifysgol a Chanon Mygedol newydd i Gadeirlan Bangor a Bro Deiniol
Cynhaliwyd gwasanaeth i ddathlu dechrau gweinidogaeth Canon Nathan Jarvis fel Caplan i Brifysgol Bangor a Chanon Mygedol y Gadeirlan fel rhan o’r Gosber yng Nghadeirlan Bangor ar ddydd Sul, Ionawr 21ain, 2018.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John – a groesawodd Canon Nathan i dîm Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol a’r Gadeirlan, sydd dan arweinyddiaeth Deon Bangor, y Tra Pharchedig Kathy Jones.
Magwyd Nathan yn Swydd Efrog, gan adael am Rydychen ym 1994 i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Brookes, Rhydychen.
Wedi bron i ddeng mlynedd fel rheolwr marchnata yn y byd cyhoeddi academaidd, penderfynodd roi prawf ar ei alwedigaeth trwy astudio am M.A. mewn Astudiaethau Bugeiliol yng Ngholeg yr Atgyfodiad, Mirfield. Aeth wedyn yn ei flaen i astudio ar gyfer yr offeiriadaeth yn St. Stephen's House, Rhydychen.
Fe’i hordeiniwyd yn Eglwys Gadeiriol Durham a bu’n gurad yn Hartlepool. Ei berigloriaeth gyntaf oedd yng nghanol dinas Birmingham. Mae Nathan ar hyn o bryd yn Ficar ar dair plwyf wledig yn Esgobaeth Rhydychen - Yarnton, Begbroke a Shipton – yn ogystal â bod yn gaplan i Ysgol LVS i blant ar y sbectrwm awtistaidd.
Mae ei ddiddordebau litwrgaidd a diwinyddol yn cynnwys sut orau i ddefnyddio’r Ewcharist fel modd i efengylu, a sut i gyrraedd pobl ar gyrion cymunedau addoli.
Mae Nathan yn llawn angerdd dros yr amgylchedd, wedi gwirioni ar gŵn ac yn cyffesu ei fod wedi syrthio mewn cariad â Gogledd Cymru. Mae ei bartner, Daniel, yn wyddonydd cadwraeth ac ynghyd â’u dau fab mabwysiedig, 7 ac 8 oed, maent yn ysu am ddod i adnabod Bangor a threulio mwy o amser yn y mynyddoedd.
Meddai Nathan, ‘Dwi wrth fy modd yn ymuno ag Esgobaeth Bangor ac i fod yn gweithio gyda Deon Kathy a Chabidwl y Gadeirlan. Edrychaf ymlaen at ddod i adnabod y Brifysgol, Ardal Gweinidogaeth Bro Deiniol, a dechrau o ddifrif ar ddysgu’r Gymraeg! Mae hi am fod yn gyfnod cyffrous inni i gyd!’
Wrth fyfyrio ar symudiad Nathan, dywedodd Esgob Dorchester – y Gwir Barchedig Colin Fletcher, “Gwnaeth Nathan waith da fel fy offeiriad plwyf lleol dros y blynyddoedd diweddaf ac mae’n derbyn fy nghymeradwyaeth cynhesaf ar gyfer y swydd newydd hon. Mae cariad a gweddïau Esgobaeth Rhydychen yn ei hebrwng yntau a’i deulu atoch.“
Dyma eiriau Deon Bangor – y Tra Pharchedig Kathy Jones, “Fe fydd hi’n bleser gweinidogaethu gyda Nathan. Mae’n dod â doniau a thalentau a fydd o fudd mawr, nid yn unig i’r Tîm Gweinidogaeth yma ym Mro Deiniol, ond hefyd i fyfyrwyr ein dinas, sef y rhai y bydd yn gweinidogaethu yn eu plith. Mae Esgobaeth Bangor yn arbennig o ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Coleg y Santes Fair, gan mai eu haelioni nhw sydd wedi’n galluogi i ariannu rôl Caplan y Brifysgol.”
Meddai Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John, “Rwy’n croesawu’n gynnes penodiad Nathan, gan weddïo y bydd yntau a’i deulu’n mwynhau eu bywyd a’u gweinidogaeth yma ym Mangor. Mae rôl Nathan yn un sy’n cynnig cyfleoedd newydd, cyffrous a heriol ar gyfer gweinidogaeth ac estyn allan. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at weld sut y bydd Duw’n gweithio trwyddo fo a’i weinidogaeth. Cofiwch weddïo dros Nathan, Daniel a’u teulu, ac hefyd dros y bobl a’r cymunedau fydden nhw’n eu gadael ar eu hôl.”
New University Chaplain and Honorary Canon for Bangor Cathedral and Bro Deiniol
A service to celebrate the start of Canon Nathan Jarvis ministry as Chaplain to the University of Bangor and Honorary Canon of St. Deiniol’s Cathedral, Bangor was part of Evensong in Bangor Cathedral on Sunday 21st January 2018.
The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - led the service which welcomed Canon Nathan to the Bro Deiniol Ministry Area and Cathedral Ministry Team, which is led by the Dean of Bangor, the Very Rev’d Kathy Jones.
Nathan grew up in Yorkshire and left for Oxford in 1994 to study English at Oxford Brookes University.
After almost ten years as a marketing manager in academic publishing, he decided to test out his vocation by studying for an MA in Pastoral Studies at The College of the Resurrection, Mirfield. He then went on to study for the priesthood at St Stephen's House, Oxford.
He was ordained in Durham Cathedral and was a curate in Hartlepool. His first incumbency was in inner city Birmingham. Nathan is currently Vicar of three rural parishes in Oxford Diocese - Yarnton, Begbroke and Shipton - as well as being chaplain to the LVS School for children on the autistic spectrum.
His liturgical and theological interests include how we can best see the Eucharist as a tool for evangelism, and how to reach people on the margins of worshipping communities.
Nathan is passionate about the environment, is completely dog crazy and confesses to being in love with North Wales. His partner Daniel is a conservation scientist, and they and their two adopted sons, aged 7 and 8, can't wait to explore Bangor and spend more time in the mountains.
Nathan said, 'I am thrilled to be joining the Diocese of Bangor and to be working with Dean Kathy and the Cathedral Chapter. I look forward to getting to know the University, Bro Deiniol Ministry Area, and to really get to grips with my Welsh learning! It is an exciting time for us all!’
Reflecting on Nathan’s move, the Bishop of Dorchester - the Right Reverend Colin Fletcher - said, “Nathan has done a good job as my local parish priest over recent years and I warmly commend him for this new role. He and his family come with the love and prayers of the Oxford Diocese.“
The Dean of Bangor - the Very Rev’d Kathy Jones - said, “It will be a pleasure to minister with Nathan. He brings gifts and talents which will not only be a great benefit to the Ministry Team here in Bro Deiniol, but also to the students of our city, alongside whom he will be ministering. The Diocese of Bangor is most grateful to the St. Mary’s College Trust, whose generosity has enabled us to fund the University Chaplain’s role.”
The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said, “I warmly welcome Nathan’s appointment and pray that he and his family will enjoy their life and ministry here in Bangor. Nathan’s role is one which offers new, exciting and challenging opportunities for ministry and outreach. I’m really looking forward to seeing how God will work through him and his ministry. Please do pray for Nathan, Daniel and their family, and also for the people and communities that they will be leaving behind.”