minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Negeseuon Pasg Esgob Andy 2018

Negeseuon Pasg Esgob Bangor 2018

Mae Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andrew John - yn falch o ryddhau ei negeseuon Pasg eleni.

Mae neges ysgrifenedig (isod) Esgob Andy, Anghenfilo Llai, Gobeithio Mwy yn fyfyrdod ar stori'r Pasg yng ngoleuni trolio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Wrth ffilmio ei neges fideo ar gyfer y Pasg, Hardd ond Milain (a drafodir yn Saesneg), aeth Esgob Andy ar daith i Ynys Enlli, sy'n dwy filltir o Aberdaron ar waelod Pen Llŷn ac mae 'taith' yn thema y mae'n ei archwilio.

Rhannwch a defnyddiwch y negeseuon hyn, os gwelwch yn dda.

Linc y fideo : https://vimeo.com/261914011

Y dudalen hon : http://esban.net/negespasg2018

Dolen FacebookCliciwch

Dolen TrydarCliciwch




Anghenfilo Llai, Gobeithio Mwy

Mae enghreifftiau diweddar o drolio ar y cyfryngau cymdeithasol eto’n codi cwestiynau am y graddau y mae’r llwyfan yn dangos ymddygiad dynol ar ei waethaf yn hytrach nag unrhywbeth fel ei orau. Gall hyd yn oed rhyngweithio doniol a diniwed wahodd dirmyg, gwatwar a difenwi. A yw’n unrhyw ryfeddod bod y gair ‘anghenfil’ wedi dod yn ferf i ddisgrifio sut i iselhau a dinistrio? Pan gaiff unigolion eu llarpio o bellter diogel anhysbysrwydd ar lein, maent mewn gwirionedd yn cael eu ‘hanghenfilo’.

Rwyf yn fy nghael fy hun yn myfyrio ar hanes y Pasg eleni gyda llygaid newydd o ganlyniad. Mae dal dyn a’i fwystfilo’n gorfforol yn un o’r ffurfiau o arteithio mwyaf arswydus a dirdynnol sy’n adnabyddus i ddynolryw. Ond mae’r cymhellion a’r uchelgeision a arweiniodd at y llofruddiaeth hwn hyd yn oed yn fwy arswydus. Nid yw’n ddigon i ddiffodd unrhyw fygythiad a osododd, mae’n rhaid ei wawdio, ei barodïo, ei ddarostwng ac yn y diwedd ei anghenfilo gan brawf ffug, ei ddadwisgo ac yn y diwedd ei groeshoelio.

Pe bai hyn yn nodi diwedd y mater, byddai wedi bod yn dorcalonnus iawn. Ond pan fu i’r rhai a welodd yr Iesu ar fore’r Pasg adrodd eu hanes, nid yn unig y ffaith nad oedd mewn beddrod mwyach ydoedd. Dywedasant sut, yn fyw drachefn, y newidiodd eu bywydau, agorodd iddynt ffordd a oedd yn wahanol, yn fwy cyflawn ac yn fwy real. Ni ddywedodd y byddai bywyd yn wely o rosynnau nac na fyddent yn parhau i ymdrechu, ond dangosodd iddynt realiti eu bywydau, yr hyn a oedd yn eu calonnau ac yna sut i gael eu ffurfio gan Dduw na threchir gan angau.

A hyn sy’n gwneud y Pasg yn amser o obaith. Mae’n neges y gall fy mywyd i, a’ch un chithau gael ei newid a’i farcio lai gan faw siniciaeth foel. Yr hyn a gynigir yw ffordd o fod yn ddynol ac yn real, sy’n ein codi uwchlaw hyn. A phan gofleidir bywyd i gyd yn y ffordd hon, nid yw’n llai anarferol na’r hyn a ddigwyddodd mewn beddrod gardd 2000 o flynyddoedd yn ôl.

+Andrew Bangor

Cymraeg

Bishop Andy's Easter Messages 2018

The Bishop of Bangor’s Easter Messages 2018

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andrew John - is pleased to release his Easter messages.

His written message (below), Less Monster, More Hope, reflects Bishop Andy’s thoughts on the Easter story in the light of trolling on social media.

To film his Easter video message, Beautiful but Brutal, Bishop Andy made a journey to Bardsey Island, which lies 2 miles from Aberdaron on the tip of the Lleyn Peninsula, and ‘journey’ is a theme he explores.

Please do share and use these messages.

Video link : https://vimeo.com/261914011

This page : http://esban.net/negespasg2018

Facebook Post : Click

Twitter Post : Click



Less Monster, More Hope

Recent examples of trolling on social media again raise questions about the extent to which the platform shows human behaviour at its worst rather than anything like its best. Even humorous and innocent interactions can invite scorn, derision and vilification. Is it any wonder the word ‘monster’ has become a verb to describe how to debase and destroy? When individuals are savaged from the safe distance of online anonymity, they are in effect ‘monstered’.

I find myself pondering the Easter story this year with new eyes as a result. A man is taken and physically brutalised in one of the most shocking and excruciating forms of torture known to humankind. But the motives and ambitions that led to this murder are more shocking still. It isn’t enough to snuff out any threat he posed, he must be ridiculed, parodied, humiliated and finally monstered by mock trial, stripped and finally crucified.

If this marked the end of the affair, it would have been deeply depressing. But when those who saw Jesus on Easter morning told their story, it wasn’t simply the fact he wasn’t in a tomb any longer. They spoke how, alive again, he changed their lives, he opened for them a way that was different, more whole and more real. He didn’t say life would be a bed of roses nor that they wouldn’t continue with struggles, but he showed them the reality of their lives, what was in their hearts and then how to be shaped by a God who isn’t defeated by death.

And this is what makes Easter a time of hope. It’s the message that my life, and yours, can be changed and marked less by the grime of bleak cynicism. What’s on offer is way of being human and real, which lifts us above this. And when all of life is embraced in this way, it’s no less extraordinary than what happened in a garden tomb 2000 years ago.

+Andrew Bangor