minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Gwasanaeth i ddathlu to newydd yn Eglwys Gwnog Sant, Llanwnog

Nos Iau ddiwethaf (17 Mai 2018) ddaeth bron i 60 o bobl at ei gilydd am wasanaeth arbennig yn Eglwys Gwnog Sant, Llanwnog, er mwyn diolch am waith diweddar i adfer to'r adeilad eglwys arbennig hwn. Mae Eglwys Gwnog Sant yn gwasanaethu cymunedau Llanwnog, Clatter, Pontdolgoch a Chaersws yn Ardal Gweinidogaeth Bro Arwystli.

Roedd yn bosib cyflawni'r gwaith i adnewyddu'r to diolch i gronfa Cynllun Addoldai Rhestredig y Loteri Treftadaeth, a oedd yn benodol ar gyfer toeau eglwys.

Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parch Lynda Cowan - Ficer ac Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Bro Arwystli -, a dywedodd, "Roedd yn wych gallu diolch i Dduw a dathlu cwblhau'r gwaith yn Eglwys Gwnog Sant. Mae'r adeilad eglwys hwn, fel llawer yn ein hardal ni, yn ganolbwynt i fywyd ein cymunedau, ac felly i adnewyddu'r to, a wnaethpwyd o'r blaen yn 1863, yn fuddsoddiad gwych i fywyd yn y cymunedau lleol, yn ogystal â'r adeilad eglwys. Fel cymuned eglwysig, rydyn ni wrth ein bodd bod ein gwaith caled wedi dwyn ffrwyth ac rydyn mor ddiolchgar i'r Loteri Treftadaeth a phawb a weithiodd i sicrhau bod y gwaith yn cael ei ariannu a'i gwblhau. Diolch yn arbennig i Mrs Judith Hughes am yr holl waith y mae hi wedi'i wneud ar y prosiect hwn. "

Yn ymuno â'r nifer o bobl leol ar gyfer y gwasanaeth oedd Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John - a anerchodd y gynulleidfa. Dywedodd, "Mae rhoi diolch i Dduw am gwblhau prosiect fel hyn mor bwysig, gan fod popeth a roddwyd i ni yn deillio oddi wrth Dduw.

Mae Eglwys Sant Gwnog yn gartref i un o'r croglenni gorau'r 15fed ganrif yn ein hesgobaeth, ac mae'r gwaith hwn yn golygu bod gwaith sanctaidd ein hynafiaid yn cael ei ddiogelu i bobl ei weld a'i adfyfyrio arno, ond hefyd bod y cymunedau lleol wedi sicrhau canolbwynt lle y gellir addoli Duw ac o'r lle y gall yr Efengyl fynd allan i'r cymunedau hynny.

Byddaf yn gweddïo y bydd y gwaith hwn yn cynorthwyo cenhadaeth yr Eglwys yn y blynyddoedd i ddod.'



Mae'r llun, y tu allan i ddrws Eglwys Gwnog Sant, yn dangos o'r chwith i'r dde:

  • Mr. Mike Garner (Penseiri Garner Southall)
  • Y Parch Lynda Cowan (Ficer ac Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Bro Arwystli)
  • Mrs Judith Hughes (Trysorydd Eglwys Gwnog Sant)
  • Miss Carol Green (Warden Eglwys Gwnog Sant)
  • Y Gwir Barchedig Andy John (Esgob Bangor)
  • Miss Rose Gwalchmai (Warden Eglwys Gwnog Sant)
  • Mr Robert Taylor (Robert Taylor Cyf, Adeiladwyr)
  • Y Parch Jon Price (Gweinidog Arloesol a churad Ardal Gweinidogaeth Bro Arwystli)
Cymraeg

Service to celebrate new roof at St. Gwnog’s, Llanwnog

Last Thursday night (17 May 2018) almost 60 people gathered for a special service at St. Gwnog’s Church, Llanwnog, to give thanks for the recent completion of the restoration of the roof on this special church building. St. Gwnog’s Church serves the communities of Llanwnog, Clatter, Pontdolgoch and Caersws in the Bro Arwystli Ministry Area.

The work for the replacement of the roof, was made possible by a Listed Places of Worship Grant from Heritage Lottery, which was specifically for church roofs.

The Rev’d Lynda Cowan - the Vicar and Ministry Area Leader for Bro Arwystli - led the service, and commented, “It was wonderful to be able to give thanks to God and celebrate the completion of the work at St. Gwnog’s. This church building, like many others in our area, is a focus for the life of our communities, and so to renew the roof, which was last done in 1863, is a wonderful investment for life in the local communities, as well as the church building. As a church community we are thrilled that our hard work has borne fruit and are so grateful to the Heritage Lottery and all who worked to ensure the work was funded and completed. My special thanks go to Mrs Judith Hughes for all the work she has done on this project.”

Joining the many local people for the service was the Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - who addressed the congregation. He said, “Giving thanks to God for for the completion of a project like this is so important, because everything that we have been given comes from God.

St. Gwnog’s Church is home to one of the finest 15th Century rood screens in our diocese, and this work means that the sacred work of our forbears is protected for people to see and reflect on, but also that the local communities have secured a focal place where God can be worshipped and from where to Gospel can go out to those communities.

I shall be praying that this work will assist the mission of the Church in the years to come.’



The picture, outside the door of St. Gwnog’s Church shows from left to right:

  • Mr. Mike Garner (Garner Southall Architects)
  • Rev Lynda Cowan (Vicar and Ministry Area Leader)
  • Mrs Judith Hughes (St. Gwnog’s Treasurer)
  • Miss Carol Green (St. Gwnog’s Churchwarden
  • The Right Reverend Andy John (Bishop of Bangor)
  • Miss Rose Gwalchmai (St. Gwnog’s Churchwarden)
  • Mr Robert Taylor (Robert Taylor Ltd, Builders)
  • Rev Jon Price (Pioneer Minister and Curate of the Bro Arwystli Ministry Area)