minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Gwasanaeth i ddathlu Ficer newydd Llandudno

  • Roedd Eglwys y Drindod Sanctaidd (Llandudno) yn llawn neithiwr (nos Sul 3.6.2018) i groesawu'r Parchedig Andrew Sully ac Archddiacon Mary Stallard

Ddoe cafwyd y Parchedig Andrew Sully ei drwyddedu a'i sefydlu fel Arweinydd Ardal Gweinidogaeth a Ficer newydd Llandudno mewn gwasanaeth arbennig i ddathlu dechrau ei weinidogaeth newydd. Mae Ardal Gweinidogaeth Llandudno yn gwasanaethu rhan ogleddol Llandudno a'r Gogarth, ac mae'n cynnwys Eglwys y Drindod Sanctaidd yng nghanol y dref ac Eglwys Tudno Sant, sydd ar y Gogarth.

Roedd Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John - yn arwain y gwasanaeth, lle cafodd yr Hybarch Mary Stallard, Archddiacon newydd Bangor, ei thrwyddedu fel Ficer ar y Cyd yn Llandudno. Mae Andrew a Mary yn briod ac mae ganddynt ddwy ferch, Joanna a Carys. Bydd Mary yn cyfuno ei weinidogaeth newydd yn Llandudno gyda bod yn Archddiacon Bangor.

Roedd aelodau Cytûn Llandudno yn bresennol yn y gwasanaeth neithiwr, yn ogystal ag arweinyddion dinesig. Cymerodd disgyblion Ysgol San Siôr - ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Llandudno - rhan yn y gwasanaeth hefyd, gyda chyflwyniad i groesawu'r Parchedig Andrew Sully.

Ganwyd Andrew yn yr Almaen a'i magu yng Nghasnewydd. Astudiodd Hanes a Diwinyddiaeth yn Southampton, gan dderbyn ei hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham. Testun ei draethawd ymchwil M.Phil. oedd barddoniaeth R.S. Thomas.

Yn dilyn curadaeth yng Nghasnewydd, daeth Andrew yn beriglor Plwyf Llanafan y Trawscoed gyda Llanfihangel y Creuddyn gydag Ysbyty Ystwyth a Gwnnws yn Esgobaeth Tyddewi, lle bu hefyd yn Swyddog Ecwmenaidd yr Esgobaeth.

Yn 2002, daeth Andrew yn Ficer Bywoliaeth Rheithiol Llanelwy, gan wasanaethu hefyd am gyfnod fel Swyddog Maes Gogledd Cymru Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, ac fel aelod o dîm Adnewyddu a Datblygu Plwyfol yr Esgobaeth.

Ers 2006, mae Andrew wedi bod yn Ficer Llangollen, Trefor a Llantysilio, rôl y mae wedi’i gyfuno â gwasanaeth i’r Grŵp Amgylcheddol Taleithiol CHASE, y ddolen esgobaethol ag Esgobaeth De Orllewin Tanganyika, a chaplaniaeth yn Ysbyty Bwth Llangollen ac Ysbyty Maelor.

Mae gweinidogaeth Andrew wedi ei nodweddu gan ymrwymiad dwfn a pharhaus i’r adnewyddiad litwrgaidd ac ysbrydol a arloeswyd gan Gymuned Taizé a’r mudiad eciwmenaidd, ac yn fwy diweddar gan waith i fywiocáu ysbrydolrwydd oedolion drwy gyfrwng llenyddiaeth, ysgrifau diwinyddol a ffilm. Mae Andrew, sy’n ddysgwr Cymraeg, bellach yn medru’r Gymraeg yn rhugl.

Yn mysg diddordebau eang Andrew y mae beicio, nofio, ffilm a’r theatr, gŵyl Greenbelt, barddoniaeth, cwrw go iawn, yr Enneagram, ysbrydolrwydd dynion, garddio, Pilates, canu, myfyrio, Gwledydd Llychlyn a phererindota.

Wrth son am ei benodiad fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth Llandudno, dywedodd Andrew, ‘Rwyf wedi treulio degawd a mwy yn gweinidogaethu ym mysg twristiaid ac ymwelwyr yn Llangollen, tref lle mae Cymru’n croesawu’r byd. Mae gan Llandudno fwy fyth o ymwelwyr fel prif dref glan môr Gogledd Cymru ac felly mae’r cyfle i groesawu ac ymgysylltu â nifer fawr o bobl newydd yn rhoi cyfle enfawr i’r Eglwys gyflwyno Cristnogaeth i bobl mewn ffordd fywiog a ffres.

Rydw i wedi bod yn ffodus i gael gweithio gyda cherddorion a chorau rhagorol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwyf felly’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r traddodiad cerddorol cain yn Eglwys y Drindod Sanctaidd. Mae cerddoriaeth dda yn rhoi i addoliad ei wead a’i ddyfnder.

Mae’r cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau gyda’r ysgolion lleol a’r mudiadau ieuentcid, i fod yn rhan o weinidogaeth yr Ysgol Sul, ac i rannu yn ngofal bugeiliol pawb yn yr eglwys a thu hwnt yn fy nghyffroi’n arw.

Wrth edrych ymlaen at y gwasanaeth, dywedodd Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, 'Mae Andrew yn dod â phrofiad helaeth i'w rôl newydd yn Llandudno. Mae ei weinidogaeth hyd yn hyn wedi'i nodi gan awydd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud Cristnogaeth a'r Eglwys yn berthnasol, ac ymrwymiad at faterion eciwmenaidd ac amgylcheddol, a'r cwbl yn gyd-destun ei ddiddordeb yn Taizé ac ysbrydolrwydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae Llandudno yn datblygu o dan weinidogaeth Andrew.

Gweddïwch dros Andrew a Mary, pobl Llandudno, yn ogystal â phobl Llangollen.'

Cymraeg

Service to celebrate Llandudno’s new Vicar

  • Holy Trinity Church (Llandudno) was full last night (Sunday 3.6.2018) to welcome the Reverend Andrew Sully and Archdeacon Mary Stallard

The Reverend Andrew Sully was licensed and inducted as the new Vicar and Ministry Area Leader of Llandudno at a special service to celebrate the start of his new ministry there. The Llandudno Ministry Area serves the northern part of Llandudno and the Great Orme, and includes Holy Trinity Church in the town centre and St. Tudno’s Church, which is on the Great Orme.

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - lead the service, during which the Venerable Mary Stallard, the new Archdeacon of Bangor, was licensed as an Associate Vicar in Llandudno. Andrew and Mary are married and have two daughters, Joanna and Carys. Mary will combine her new ministry in Llandudno with being Archdeacon of Bangor.

Sunday’s service was be attended by members of Cytûn Llandudno, as well as civic dignitaries. Pupils from Ysgol San Siôr, the Church in Wales primary school in Llandudno, also took part with a presentation for the Rev Andrew Sully.

Andrew was born in Germany and brought up in Newport. He studied History and Theology at Southampton and trained for ordained ministry at the Queen’s College, Birmingham. His M.Phil. thesis focused on the poetry of R.S. Thomas.

Following a curacy in Newport, Andrew became incumbent of the Parish of Llanafan y Trawscoed with Llanfihangel y Creuddyn with Ysbyty Ystwyth and Gwnnws in the Diocese of St Davids, where he also served as Diocesan Ecumenical Officer.

In 2002, Andrew became Vicar of the Rectorial Benefice of St Asaph, also serving for a time as the North Wales Field Officer of Cytûn: Churches Together in Wales, and as a member of the Diocesan Parish Renewal & Development team.

Since 2006, Andrew has been Vicar of Llangollen, Trevor & Llantysilio, a role he has combined with service to the Provincial Environment Group CHASE, the diocesan link with the Diocese of South West Tanganyika, and chaplaincy ministry at Llangollen Cottage Hospital and Ysbyty Maelor.

Andrew’s ministry has been marked by a deep and long-standing commitment to the liturgical and spiritual renewal pioneered by the Taizé Community and the ecumenical movement, and more recently by work to reimagine adult spirituality through the work of modern writers, spiritual teachers and film-makers. Andrew, a Welsh-language learner, is now a fluent Welsh speaker.

Andrew’s interests include cycling, swimming, film and theatre, the Greenbelt festival, poetry, real ale, the Enneagram, men’s spirituality, gardening, Pilates, singing, meditation, Scandinavia and pilgrimage.

Speaking of his appointment as Ministry Area Leader of Llandudno, Andrew said: ‘I’ve spent a decade and more ministering to tourists and visitors to Llangollen, a town where Wales welcomes the world. Llandudno has even more visitors as North Wales’s premier seaside town, and so the opportunity of welcoming and connecting with a large number of new people gives the Church a huge opportunity of presenting Christianity to people in a vibrant and fresh way.

‘Having been fortunate to have worked with some outstanding musicians and choirs in recent years, I’m particularly looking forward to being part of the fine musical tradition at Holy Trinity Church. Good music gives worship its texture and depth.

The opportunities to develop links with the local schools and uniformed organisations, to be part of the ministry of the Sunday School, and to share in the pastoral care of all within the church and without are all things that make me excited by what lies ahead.’

Looking forward to the service, the Bishop of Bangor, the Right Reverend Andy John, said, ‘Andrew brings great experience to his new role in Llandudno. His ministry has been marked by a desire to find new ways to make Christianity and Church relevant, and commitment to ecumenism and environmental issues, all of which is underpinned with his interest in Taizé and spirituality. I’m really looking forward to seeing how Llandudno develops under Andrew’s ministry.

Please do pray for Andrew and Mary, the people of Llandudno, as well as the people of Llangollen.’