O Dde Meirionnydd i Ogledd Meirionnydd, cyhoeddir swydd newydd i Ficer
Bydd y Parch Janet Fletcher yn cael ei thrwyddedu fel Ficer ar y Cyd Bro Enlli a Swyddog Ysbrydolrwydd a Phererindod ar 6 Medi am 6yh yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron.
Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – yn falch o allu cyhoeddi penodiad y Parchedig Janet Fletcher fel Ficer ar y Cyd yn Ardal Weinidogaeth Bro Enlli. Mae Ardal Weinidogaeth Bro Enlli’n gwasanaethu’r cymunedau yn nalgylch Pwllheli, Llanbedrog ac Aberdaron.
Bydd Janet yn symud o’i rôl bresennol fel Ficer ar y Cyd Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner, sy’n gwasanaethu cymunedau o amgylch Tywyn ac Aberdyfi, i fyw yn Aberdaron, ar ben pellaf Penrhyn Llŷn.
Ordeiniwyd Janet yn Esgobaeth Lerpwl yn 2000 gan wasanaethu mewn sawl plwyf yno cyn dod i Fywoliaeth Reithorol Bangor 2011. Symudodd i Ardal Weinidogaeth Ystumanner fel Ficer Cynorthwyol yn 2015.
Bydd Janet yn parhau i gyfuno ei gweinidogaeth ym Mro Enlli gyda’i rôl fel Swyddog Ysbrydolrwydd Esgobaeth Bangor. Mae hi’n awdures gyhoeddedig, yn ogystal â llunio llyfrynnau astudio’r Adfent a’r Grawys ar gyfer Esgobaeth Bangor.
Wrth edrych ymlaen at ei symudiad, meddai Janet, “Dwi wedi mwynhau bod yn rhan o Fro Ystumanner ac mae gen i sawl atgof hapus ar gof a chadw o’r bobl, yr eglwysi a’r fro.
Roedd hi’n syrpreis hyfryd i gael fy ngwahodd i fod yn Ficer Cynorthwyol ym Mro Enlli. Dwi’n edrych ymlaen at y cam nesaf hwn yn fy ngweinidogaeth, ac i ddarganfod yr hyn y gallaf innau ei gyfrannu at yr ardal weinidogaeth. Wrth symud i Aberdaron, dwi’n gobeithio gallu astudio gwaith R.S.Thomas a Jim Cotter ac eraill, er mwyn gweld sut y medren nhw ysbrydoli fy sgwennu innau ymhellach.
O fewn fy rôl esgobaethol fel Swyddog Ysbrydolrwydd, fe fydd gen i bellach yr her ychwanegol o’r brîff ar bererindota, lle fydda i, ynghyd ag eraill, yn gweithio ar y llwybr o Fangor i Enlli.“
Dywedodd y Parch Nigel Adams, Deon Ardal Synod De Meirionnydd, “Bydd pobl Ystumanner yn drist o weld Janet yn symud, gan fod ei gweinidogaeth wedi ei werthfawrogi’n fawr. Mae hi hefyd wedi delio â’r holl faterion gweinyddol sy’n codi pan fo swydd yn dod yn wag yn yr Ardal Weinidogaeth ac am hynny, rydw i’n ddiolchgar iawn. Mae pawb yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith mae hi’n ei wneud fel Swyddog Ysbrydolrwydd Esgobaethol ac yn falch y bydd hi’n parhau gyda’r rôl honno. Bydd ein meddyliau a’n gweddïau gyda hi wrth iddi symud i’r cyfnod newydd hwn yn ei gweinidogaeth. Fe fydd hi’n dal i fod gyda ni mewn ffordd real iawn wrth inni ddefnyddio’r llenyddiaeth mae hi wedi’i chynhyrchu.”
Dyma oedd ymateb Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Enlli, yr Hybarch Andrew Jones, “Dw i wrth fy modd bod Janet am ymuno â thîm Bro Enlli. Dwi wedi nabod Janet ers blynyddoedd lawer ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda hi yn yr Ardal Weinidogaeth yn ogystal ag ochr yn ochr â hi wrth iddi barhau fel Swyddog Ysbrydolrwydd yr Esgobaeth.
Yr hyn sy’n fy nghyffroi ynglŷn â’i rôl ysbrydolrwydd ydy bod yr Esgob wedi ychwanegu brîff pererindota. Mae Bro Enlli wrth wraidd taith y pererinion i Ynys Enlli ac mae cael Janet yn gydymaith yn canolbwyntio ar bererindota yn amserol ac yn ardderchog. Mae’r diddordeb mewn llwybrau pererinion a chyrchfannau pererindota ledled Ewrop wedi arwain at dwf o fewn i’r eglwys mewn gwledydd eraill, felly mae’r ffocws hwn yn ddelfrydol, wrth i ninnau geisio tyfu’r eglwys gyda’n gilydd fel esgobaeth.”
Dywedodd Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John - "Mae Janet yn offeiriad ardderchog sy'n gwasanaethu ein hesgobaeth yn Esgobaeth gydag ymroddiad, boed hynny ei gweinidogaeth ym Mangor a Bro Ystumanner neu drwy ei hysgrifennu, lle mae hi wedi cyffwrdd ag enaid llawer un a'u helpu i ddod yn agosach at Dduw. Bydd hi'n ased gwerthfawr i dîm gweinidogaeth ym Mro Enlli.
Mae gan Fro Enlli - ac yn Aberdaron yn arbennig - hanes da o glerigwyr sy'n awduron. Gobeithiaf a gweddïaf y bydd y bobl, y dirwedd a'r profiad o fyw yn y rhan honno o Lŷn yn ysbrydoli Janet, ac edrychaf ymlaen at synhwyro’r dylanwad yn ei gwaith ysgrifenedig.
Gweddïwch dros Janet, yn ogystal â phobl Bro Enlli a Bro Ystumanner. "
Disgwylir y bydd Janet yn symud yn yr haf, pan gynhelir gwasanaeth arbennig i ddathlu dechreuad ei rôl newydd ym Mro Enlli.
From South to North Meirionnydd, Vicar’s new post is announced
Rev Janet Fletcher will be licensed as Associate Vicar of Bro Enlli and Spirituality & Pligrimage Officer on 6 September at 6pm, St Hywyn’s Church, Aberdaron.
The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is pleased to announce the appointment of the Reverend Janet Fletcher as Associate Vicar in the Bro Enlli Ministry Area. The Bro Enlli Ministry Area serves the communities around Pwllheli, Llanbedrog and Aberdaron.
Janet will move from her present role as Associate Vicar in the Bro Ystumanner Ministry Area, which serves communities around Tywyn and Aberdyfi, to live in Aberdaron, at the western tip of the Llŷn Peninsula.
Janet was ordained in Liverpool Diocese in 2000 and served in a number of parishes there before coming to the Rectorial Benefice of Bangor 2011. She moved to the Bro Ystumanner Ministry Area as Associate Vicar in 2015.
Janet will continue to combine her ministry in Bro Enlli with her role as the Diocese of Bangor’s Spirituality Officer. She is a published author, as well as writing the Diocese of Bangor’s highly-regarded books for Advent and Lent.
Looking forward to her move, Janet said “I have enjoyed being a part of Bro Ystumanner and I take with me many happy memories of the people, churches and places.
It was a wonderful surprise to be asked to become the Associate Vicar in Bro Enlli. I am looking forward to this next step in my ministry, and to discover what I can bring to the ministry area. Moving to Aberdaron, I hope to explore the work of R.S Thomas and Jim Cotter more, to see how they can further inspire me in my own writing.
Within my diocesan role as Spirituality Officer, I will now have the additional challenge a brief on pilgrimmage, where, alongside others, I shall be working on the route from Bangor to Bardsey.“
The Rev Nigel Adams, Area Dean of the South Meirionnydd Synod, said, “The people of Bro Ystumanner will be sorry to see Janet leave, because her ministry has been very much appreciated. She also has dealt with all the administrative issues that arise when there is a vacancy in a Ministry Area and I have been very grateful for that. Everyone recognises the importance of the work she does as Diocesan Spirituality Officer and we are pleased that she will be continuing in that role. Our thoughts and prayers will be with her as she moves to this new phase in her ministry. She will still be with us in a very real way when we use the books which she produces.”
The Vicar and Ministry Area Leader of Bro Enlli - The Venerable Andrew Jones - said, “I am delighted that Janet will join the ministry team of Bro Enlli. I have know Janet for several years and look forward to working closer with her both in the Ministry Area and alongside her as she continues to be the Diocesan Spirituality Officer.
What excites me about her spirituality role is that the Bishop has added a pilgrimage brief. Bro Enlli is at the heart of a medieval pilgrimage route to Bardsey Island and to have Janet alongside us focussing on pilgrimage is timely and excellent. Interest in pilgrimage sites and routes in Europe has lead to church growth in other countries, so this focus is ideal, as we seek to grow the church together as a diocese.”
The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said, “Janet is an excellent priest who serves our Diocese with great dedication, be it though her ministry in Bangor and Bro Ystumanner or through her writing, which has touched the souls of many people and helped them to come closer to God. She will be a valuable addition to the ministry team in Bro Enlli.
Bro Enlli - and Aberdaron especially - has a good history of clergy who are authors. I hope and pray that the people, landscape and experience of being resident in that part of the Llŷn Peninsula will inspire Janet, and I look forward to sensing its influence in her writing.
Please do pray for Janet, as well as the peoples of Bro Enlli and Bro Ystumanner.“
It is expected that Janet will move in the summer, when there will be a special service to celebrate the beginning of her new role in Bro Enlli.