Penodiad Newydd i Fro Padrig
Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – yn falch o allu cyhoeddi penodiad y Parchedig Naomi Starkey fel Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Padrig ac Efengylydd Arloesi ar gyfer gogledd Synod Ynys Môn. Mae Bro Padrig yn gwasanaethu cymunedau cylch Bae Cemaes a Llanfechell ar ochr ogledd-orllewinol Môn, a bydd Naomi, wrth gyflawni ei rôl fel Efengylydd, yn gweithio law yn llaw ag Archddiacon Môn, Andy Herrick, i gynorthwyo mentrau arloesol newydd yn rhannau gogleddol yr Ynys.
Mae Naomi ar hyn o bryd yn Ficer Cynorthwyol yn Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen, sy’n gwasanaethu cymunedau cyffiniau Llanfairpwll, Brynsiencyn a Niwbwrch yn ne Ynys Môn.
Yn un a anwyd yng Nghaergrawnt a’i magu ar Ynysoedd y Sianel, treuliodd Naomi sawl blwyddyn o’i bywyd gwaith yn Llundain, lle bu’n olygydd i’r Bible Reading Fellowship, sy’n cyhoeddi llyfrau Cristnogol a nodiadau Beiblaidd, yn ogystal â bod yn gartref i deitlau ‘Llan Llanast’. Mae hi hefyd yn awdures ei hun, wedi cyhoeddi pum llyfr sy’n ceisio annog pobl wrth iddyn nhw archwilio eu bywyd Cristnogol; ei chyhoeddiad diweddaraf oedd ‘The Recovery of Joy’.
Tyfodd yr alwad arni tuag at ordeinio yn dilyn ei symudiad i Lanidloes yn 2011, er iddi ddechrau dysgu’r Gymraeg yn Llundain, diolch i’w diddordeb mewn ieithoedd! Fe ordeiniwyd Naomi yn 2014, a threulio ei blwyddyn gyntaf yn y weinidogaeth ym Mro Bro Cyfeiliog a Mawddwy, yn gwasanaethu tref Machynlleth a’r pentrefi cyfagos. Yn dilyn hynny, symudodd i Aberdaron i fod yn rhan o dîm gweinidogaethu Bro Enlli, cyn symud i Fro Dwynwen. Rhan o’i gweinidogaeth ym Mro Enlli oedd cefnogi mynegiant newydd o eglwys yno, sef Eglwys y Bont yn Abersoch.
Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Naomi, “Dwi’n eiddgar i ddechrau dod i nabod pobl a llefydd Bro Padrig, ac adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi’i wneud yn yr eglwysi yno. Mae’n gyffrous hefyd, i fod yn ymgymryd â rôl ehangach sydd am gyfeirio’r diddordeb fu gen i ers amser mewn gweinidogaeth arloesi.'
Yn ôl Archddiacon Môn, yr Hybarch Andy Herrick, "Mae hyn yn benodiad cyffrous iawn. Bydd rôl ddeuol Naomi fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth ac Efengylydd Arloesi yn hybu tyfiant a bywiogi bywyd yr Eglwys o fewn Bro Padrig, gan arwain at efengylu effeithiol ledled rhan ogleddol yr Ynys. Mae angen dulliau creadigol, ffres o gyfathrebu’r Newyddion Da i bobl ein cymunedau. Bydd Naomi mewn safle delfrydol i arwain y fenter hon wrth iddi gasglu ynghyd tîm o leygwyr a chlerigwyr a fydd â’r gallu i rannu’r gwaith a’r weledigaeth. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Naomi a gweld y rôl, ynghyd â’i doniau hithau, yn datblygu a thyfu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”
Meddai’r Canon Emlyn Williams, Is-gadeirydd Clerigol a Deon Ardal Synod Môn, “Dwi wrth fy modd o glywed am benodiad Naomi. Er mai un o Ardaloedd Gweinidogaeth teneuaf ei phoblogaeth ar Ynys Môn ydy hon, mae gan y bobl galon dros rannu’r Efengyl. Fe fuon nhw’n ddiweddar yn gweithio’n galed iawn gydag Archddiacon Andy a Synod Môn, i geisio gweld sut olwg fase ar y weinidogaeth yn eu hardal yn y dyfodol. Fe gaiff Naomi gefnogaeth fawr wrth iddyn nhw ei chroesawu i ymuno ar eu taith ffydd mewn gwahanol ffurfiau trawsnewidiol.”
Meddai Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – “Mae Naomi yn gydweithiwr talentog. Dyma ddatblygiad arwyddocaol yn ei gweinidogaeth, yn ei gosod mewn rôl arweinyddiaeth y bu’n paratoi ar ei chyfer ers nifer o flynyddoedd. Mae hi hefyd yn arwyddocaol i’r Esgobaeth hefyd gan ei bod yn cynnig ffurf newydd ar weinidogaeth ar Ynys Môn wrth inni geisio estyn y tu hwnt i rigol cyfarwydd ein cymunedau eglwysig traddodiadol.
Cofiwch weddïo dros Naomi, ei theulu, y tîm gweinidogaethu a phobl Bro Padrig a Bro Dwynwen.”
Y disgwyl ydy y bydd Naomi yn dechrau ei rôl ym Mro Padrig yn gynnar yn yr hydref, pan gynhelir gwasanaeth neilltuol i ddathlu dechrau ei gweinidogaeth newydd yno.
New Appointment to Bro Padrig
The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is pleased to announce the appointment of the Reverend Naomi Starkey as Vicar and Ministry Area Leader of the Bro Padrig Ministry Area and Pioneer Evangelist for the north of the Anglesey Synod. Bro Padrig serves the communities around Cemaes Bay and Llanfechell on the north west corner of Anglesey, whilst in her Evangelist role, Naomi will work alongside the Archdeacon of Anglesey, Andy Herrick, to help with new pioneer ventures in the northern part of Anglesey.
Naomi is currently Associate Vicar in the Bro Dwynwen Ministry Area, which serves communities around Llanfairpwll, Brynsiencyn and Newborough in the southern part of Anglesey.
Born in Cambridge and raised in the Channel Islands, Naomi spent many years of her working life based in London, where she worked as an editor for the Bible Reading Fellowship, which publishes Christian books and Bible reading notes as well as being the home of ‘Messy Church’ titles. She is also an author in her own right and has now published five books, which seek to encourage people in their exploration of Christian living, the most recent being ‘The Recovery of Joy’.
Her call to ordination grew following a move to Llanidloes in 2011, although she’d already begun learning Welsh in London, thanks to an interest in languages! Naomi was ordained in 2014, and spent the first year of her ministry in Bro Cyfeiliog and Mawddwy, serving the town of Machynlleth and the surrounding villages. She subsequently moved to Aberdaron to be part of the ministry team in Bro Enlli, before moving to Bro Dwynwen. Part of her ministry in Bro Enlli was to support a new expression of church there, Eglwys y Bont in Abersoch.
Looking forward to her new roles, Naomi said, “I am looking forward very much to getting to know the people and places of Bro Padrig, and building on the good work that has already been happening in the churches there. It's exciting, too, to be taking on a wider role which draws on my long-standing interest in pioneer ministry.'
The Archdeacon of Anglesey, the Venerable Andy Herrick, said, "This is a very exciting appointment. Naomi’s dual role of Ministry Area Leader and Pioneer Evangelist will bring growth and vibrancy to the church life within Bro Padrig, and lead to effective evangelism across the north of the Island. We need creative and fresh ways to communicate the Good News with the people of our communities. Naomi will be ideally placed to spearhead this initiative as she gathers a team of laity and clergy who can share the vision and work. I look forward to working with Naomi and seeing both the role and her own gifts develop and grow over the months and years ahead.”
Canon Emlyn Williams, the Clerical Vice Chair and Area Dean of the Anglesey Synod, said, “I am delighted to hear of Naomi's appointment. Although Bro Padrig is one of the most sparsely populated Ministry Areas on Anglesey, the church people there have a big heart for sharing the Gospel. They've recently been working hard alongside Archdeacon Andy and Synod Môn, exploring what ministry may look like in their area in the future. Naomi will receive a great deal of support as they welcome her to share in their journey of exploring faith, in different and life changing ways.”
The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said, "Naomi is a gifted colleague. This is a significant development in her ministry, as it places her in the leadership role for which she has been preparing over a number of years. It is also significant for the Diocese as it offers a new form of ministry on Anglesey as we seek to reach out beyond the comfort zone of our traditional church communities.
Please do pray for Naomi, her family, the ministry team and people of Bro Padrig and Bro Dwynwen.”
It is expected that Naomi will begin her role in Bro Padrig in the early autumn, when a special service will be held to celebrate the start of her new ministry there.