Neges gan yr Esgob
Annwyl cyfeillion
Mae’r cyhoeddiad neithiwr gan y Prif Weinidog wedi pwysleisio difrifoldeb y sefyllfa sy’n ein hwynebu. Mae hefyd wedi darparu gwybodaeth newydd ar gyfer yr Eglwys y mae angen ei ddadansoddi ac y bydd angen ei adlewyrchu yn ein harferion a’n hymddygiad. Mae'n amserol bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y dalaith heddiw i baratoi canllawiau newydd.
A gaf ofyn am eich gweddïau dros yr Esgobion ac eraill a fydd yn ymgynghori ar ran yr Eglwys yng Nghymru heddiw – am ddoethineb a dirnadaeth wrth wneud penderfyniadau.
A gaf ofyn hefyd am eich hamynedd wrth i ganllawiau newydd gael eu cadarnhau a'u cylchredeg. Bydd llawer i'w ennill o allu siarad â mesur o bendatrwydd yn y dyddiau nesaf, a sicrhau ein bod yn glir ac yn gyson yn ein dweud a'n harfer.
A gaf yn arbennig eich annog i ofalu amdanoch eich hun a'ch teuluoedd wrth i chi weinidogaethu i'ch cymunedau, a sicrhau bod eich timau gweinidogaeth yn cymryd yr un gofal. Rhaid inni fod yn barod dros yr wythnosau nesaf i fod ochr yn ochr â'r rhai yn ein cymunedau a fydd yn bryderus, mewn poen ac mewn angen. Ond bydd angen i ni hefyd ddilyn arweiniad eglwysig a llywodraethol, rheoli risg, a gweithredu gyda doethineb a dirnadaeth.
Gweddi.
Duw Hollalluog a Holl-gariadus,
gweddïwn arnat trwy Grist yr Iachawr
dros y rhai sy'n dioddef o'r Coronavirus Covid–19
yng Nghymru a ledled y byd.
Gweddïwn hefyd dros bawb sy'n ymestyn allan
at y rhai sy'n galaru dros bob un sydd wedi marw
o ganlyniad i’r firws.
Rho ddoethineb i lunwyr polisiau,
sgiliau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac i ymchwilwyr,
cysur i bawb mewn trallod,
a thawelwch meddwl i ni i gyd yn y dyddiau hyn o ansicrwydd a gofid.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist ein Harglwydd
a ddangosodd dosturi i’r rhai mewn angen,
a gofleidiodd y rhai a wrthodwyd,
ac a garodd y rhai na ddangoswyd cariad tuag atynt.
Amen.
Message from the Bishop
Dear friends
Yesterday evening’s announcement from the Prime Minister has emphasised the seriousness of this situation we face. It has also provided the Church with new information that needs to be digested and will need to be reflected in our practice. It is timely that meetings are taking place in the province today to prepare new guidance.
May I ask for your prayers for the Bishops and others who will be conferring on behalf of the Church in Wales today – for wisdom and discernment in their decision-making.
May I also ask for your patience as new guidance is confirmed and circulated. There will be much to be gained from being able to speak with confidence in these coming days, and to ensure that we are clear and consistent in our pronouncements and our practice.
May I, in particular, urge you to take care of yourselves and your families as you minister to your communities, and to ensure that your ministry teams take the same care. We must be ready over these coming weeks to be alongside those in our communities who will be anxious, in pain and in need. But we will also need to follow church and governmental guidance, to manage risk, and to act with wisdom and judgement.
Prayer.
Almighty and All–loving God,
we pray to you through Christ the Healer
for those who suffer from the Coronavirus Covid–19
in Wales and across the world.
We pray too for all who reach out to those who mourn
the loss of each and every person who has died as a
result of contracting the disease.
Give wisdom to policymakers,
skill to healthcare professionals and researchers,
comfort to everyone in distress,
and a sense of calm to us all in these days of uncertainty and distress.
This we ask in the name of Jesus Christ our Lord
who showed compassion to the outcast,
acceptance to the rejected
and love to those to whom no love was shown.
Amen.