minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Neges Nadolig yr Esgob


Flwyddyn yn ôl, ychydig ohonom fyddai wedi dychmygu y byddwn yn dathlu’r Nadolig gyda chysgod feirws dros lawer iawn o’r byd. 

Llai fyth oedd yn gwybod beth yw Zoom, heblaw rywbeth ynghylch cyflymder a brys. Mae cymaint wedi newid yn ystod y deuddeg mis diwethaf nes bod darogan beth allai fod o’n blaenau fod mor ansicr a chyrhaeddiad y pandemig, sydd wedi cymryd cymaint o fywydau ac wedi gadael cymunedau’n teimlo’n ynysig ac yn drwblus. Mae’r gost i’r economi wedi bod yn enfawr a lles y wlad wedi dioddef, o bosibl, hyd yn oed yn fwy.

Byddai hynny’n swnio’n llwm, y tu hwnt i waredigaeth oni bai bod brechiad ar fin cyrraedd ac yn addo dyfodol gwell. Nid yw’n eglur beth fydd o’n blaenau yn y normal newydd ond mae hwn yn gyfnod y bydd llyfrau’n cael eu hysgrifennu amdano.

Rwyf wedi bod yn ymwybodol o’r rhai sydd wedi bod yn chwilio am ffyrdd i ddod â gobaith a charedigrwydd i’r rhai sydd yn y perygl mwyaf megis yr henoed, y rhai yn yr ysbyty neu ofalwyr. Bydd pob un ohonom yn cofio’r Clap Dydd Iau pan oedden ni’n diolch i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd am eu gwaith anhygoel yn wynebu’r hyn a oedd yn ymddangos fel argyfwng yr argyfyngau. Roedd eraill yn sicrhau fod meddyginiaeth yn cael ei dosbarthu’n ddiogel ac yn gofalu nad oedd rhai bregus ac ar ymylon cymdeithas yn mynd yn angof. Mae gallu tosturi dynol i orlifo yn weithredu creadigol wedi’n hatgoffa, er y gallwn ni ymddangos yn analluog, dydyn ni ddim. Mae’r hyn oedd yn ymddangos yn dywyll ac yn ddychrynllyd wedi arwain at y fath o ofal a chefnogaeth ymarferol nas gwelwyd ers cenedlaethau lawer.

Efallai bydd rhan gyntaf y stori Nadolig yn canu cloch gyda llawer ohonom o ganlyniad. Anghofiwch y lluniau rhamantus o’r Geni wrth y preseb. Mae hon yn stori sy’n dangos Duw yng nghanol bywyd gyda’i holl heriau a’i gymhlethdodau: stori o sut mae Duw yn dod i mewn i anrhefn, yn cael ei eni i gwpl dryslyd oedd yn cael trafferth i wneud synnwyr o beth yn union oedd y plentyn annisgwyl hwn yn ei olygu. Ymhen ychydig, daeth y ddau, ac eraill, i sylweddoli fod Duw, drwy gamu i’r byd hwn, yn gwahodd yr holl ddynoliaeth i gysylltu â’i oleuni a’i fywyd trawsnewidiol.

Mae ail ran o stori’r Nadolig yn fwy ynghylch ein hymateb ni ein hunain. Os byddwn ni’n cael ein temtio i ofni ac anobeithio, gallwn ymateb i wahoddiad agored Duw i ddod â gobaith i ni. Os byddwn ni’n cael ein temtio i deimlo’n ddiffrwyth, cynnig Duw yw trawsnewid pob calon a meddwl. Dyma yw nerth y Nadolig, sef grym Duw i ddod â goleuni i’r byd, goleuni nad yw byth yn pylu a bywyd sy’n dragwyddol.


Y Gwir Barchg Andrew John
Esgob Bangor


Cymraeg

The Bishop's Christmas message


A year ago few of us would have imagined we would mark Christmas with the shadow of a virus hanging over much of our world. 

Fewer of us still would know what Zoom was beyond something to do with speed or haste. So much has changed in the last twelve months that predicting what the outcome might be is as uncertain as the arrival of the pandemic which has taken so many lives and left communities feeling isolated and troubled. The cost to the economy has been enormous and the well-being of the country has possibly suffered even more.

This would sound bleak beyond redemption were it not for the imminent arrival of a vaccine which promises a brighter future. What the new normal will involve remains unclear but this is a period about which books will be written long into the future.

I have been conscious of those who have sought ways to bring hope and kindness to those most at risk such as the elderly, those in hospital or carers. We will all remember the Thursday Clap which allowed us to thank NHS workers for their extraordinary work facing what seemed like a crisis to end all crises. There were others too who ensured medication was safely delivered, that contact was maintained with the more frail and marginalized in society. The capacity of human compassion to overflow into creative action has reminded us that we might seem powerless but this is not the case. What has seemed dark and foreboding has invited a level of practical care and support we haven’t seen for several generations.

The first part of the Christmas story may resonate with many of us as a consequence. Put aside the mental pictures of a gentle nativity scene at the crib. This is a story of God in the thick of life with all its challenges and complexities: it’s a story of how God enters into the chaos, born to a disorientated couple struggling to make sense of what this unexpected child could mean. In time, they and others came to realise that by stepping into this world, God was holding out an invitation to all humanity to connect with his transforming light and life.

The second part of the Christmas story is more about our own response. If we are tempted to fear and despair we can respond to God’s open invitation to bring us hope. If we are tempted to feel powerless, God’s offer is to transform every heart and mind. This is the power of Christmas, which is the power of God to bring the world a light which never fades and life which is everlasting.


The Rt Revd Andrew John
Bishop of Bangor