Trwyddedu ac Ordeinio 2021: Roz Harrison
Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, cafodd 14 o bobl ymroddedig, dawnus eu hordeinio neu eu trwyddedu i weinidogaethu.
Fe’u gelwir i “adeiladu corff Crist fel y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i’r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw” (Effesiaid 4).
Dyna’u tasg ar y cyd – ond mae gan bob un hefyd eu straeon personol eu hunain am alwad Duw ar eu bywydau.
Yma, cawn sgwrs â Roz am ei galwedigaeth fel Gweinidog Teulu.
Dywedwch ychydig wrtha’i amdanoch eich hun.
Y drafferth yw, pan ydych chi'n hen faint o amser sydd gennych chi?! Dwi wedi bod yn briod ers bron i 48 mlynedd ac rydym yn dal i siarad â’n gilydd. Rwy'n mwynhau pobi heblaw ei fod yn eich gwneud chi’n dew. Rwy’n hoff iawn o nofio ac roeddwn yn gweld colli hynny pan gaewyd popeth. Dwi ychydig yn rhy hen bellach i nofio yn y môr ond, os ydi hi’n dawel yn y pwll, dwi'n mwynhau dweud fy ngweddïau wrth nofio. Dwi hefyd yn cerdded llawer. Mae rhai o’r teithiau cerdded gorau wedi bod efo ffrindiau pan oedd hi’n pistyllio bwrw. Dwi wastad wedi llowcio llyfrau. Mae’r hyn mae pobl yn ei wneud a sut maen nhw’n byw o ddiddordeb mawr i mi. Dwi’n Llywodraethwr yn Ysgol San Siôr yma yn Llandudno. Dwi hefyd yn un o Ymwelwyr yr Esgob ar gyfer Esgobaeth Llanelwy. Mae’r ddwy swydd yn hyfryd gan fy mod yn dal i gael gweld y plant.
Pa un ydi’ch hoff fisgeden?
Teisen Berffro Gartref Mary Berry.
Lle dechreuodd y cyfan i chi?
Dwi’n Gristion gydol oes. Pan oeddwn tua chwe blwydd oed penderfynais fy mod am fod â Iesu yn fy mywyd. Mi ges i fy magu yn yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac yno wnes i aros nes i mi briodi. Roeddwn i wastad am fod yn athrawes a bues i’n arweinydd Ysgol Sul er pan ôn i tua deng mlwydd oed. Tra oeddwn yng Ngholeg West Hill yn Birmingham cefais yr anffawd o gwrdd â rhywun ar y cwrs gwaith ieuenctid. Dyna Mike, fy ngŵr, a roeddwn i’n gweithio efo fo ac roedd yn wych. Pan symudodd i Ganolfan Ieuenctid Cryw a’r Cylch, roedd y gwaith ieuenctid yno’n enfawr gyda dros fil o bobl ifanc yr wythnos. Roeddwn i’n gweithio yn yr ysgol drws nesaf. Roeddwn i’n gallu gwneud fy ngwaith a mynd i’r clwb ar ôl hynny a dod i adnabod y bobl ifanc.
Dywedwch wrtha’i am yr Eglwys Iau yn Llandudno. Sut ddigwyddodd hynny?
Roedden ni’n arfer mynd â’n hŵyr i’r eglwys efo ni a roedden ni’n mynychu’r Ysgol Sul efo’n gilydd. Yn y diwedd, roeddwn i’n arwain y grŵp ond roeddwn bob amser yn teimlo bod yr elfen o addoliad ar goll, roedd yn bob amser gymaint o frys a gallai’r clerigion fyth ddod i adnabod y teuluoedd. Pan ddaeth y Ficer newydd penderfynwyd rhoi cynnig ar Eglwys Iau. Daeth y teuluoedd ac addoli ynghyd - fel teulu. Roedd bob amser yn gysylltiedig â’r litwrgi ac roedd yn hynod effeithiol. Mi wnaethon ni ei symud ar-lein yn ystod y pandemig ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda mwy o bobl ar-lein nag o oedd gynnon ni wyneb yn wyneb.
Beth ddaeth â chi i’r teulu Anglicanaidd?
Mae hynny’n gwestiwn diddorol. Pan wnes i gyfarfod a’r gŵr, roedd yn aelod ymroddedig o’r Eglwys Gatholig Rufeinig ac yn hyfforddi i fod yn weithiwr ieuenctid proffesiynol. Ar ôl priodi yn yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ond gyda phriodas Gatholig Rufeinig, mi wnaethon drio eglwysi anghydffurfiol a rhai Catholig ond roedden ni’n ei chael yn anodd. Yn y diwedd mi fues i’n dysgu plant ficer Cryw ac roeddwn yn hoff o’r teulu. Mi ddes i â’m merch hynaf i gael ei bedyddio yno a roedden ni’n ei hoffi! Yna mi symudon ni i dref newydd Peterborough a mynd i’r eglwys unedig ac fel mae’n digwydd ficer Anglicanaidd oedd yno ar y pryd ac roedd yr eglwys yn wych. A dyna ni’n Anglicaniaid!
Beth mae cael eich trwyddedu yn ei olygu i chi?
Mae’n gadarnhad o bopeth rwyf wedi’i wneud drwy gydol fy mywyd fel oedolyn. Mae gwneud y cwrs, ac yn enwedig bod â Chyfarwyddwr Ysbrydol, wedi herio fy mywyd gweddi ac wedi fy helpu i wneud yr hyn dwi’n ei wneud yn well. Mae’n fwy o gyfrifoldeb.
Beth mae eich ffydd yn ei olygu i chi? Sut beth fyddai bod heb ffydd?
Fyddwn i ddim yma. Mae fy ffydd yn golygu popeth i mi. Dyna’r ‘yno’, dyna’r gwybod yna. Mae mor arbennig a phwysig gwybod y bydd Duw yn eich helpu. Dydw i’n ddim byd heb Dduw.
Pe byddai rhywun yn dweud wrthych eu bod am gynnig mwy, beth allech chi ddweud wrthyn nhw?
Ewch amdani ond peidiwch â mynd amdani’n fyrbwyll. Gwrandewch ar yr hyn mae pobl eraill a’r Hollalluog yn ei ddweud. Os mai dyma’r peth iawn, mi gewch chi’r nerth i’w gyflawni.
Hollalluog a thragwyddol Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys: gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Licensing and Ordinations 2021: Roz Harrison
This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, 14 dedicated, gifted people were ordained or licensed for ministry.
They are called to “build up the body of Christ until all of us come to the unity of the faith and of the knowledge of the Son of God” (Ephesians 4).
That is their common task – but each also have their own personal stories about God’s call on their lives.
Here, we talk to Roz about her vocation as a Family Minister.
Tell me a bit about yourself.
The trouble is, when you’re old how long have you got?! I’ve been married for nearly 48 years and we still speak to each other. I enjoy baking except it’s fattening. I’m very keen on swimming and missed it when everything was shut down. I’m a bit past going in the sea but, if it’s quiet in the pool, I enjoy saying my prayers when I swim. I also walk a lot. Some of the best walks have been with friends when it’s been chucking it down with rain. I’ve always devoured books. I’m fascinated by what people do and how they live. I’m a Governor at San Sior School here in Llandudno. I’m also a Bishop’s Visitor for St Asaph Diocese, both of which are lovely because I still get to see the children.
What’s your favourite biscuit?
Mary Berry’s Homemade Shortbread.
Where did it all begin for you?
I’m a lifelong Christian. When I was about six, I decided I wanted Jesus in my life. I was brought up in the United Reformed Church and stayed there until I got married. I always wanted to be a teacher and I was a Sunday School leader from about the age of 10. While I was at West Hill College in Birmingham I had the misfortune to meet someone on the youth work course. That’s Mike, my husband, and I just worked with him and it was marvellous. When he moved to Crewe and District Youth Centre, the youth work there was huge with over 1000 young people a week. I was working at the school next door. I was able to do my work and go to the club afterwards and get to know the youngsters.
Tell me about Junior Church in Llandudno. How did that come about?
We used to take our grandson to church with us and we attended Sunday School together. I ended up leading the group but always felt that the worship element was missing ,it was always such a rush and the clergy could never get to know the families. When the new Vicar came we decided to try Junior Church. The families came and worshipped together - as a family. It was always linked with the liturgy and it was extremely effective. We moved it online during the pandemic and it’s been really successful with more people online than we had in person.
What brought you into the Anglican family?
That’s an interesting question. When I met my husband he was devout Roman Catholic and was training to be a professional youth worker. After getting married in the United Reformed Church but with a Roman Catholic wedding, we tried non-conformist and Catholic churches but we found it difficult. Eventually I ended up teaching the vicar of Crewe’s children and I liked the family. I brought my eldest daughter to be baptised there and we liked it! We then moved to Peterborough new town and went to the united church which just happened to have an Anglican vicar at the time and it was fantastic. Hey-ho we’re Anglicans!
What does being licensed mean to you?
It’s an affirmation of everything I’ve done throughout my adult life. Doing the course, and particularly having a Spiritual Director has really challenged my prayer life and has helped me to do what I do better. It’s a bigger responsibility.
What does your faith mean to you? What would it be like if you didn’t have faith?
I wouldn’t be here. My faith means everything to me. It’s that ‘there’, it’s that knowing. It’s so special and important knowing that God will help you. I am nothing without God.
If someone were to tell you they wanted to offer more, what might you say to them?
Go for it but don’t just go at it hammer and tongs. Listen to what others and the Almighty’s saying. If it’s the right thing you’ll be given the strength to carry it through.
Almighty and everlasting God, by whose Spirit the whole body of the Church is governed and sanctified: hear our prayer which we offer for all your faithful people, that in their vocation and ministry they may serve you in holiness and truth to the glory of your name; through our Lord and Saviour Jesus Christ, who is alive and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, God for ever and ever. Amen.