Cadeirlan i agor fel Canolfan Frechu
Mae Esgob Bangor, Andy John, yn falch o gyhoeddi y bydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor o ddydd Mawrth 6 Gorffennaf yn gartref i dîm brechu Covid-19 y GIG.
Mae Cadeirlan Deiniol Sant wedi bod yng nghanol Bangor ers bron i 1,500 o flynyddoedd, ac wedi bod yn le o weddi, harddwch, sancteiddrwydd a lletygarwch, ac mae'r lletygarwch hwn bellach yn cael ei estyn i bawb, o bob rhan o'n cymuned, a fydd yn dod i'r Gadeirlan i gael eu brechu.
Wrth groesawu pawb i’r Gadeirlan, meddai’r Esgob,
Mae’n hollbwysig i ni gael ein brechu. Ac fe fydd pawb, o bob rhan o'n cymuned ni, yn cael eu croesawu trwy'r drysau fel rhan o’r ymdrech. Mae Cadeirlan Deiniol Sant yma i bob un ohnom ni.
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen frechu ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cathedral to open as a Vaccination Centre
The Bishop of Bangor, Andy John, is pleased to announce that from Tuesday 6 July St Deiniol’s Cathedral in Bangor will be a home to the NHS Covid-19 vaccination team.
St Deiniol’s Cathedral been at the heart of Bangor for almost 1,500 years, and has been a place of prayer, beauty, holiness and hospitality, and this hospitality is now being extended to all, from across our community, who will come to the Cathedral to be vaccinated.
Welcoming all to the Cathedral, the Bishop said,
We need to get ourselves vaccinated. And everybody, from across our community, will be welcomed through our doors over the coming months. St Deiniol’s Cathedral is here for us all.
More information on the vaccination programme can be found on Betsi Cadwaladr University Health Board’s website.