minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Trwyddedu ac Ordeinio 2021: Zoe Hobbs

Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, cafodd 14 o bobl ymroddedig, dawnus eu hordeinio neu eu trwyddedu i weinidogaethu.

Fe’u gelwir i “adeiladu corff Crist fel y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i’r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw” (Effesiaid 4).

Dyna’u tasg ar y cyd – ond mae gan bob un hefyd eu straeon personol eu hunain am alwad Duw ar eu bywydau.

Yma, cawn sgwrs â Zoe am ei galwedigaeth fel Gweinidog Teulu.


Dywedwch ychydig wrtha’i amdanoch eich hun.

Ystyr fy enw ydi bywyd felly mae hynny'n lle da i ddechrau. Rôn i wastad wedi bod eisiau creu cartref croesawgar a bod yn gymdeithasgar. Dwi ddim yn un o’r bobol hynny sy’ angen bod yn or-gymdeithasol a bod allan drwy'r amser ond dwi yn mwynhau hynny. Dwi wrth fy modd yn gofalu am bobl ac yn dangos cariad atyn nhw a bod ar eu tonfedd. Dwi'n mwynhau bod yn egnïol, dwi angen cael allan o’r tŷ neu fel arall byddwn i'n anobeithiol. Mi ges i fy magu ar aelwyd lle roedd fy nheulu’n rhieni maeth felly dwi wedi arfer efo pobol yn mynd a dod drwy'r amser. Bydden ni bob amser yn cael pobol draw i fwyta ar ddydd Sul. Mi wnaeth hynny liwio pwy ydw i heddiw.

Beth am ddechrau efo cwestiwn hawdd - pa un ydi’ch hoff fisgeden?

Dwi ddim yn gwirioni ar fisgedi. Dach chi’n gwybod y rhai ’na rydych chi’n eu cael mewn tun gyda haen drwchus iawn o siocled – dwi’n hoffi’r rheini.

Sut ddechreuodd y daith i’r fan yma?

Wel go iawn mae fy ffydd wedi bod yn rhan o fy mywyd yr holl ffordd drwodd. Roedd yr Eglwys bob amser yn rhan naturiol o ’mywyd. Pan oeddwn yn yr ysgol roeddwn am ymuno â’r heddlu ond mi wnes i benderfynu bod angen blwyddyn neu ddwy allan arna’i cyn ymuno. Felly dyma Mam a Dad yn edrych drwy eu papur newydd Christian Herald ac roedd hysbyseb ar gyfer CCI (Christian Camping International). Es i ar eu gwefan a rhoi fy enw i lawr fel gwirfoddolwr a chael gwybodaeth am yr holl wahanol ganolfannau yma. Fe wnes i gais am ddau le. Roedd un yn Dartmoor a’r llall ym Min y Don yn Arthog. Roeddwn i’n meddwl y byddai’n haws ac y byddai Duw yn cynnig un lle yn unig ond daeth e-bost o’r ddau le ar yr un pryd ac roeddwn i fel, "Na!" - rŵan byddai’n rhaid i mi ddewis ond rôn i’n dal i ofyn i Dduw lle roedd o am i mi fynd. Roedd Min y Don yn fwy o le ar gyfer teuluoedd. Hefyd, mi fyddwn i’n gallu cerdded ar draws i Bermo lle’r oedd ’na ryngrwyd. Roedd yn llai anghysbell na Dartmoor (!) felly mi es i i Fin y Don. Ar ôl ychydig fisoedd roeddwn i’n gwybod bod hynny’n hollol gywir.

Beth ddaeth â chi i’r eglwys Anglicanaidd?

Roedd Min y Don i gyd ar y safle ac yn swigen hyfryd iawn i fod ynddi ond doeddech chi ddim wir yn mynd allan ac yn cysylltu â’r byd o gwmpas er, drwy ein gwaith, roedden ni’n ymwneud llawer ag Eglwys Fedyddiedig Tywyn, yn rhedeg y grŵp ieuenctid a’r Ysgol Sul ac yn chwarae cerddoriaeth. Mi wnes i gyfarfod â Steve yno, a mi wnaethon ni briodi a chael byw oddi ar y safle ac roedd hynny’n gyffrous. Mi ddaethon ni o hyd i dŷ yn Fairbourne ac roedden ni wir yn teimlo ein bod yn cael ein galw i fod yn rhan o’r eglwys leol. Roedd nifer o ficeriaid yn yr ardal roedden ni’n dod ymlaen yn dda iawn efo nhw wrth i ni sefydlu clybiau newydd ac roedden ni wir yn mwynhau bod yn rhan o’r gwasanaethau teuluol. Mi fyddai’n hyfryd eu gweld yn dechrau eto.

Sut wnaethoch symud o fod yn helpu i gael eich trwyddedu a beth allai hynny ei olygu i chi?

O, roedd hynny’n gwbl annisgwyl. Ond amseriad Duw oedd o mae’n amlwg. Rydyn ni ar ffyrlo ar hyn o bryd a fydden ni fel arfer ddim ag amser i wneud hyn felly mi benderfynais ’mod i’n mynd i’w wneud, dyma’r adeg orau felly roeddwn i’n bendant yn teimlo llaw Duw yn y peth. Dwi’n edrych ymlaen at weld pa ddrysau allai agor. Rhywbeth sydd wedi bod ar fy nghalon erioed ydi undod yr holl ffordd ar hyd yr arfordir ac mi fyddwn wrth fy modd yn bod yn rhan o wneud i hynny ddigwydd hyd yn oed os mai dim ond rhywbeth unwaith y mis fyddai o. Dwi’n adnabod y rhan fwyaf o’r Cristnogion yn y cymunedau llai ar hyd yr arfordir felly gallai fod rhai cyfleoedd yno. Mae jest rhaid i ni weld beth mae Duw wedi’i gynllunio.

Beth mae eich ffydd yn ei olygu i chi?

Ffydd ydi popeth i mi. Dydw i ddim yn siŵr y byddwn i’n gallu para o ddydd i ddydd heb y ffydd yna. Mae’n fater o fod yn deulu jest yn bod yn dystion yn ein cymdogaeth. Ffydd ydi fy ngobaith ac alla’i ddim aros i fynd i’r nefoedd! Mae wedi bod yn gyffrous gweld sut mae Duw wedi bod yno ar hyd y ffordd. Roedd Steve yn ddifrifol wael efo canser ychydig flynyddoedd yn ôl ac rydych chi’n edrych yn ôl ar y sefyllfaoedd hynny ac yn gweld llaw Duw yno. Mi wnaethon ni deimlo cymaint o heddwch ar un adeg yn ystod triniaeth Steve, fel pe bai’n marw mai amseriad Duw fyddai hynny ac y bydden ni’n ei dderbyn - ond bod Duw hefyd yn Dduw sy’n iacháu. Gall pethau fynd y ddwy ffordd, gallwch chi naill ai gael eich llethu gan y pwysau neu wir deimlo presenoldeb Duw ac felly i mi mae’n golygu ceisio gwneud yn siŵr ’mod i’n gweld Duw yn yr holl bethau bychain ac yn ei gydnabod o.

Pe bai rhywun yn dweud wrthych chi eu bod yn meddwl bod Duw am iddyn nhw gynnig mwy beth allech chi ei ddweud wrthyn nhw?

Mae’n dda gweddïo a cheisio arweiniad Duw. Gofynnwch i bobol eraill weddïo efo chi am y peth fel y byddwch yn gwybod ei fod o’n dod oddi wrth Dduw ac nid eich agenda chi’ch hun a gwnewch yn siŵr ei fod am y rhesymau iawn.


Cymraeg

Licensing and Ordinations 2021: Zoe Hobbs

This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, 14 dedicated, gifted people were ordained or licensed for ministry.

They are called to “build up the body of Christ until all of us come to the unity of the faith and of the knowledge of the Son of God” (Ephesians 4).

That is their common task – but each also have their own personal stories about God’s call on their lives.

Here, we talk to Zoe about her vocation as a Family Minister.


Tell me a bit about yourself.

My name means life so that’s a good place to start. I’ve always wanted an open house and to be sociable. I’m not one of those who needs to be super sociable and out all the time but I do enjoy it. I love caring for people and loving them and being on their wavelength. I enjoy being active, I need to get out and about otherwise I’d be hopeless. Growing up my family were foster parents so I’m used to people coming and going all the time. We’d always have people coming round for food on Sundays. That shaped who I am.

Let’s start with an easy question - what’s your favourite biscuit?

I’m not a fan of biscuits. You know the ones you get in a tin with a really thick layer of chocolate – I like that one.

How did your jouney to here begin?

Well very much, my faith has been a part of my life all the way through. Church was always a natural part of my life. When I was in school I wanted to join the police force but I decided that I needed a year or two out before joining. So, Mum and Dad looked through their Christian Herald newspaper and there was an advert for CCI (Christian Camping International). I went on their website and put my name down as a volunteer and had information about all these different centres. I applied for two places. One was in Dartmoor and the other at Min y Don in Arthog. I thought it would be easier and that God would offer just one place but there were emails from both at the same time and I was like, “No!” Now I had to choose but kept asking God where He wanted me. Min y Don was more of a family orientated place. Also, I could walk across to Barmouth where there was internet. It was less remote than Dartmoor(!) so I went to Min y Don. After a few months I knew it was absolutely right.

What brought you into the Anglican church?

Min y Don was all on site and a really lovely bubble to be in but you didn’t really go out and connect with the outside world though, through our work, we were heavily involved in Tywyn Baptist Church running the youth group and the Sunday School and playing music. I met Steve there, we got married and got to live off-site which was exciting. We found a house in Fairbourne and really felt called to be a part of the local church. We had different vicars there who we got on really well with and set up new clubs and really enjoyed being part of the family services. It would be lovely to see them start again.

How did you move from helping out to being licensed and what might that mean for you?

Oh, that was totally out of the blue. But it was very much God’s timing. We’re on furlough at the moment and I wouldn’t usually have the time to do this so decided that if I’m going to do it, this is the best time so I very much felt God’s hand in it. I’m excited to see the possibilities that it could open up to. Something that has always been on my heart is unity all the way along the coastline and I’d love to be a part of making that happen even if it’s just something once a month. I know most of the Christians in the smaller communities all the way down the coast so there could be some opportunities. We just have to see what God’s got planned.

What does your faith mean to you?

Faith is everything to me. I’m not sure I’d get through day to day without it. It’s just as a family being a witness in our neighbourhood. It’s my hope and I can’t wait to go to heaven! It’s been exciting to see how God has been there all the way through. Steve was seriously ill with cancer a few years ago and you look back at those situations and see God’s hand. We felt such a peace at one point in Steve’s treatment that if he were to die that it was God’s timing and we would accept it but that God is also a God who heals. It can go both ways, you can either get super stressed or actually really sense God’s presence and so for me it’s trying to make sure I see God in all the little things and acknowledge Him.

If someone were to tell you they thought God wanted them to offer more what might you say to them?

It’s good to pray and seek God’s guidance. Have others pray with you about it so that you know it’s from God and not your own agenda and make sure it’s for the right reasons.