minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Trwyddedu ac Ordeinio 2021: Vicky Ford

Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, cafodd 14 o bobl ymroddedig, dawnus eu hordeinio neu eu trwyddedu i weinidogaethu.

Fe’u gelwir i “adeiladu corff Crist fel y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i’r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw” (Effesiaid 4).

Dyna’u tasg ar y cyd – ond mae gan bob un hefyd eu straeon personol eu hunain am alwad Duw ar eu bywydau.

Yma, cawn sgwrs â Vicky am ei galwedigaeth fel Gweinidog Bugeiliol.


Dywedwch ychydig wrtha’i amdanoch eich hun.

Dwi wedi ymddeol ers bron i wyth mlynedd bellach ar ôl gweithio mewn addysg y rhan fwyaf o ’mywyd. Dwi wedi bod yn briod â Harry ers bron i 47 mlynedd. Mae gennym ddau o blant mewn oed a phedwar o wyrion. Roedden ni’n byw ym Manceinion ac roeddwn bob amser yn treulio gwyliau yng Ngogledd Cymru pan oeddwn yn blentyn. Pan oedd ein plant ninnau’n fach, roedd gan fy rhieni le bach ym Mhen Morfa felly roedden ni’n treulio’n holl wyliau yno ac yn ymweld â holl gestyll Cymru ac ati ac wedyn mi aethon ni i’r holl gestyll eto efo plant ein merch a dan ni’n edrych ymlaen at ddechrau eto efo’r plantos eraill!

Roeddwn i’n arfer mynd i’r gampfa cyn y cyfnod clo. Roeddwn i hefyd yn arfer mynd i glwb celf bob wythnos, nid fy mod i’n rhyw dda iawn, ond roedden nhw’n glên iawn efo fi. Doedd o ddim yn rhywbeth roeddwn i wedi’i wneud erioed o’r blaen ond mi wnaeth rhywun o’r eglwys fy ngwahodd ac mi roddais gynnig arni. Rydyn ni’n mwynhau cerdded a bod allan yn yr awyr agored.

O fod yn bennaeth ysgol a gwirfoddoli yn yr eglwys i gael eich trwyddedu. Sut y digwyddodd hynny?

Cefais sgwrs â Siôn – fo ydi’r curad yma – ac mi eglurodd beth oedd yn ei olygu ac roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n rhoi cynnig arni. Dyna sut y digwyddodd o mewn gwirionedd. Dyna’r union beth dwi’n ei wneud yn yr eglwys – doeddwn i erioed wedi ei ystyried o’n unrhyw fath o weinidogaeth. Rhywun arall wnaeth adnabod hynny ynof i. Bues i’n meddwl yn hir ac yn ddwys. Oes gen i mewn gwirionedd y gallu, ac a ydw i’n ‘ddigon da’ i wneud hyn? "Pam fi?" Byddai’n gam mawr ymlaen ond wrth i amser fynd heibio mi ddes i feddwl mai dyma’r peth iawn i’w wneud ac y byddai popeth yn gweithio’n iawn. Mae tair ohonon ni gyda’n gilydd yma ac felly rydyn ni’n gallu trafod y peth efo’n gilydd ac annog ein gilydd. Rhywbeth ddwedodd rhywun wrtha’i sawl blwyddyn yn ôl oedd, "Rydyn ni’n byw fel adlewyrchiad o’r hyn sydd wedi bod o’r blaen a rhagarwydd o’r hyn sydd i ddod." Dwi’n credu mai dyna lle rydw i ar hyn o bryd mewn rhai ffyrdd – mae cyfnod cyffrous o’n blaenau!

Beth mae eich ffydd yn ei olygu i chi?

Rhaid dweud yn y lle cyntaf bod fy ffydd wedi amrywio dros y blynyddoedd. Fel plentyn, roeddwn bron â’i chymryd yn ganiataol. Dyna oedd pawb yn ei wneud. Pan oeddwn tuag un ar ddeg oed, dechreuais gwestiynu fy ffydd ychydig. Roedd rhai o’m ffrindiau’n mynd i gael eu conffyrmio a doeddwn i ddim yn siŵr mai dyna oedd yn iawn i mi ar y pryd ac felly fe wnes i gamu’n ôl ychydig. Roedd gen i ffydd o hyd ond doeddwn i ddim yn hollol siŵr. Yn hytrach na gwneud addewidion doeddwn i ddim yn teimlo eu bod yn gant y cant wnes i ddim mynd amdano. Yna pan oeddwn tua 30 oed ac wedi mynd yn ôl i’r eglwys efo’r plant, cyhoeddodd yr eglwys eu bod yn mynd i gynnal cwrs conffyrmasiwn ar gyfer oedolion. Penderfynais bryd hynny yr hoffwn gael fy nghonffyrmio a theimlwn yn iawn gyda’m ffydd.

Heddiw, ffydd i mi ydi craidd popeth. Galla i ddweud yn onest mod i ar adegau wedi meddwl, "Nid dyna wnes i weddïo amdano", ond wedyn mae wedi bod yn ganlyniad gwell na’r hyn roeddwn i wedi bod yn gweddïo amdano. Ac mae dim ond bod yn ddiolchgar yn gwneud i mi sylweddoli pa mor lwcus ydyn ni, i fod â chymaint o ddaioni yn ein bywydau, i fod â ffydd, i gael Iesu’n cerdded wrth ein hochor ni ac i fod â Duw sy’n ein caru. Mae gennym gymaint o ddaioni yn ein bywydau y dylen ni ei rannu a’i drosglwyddo i eraill.

Pam Gweinidogaeth Fugeiliol?

Dyma’r weinidogaeth y dywedwyd wrtha’i amdani a’r un ges i fy annog i fynd amdani! Mae hi braidd yn annelwig mewn rhai ffyrdd oherwydd gall fod yn dipyn bach o hyn a dipyn bach o’r llall. Rydyn ni’n cael llawer o ymwelwyr yn ystod yr haf a dach chi ddim yn gwybod beth ydi eu sefyllfa nhw. Ydyn nhw angen rhywun i estyn allan atyn nhw? Ydyn nhw angen rhywun i siarad â nhw? Efallai y gallwn roi rhywbeth iddyn nhw na allan nhw ei gael unrhyw le arall. Dydych chi jest ddim yn gwybod. Pan oedd ein plant yn fach, roeddwn yn rhedeg grŵp gofal gwirfoddol a dwi’n gweld hyn yn debyg mewn rhai ffyrdd i’r hyn roedden ni’n ei wneud yno gyda’r henoed, pobol fregus, rhieni a phlant bach... roedden ni’n cwmpasu popeth. Mi wnaethon ni weithio’n agos iawn efo llawer o bobol oherwydd ein bod yn helpu yn yr ardal leol. Dechreuodd y Rheithor, Pennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a finnau ddeialog tair ffordd i wella pethau i bobol. Mi alla i weld rhai elfennau o hynny’n dod i mewn i’r hyn y gallwn ni ei wneud yma. Os oes rhywbeth arall dwi fod yn ei wneud mi wna i roi cynnig arno.

Pa wahaniaeth, os o gwbl, ydych chi’n meddwl y bydd cael eich trwyddedu yn ei wneud?

Hoffwn i feddwl y bydd yn gwneud i mi deimlo ychydig yn fwy hyderus i roi cynnig ar bethau newydd ond dydw i ddim wir yn gwybod sut y bydd yn fy newid i. Allwn ni ddim newid llawer ar hyn o bryd beth bynnag ond mae’n ansicr sut fydd pethau o fis Medi ymlaen.

Pa un ydi’ch hoff fisgeden?

Mae fy chwaer yn gwneud llawer o bobi ac yn ddiweddar anfonodd rai ataf yn y post pan oeddwn yn sâl. Roedd rhai wedi’u gwasgu braidd ond roedd y mwyafrif yn iawn. Felly byddai’n rhaid i mi ddweud bisgedi ffrwythau a chnau fy chwaer.

Pe bai rhywun yn dweud wrthych eu bod yn meddwl bod Duw am iddyn nhw gynnig mwy, beth allech chi ei ddweud wrthyn nhw?

Gweddïwch amdano a gweld beth yn union allwch chi ei gynnig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnig yr hyn sydd ei angen ar bobol mewn gwirionedd yn hytrach na’r hyn rydych chi’n meddwl sydd ei angen arnyn nhw.


Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys: gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Cymraeg

Licensing and Ordinations 2021: Vicky Ford

This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, 14 dedicated, gifted people were ordained or licensed for ministry.

They are called to “build up the body of Christ until all of us come to the unity of the faith and of the knowledge of the Son of God” (Ephesians 4).

That is their common task – but each also have their own personal stories about God’s call on their lives.

Here, we talk to Jan about her vocation as a Pastoral Minister.


Tell me a bit about yourself.

I’ve been retired coming up to 8 years now having worked in education most of my life. I’ve been married to Harry for nearly 47 years. We’ve got two grown up children and 4 grandchildren. We lived in Manchester and I always spent holidays in North Wales as a child. When our children were small, my parents had a little place on the West shore so we spent all our holidays there and did all the Welsh castles etc and then we did all the castles again with our daughter’s children and are looking forward to starting again with the other little ones!

I used to go to the gym before lockdown. I also used to go to an art club each week, not that I’m any good, but they were very nice to me. It’s not something I’d ever done before but someone from church invited me and I gave it a go. We enjoy walking and being out and about.

From being a headteacher and volunteering for the church to being licensed. How did that come about?

I had a conversation with Siôn, who is the curate here, and he explained what it was all about and I thought I’d give it a go. That’s really how it happened. It’s just what I do at church - I’d never considered it any kind of ministry. It was someone else recognising it in me. I thought long and hard. Am I actually equipped and ‘good enough’ to do this? “Why me?” It was a big step up but as time progressed I thought it was the right thing to do and that it would work out. There are three of us together here and so we’re able to talk it through together and encourage each other. Something someone said to me several years ago is, “We live as a reflection of what’s gone before and in anticipation of what’s to come.” I think this is where I’m at now in some ways - exciting times ahead!

What does your faith mean to you?

My faith has varied over the years, I hasten to say. As a child I almost took it for granted. It’s what everybody did. When I was 11 or so I began to question it a bit. A few friends were going for confirmation and I wasn’t sure it was for me at the time and so I stepped back a bit. I still had a faith but I just wan’t quite sure. Rather than make promises I didn’t feel were 100% I didn’t go for it. Then when I was about 30 and had gone back to church with the children, the church announced they were going to run a confirmation course for adults. I decided at that point I would like to be confirmed and felt right with my faith.

Faith to me now is the core of everything. I can honestly say at times I’ve thought, “That’s not what I prayed for,” but then it’s been a better outcome than I’d been praying for. And, just being thankful makes me realise how lucky we are, to have so much good in our lives, to have a faith, to have Jesus walk beside us and to have a God who loves us. We have so much good in our lives that we should share and pass on to others.

Why Pastoral Ministry?

It’s the one I was told about and encouraged to go for! It’s rather an amorphous one in some ways because it can be little bit of this and a little bit of that. We get a lot of visitors during the summer and you don’t know where they are coming from. Do they need someone to reach out to them? Do they need someone to talk to? Maybe we can give them something they can’t obtain elsewhere. You just don’t know. When our children were little I ran a voluntary care group and I see it some ways dove-tailing with what we did there with the elderly, vulnerable, parents and toddlers... we encompassed the whole thing. We worked very closely with a lot of people because we were helping in the local area. The Rector, the head of Social Services and I started a 3 way dialogue to improve things for people. I can see some elements of that coming into what we can do here. If there’s something else I’m supposed to be doing I’ll have a go at it.

What difference, if any, do you think being licensed will make?

I’d like to think it’ll make me feel a bit more confident to try new things but I don’t really know how it’ll change me. We can’t change much at the moment anyway but moving forwards into September and beyond is uncertain.

What’s your favourite biscuit?

My sister does a lot of baking and she recently sent me some in the post when I was unwell. Some were a bit crushed but the majority were fine. So I’d have to say my sister’s fruit and nut cookies.

If someone were to tell you they thought God wanted them to offer more what might you say to them?

Pray about it and see what it is you can offer. Make sure you are offering what people actually need rather than what you perceive them to need. 


Almighty and everlasting God, by whose Spirit the whole body of the Church is governed and sanctified: hear our prayer which we offer for all your faithful people, that in their vocation and ministry they may serve you in holiness and truth to the glory of your name; through our Lord and Saviour Jesus Christ, who is alive and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, God for ever and ever. Amen.