Gosteg wedi'r storm
Bro Moelwyn yn ennill £1500
Mae Eglwys Y Drindod Sanctaidd wedi ennill gwobr £1500 fel Enillydd Rhanbarthol Cymru yng nghystadleuaeth y cwmni Ecclesiastical Insurance, gyda’u syniad o greu gardd dawelwch i fyfyrio ynddi a chofio’r bywydau a gollwyd yn ystod y pandemig Covid. Bydd yr ardd, sydd y tu cefn i Eglwys y Drindod Sanctaidd ym Mhenrhyndeudraeth, yn cynnwys gwelyau uchel ar gyfer blodau a llysiau a fydd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwynion, ardal eco gadwraeth ar gyfer addysg, a meinciau i eistedd arnynt a mwynhau golygfeydd o aber afon Dwyryd.
Bydd yr eglwys nawr yn ymddangos ynghyd â 4 o ranbarthau eraill y Deyrnas Unedig yn y rownd derfynol yn Llundain ym mis Mai 2022.
Meddai Angela Swann, ysgrifennydd yr Eglwys:
Cafodd y syniad o ardd yn y dref brysur y gall pawb ymweld â hi i orffwys a myfyrio ar y ddwy flynedd ddiwethaf ei ystyried beth amser yn ôl, ond yr hyn a’n sbardunodd i wireddu’r cam cyntaf hwn oedd y cyfle i roi cynnig ar y gystadleuaeth hon, ynghyd â chefnogaeth Cymdeithas y Cerddwyr a’r cynllun gwneud iawn â’r gymuned, a busnesau a thrigolion y dref.
Mae’r ffotograff uchod yn dangos grŵp o aelodau cynulleidfa’r eglwys a phlant o’r Clwb Dydd Sadwrn.
I roi eich pleidlais i’r ardd cliciwch yma i fynd at wefan Ecclesiastical Insurance.
Cewch fwrw eich pleidlais am ddim, mae’r criw yn gwerthfawrogi’n arw, a bydd yn helpu tuag at rownd derfynol y gystadleuaeth.
Cliciwch ar y botwm ‘Show Your Support’ a dyna ni, rydych wedi pleidleisio
Ceir manylion pellach gan Angela Swann
Peace after the storm
Bro Moelwyn wins a £1500 prize
Holy Trinity Church in Penrhyndeudraeth is the Wales Regional Finalist in the Ecclesiastical Insurance company competition with the idea of making a garden of tranquillity to reflect and remember those lives lost during the Covid pandemic. The garden to the rear of Holy Trinity Church, Penrhyndeudraeth will contain raised wheelchair accessible beds of flowers and vegetables, an eco conservation area for education, and benches to sit and enjoy the views of the Dwyryd Estuary.
The church will now feature with 4 other regions of the UK in the final in London in May 2022.
The church secretary, Angela Swann says:
The idea of a garden in the busy town where everyone can visit to rest and reflect on the past two years was considered some time ago, it just took the opportunity to apply to this competition and the support of Ramblers Association and Community Payback Scheme, businesses and residents of the town to realise this first stage.
The photograph shows a group of church congregational members and children from Saturday Club.
To vote for the garden please go to Ecclesiastical Insurance's website.
Votes are free, greatly appreciated and will help towards the final stage of the competition. Just click the 'Show your Support' button on the page.
Further information contact Angela Swann