Cofio COP26 - Allyriadau
Yn 2015, roedd Cytundeb Paris yn sôn am leihau allyriadau i 1.5o a fyddai'n helpu i liniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd ar y byd, ond mae'r cwestiwn yn aros: A yw'n bosibl? Dyma’r targed, ond gallai’r realiti fod yn nes at lwyddo i gyrraedd 2.4o sy’n rhy uchel i wneud unrhyw wahaniaeth a rhwystro cynnydd mewn effeithiau newid hinsawdd.
Luc 6:46-49
Dywedodd Iesu “Pam yr ydych yn galw ‘Arglwydd, Arglwydd’ arnaf, a heb wneud yr hyn yr wyf yn ei ofyn?nPob un sy’n dod ataf ac yn gwrando ar fy ngeiriau ac yn eu gwneud, dangosaf i chwi i bwy y mae’n debyg: Y mae’n debyg i ddyn yn adeiladu tŷ ac wedi cloddio yn ddwfn a gosod sylfaen ar y graig; a phan ddaeth llifogydd, ffrwydrodd yr afon yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni allodd ei syflyd gan iddo gael ei adeiladu yn gadarn. Ond mae’r dyn sy’n clywed, ond heb wneud, yn debyg i ddyn a adeiladodd dŷ ar bridd, heb sylfaen; ffrwydrodd yr afon yn ei erbyn a chwalodd y tŷ hwnnw ar unwaith a dirfawr fu ei gwymp.
Myfyrdod:
Mae’r adnodau o efengyl Luc yn adrodd y stori adnabyddus am y lle gorau i adeiladu tŷ; ac nid ar bridd, nac ar dywod, yw’r lle hwnnw. Mae’n gwneud synnwyr perffaith fod angen sylfaeni da a chryf wrth adeiladu tŷ os yw i wrthsefyll y stormydd sydd o’i flaen. Yn ein byd heddiw, rydyn ni’n gweld fod mwy o lifogydd a gwyntoedd mawr sy'n niweidio'r tir o'n cwmpas, a’n cartrefi hefyd, os nad oes digon o amddiffynfeydd llifogydd ar gael. Wrth i’r byd gynhesu, daw tywydd eithafol fel hyn yn fwy cyffredin.
Wrth edrych yn ôl 30, 40 a mwy o flynyddoedd, roedd y tymhorau yn newid ‘yn eu pryd’ a gellid teimlo'r gwahaniaeth rhyngddyn nhw. Erbyn hyn, mae’n ymddangos fel pe byddai’r tymhorau’n dod yn gymysg; mae elfen o’r haf yn y gwanwyn, o’r gaeaf yn yr hydref a does dim sicrwydd o dywydd poeth a sych yn ystod yr haf.
Myfyriwch ar eich atgofion o’r tymhorau’n newid dros y blynyddoedd a pha mor wahanol mae hynny i’w weld heddiw.
Mae cymaint o allyriadau nwyon yn yr atmosffer nes arwain at batrymau cynyddol tywydd a thymhorau’r flwyddyn na ellir eu rhagweld; ac felly mae lleihau allyriadau niweidiol yn un agwedd bwysig o’r trafodaethau sy’n parhau a fydd yn rhan o COP27 fis Tachwedd.
Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cynnwys nwyon megis carbon deuocsid, methan, ocsid nitrus, osôn; ac yn dod o, ac yn cael eu heffeithio gan, danwydd ffosil, torri coed mewn fforestydd, diwydiant, ceir a ffermio. Maen nhw’n cael eu galw’n nwyon ‘tŷ gwydr’ oherwydd, fel y mae tŷ gwydr yn cadw’r gwres o’r haul i helpu ein planhigion i dyfu, felly hefyd y mae allyriadau nwyon yn cadw'r gwres yn yr atmosffer.
Mae’n debyg mai carbon deuocsid sy'n cael y sylw mwyaf ac mae'n chwarae rhan hanfodol mewn cynnal lefelau ynni'r blaned. Ond, gormod o ddim nid yw dda, ac mae gormod ohono'n cael effaith drychinebus ar ein bywydau. Ers i’r Chwyldro Diwydiannol ddod â pheiriannau a ffatrïoedd, y rheilffyrdd ac yna ceir, mae’r carbon deuocsid yn yr atmosffer wedi cynyddu 50%. Mae gwres yn cael ei gadw gan nad yw’r aer yn gallu dal rhagor o nwyon ac, wrth i fwy ddisgyn gyda’r glaw i’r moroedd, y mwyaf asidig fydd ein cefnforoedd a’n hafonydd.
Mae'n iawn adeiladu ar y tywod, ond, ymhen tipyn bydd y tŷ hwnnw angen sylw a gwaith i’w amddiffyn rhag y stormydd. Heb hynny, bydd y tŷ’n disgyn.
Beth allwn ni ei ddysgu o'r stori hon roedd Iesu’n ei hadrodd i’r rhai oedd wedi casglu o’i amgylch?
Mae’n rhaid adeiladu ffydd ar y graig, fel, pan fyddwn yn wynebu penderfyniadau anodd, salwch neu unrhyw adfyd arall, gallwn aros yn gryf hyd yn oed os ydym ni’n teimlo fel arall. Mae hyn trwy wybod fod Duw gyda ni. Mae Duw gyda ni hyd yn oed pan fyddwn ni’n teimlo na allwn ni wneud fawr ddim i newid ffyrdd y byd na dim a fyddai'n helpu i wyrdroi newidiadau sy’n niweidio’r hinsawdd.
Ac eto, yn a chyda ffydd, rydyn ni i ofalu am y greadigaeth, y rhannau hynny o’r greadigaeth y gallwn ni ei gweld a’r rhannau na allwn ni ei gweld.Efallai, bryd hynny, y byddwn yn gweld y toddi o’r tymhorau i’w gilydd yn dechrau diflannu a hinsawdd gwell yn helpu’r tymhorau i adfer eu ffurf a'u teimlad unwaith eto!
Gweddi:
Dduw yr holl amseroedd a’r tymhorau,
anadla i’r byd frys
i iachau ac i adfer
y byd hwn sydd yn ein gofal.
Am y niwed rydym ni / rwyf i wedi’i achosi
drwy lygryddion ac allyriadau
maddau i mi / ni.
Dduw yr holl amseroedd a’r tymhorau,
anadla i’r byd ddyfnder o gariad
i annog ac ysbrydoli
ymdrech am fyd iachach.
Am y niwed rydym ni / rwyf i wedi’i wneud
helpa fi / ni i adeiladu ar y graig sy'n cynnal,
yn awr ac yn y dyfodol.
Amen.
- Ystyriwch faint ydych chi’n ei yrru. Oes yna rai teithiau nad oes raid i chi eu gwneud neu y gallech gerdded neu fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus?
- Gall rhannu ceir i fynd i gyfarfodydd helpu i leihau allyriadau.
- Mae gyrru ar 60 milltir yr awr yn hytrach na 70 ar draffyrdd yn defnyddio llai o betrol ac yn well i'r amgylchedd.
- Yn hytrach na chadw’r peiriant i redeg wrth ddisgwyl am rywun, diffoddwch y peiriant,
- Ysgrifennwch at eich cyngor lleol yn gofyn beth mae’n ei wneud i leihau allyriadau
- Ysgrifennwch i ofyn i aelodau’r Senedd sut y maen nhw’n mynd i leihau allyriadau a chyrraedd y targed a addawyd yn COP26
- Dysgwch ychydig fwy am ynni gwyrdd.
- Meddyliwch am unrhyw newidiadau y gallech chi ei wneud i helpu i gael byd glanach ac iachach.
Remembering COP26 - Emmissions
In 2015, the Paris Agreement spoke of reducing emissions to 1.5o which would help the worst effects faced by climate change in the world, but the question remains: Is this possible? This is the target but the reality may be closer to achieving 2.4o which is too high to make any difference and prevent an escalation in the effects of climate change.
Luke 6: 46-49
Jesus said, ‘Why do you call me “Lord, Lord”, and do not do what I tell you? I will show you what someone is like who comes to me, hears my words, and acts on them. That one is like a man building a house, who dug deeply and laid the foundation on rock; when a flood arose, the river burst against that house but could not shake it, because it had been well built. But the one who hears and does not act is like a man who built a house on the ground without a foundation. When the river burst against it, immediately it fell, and great was the ruin of that house.’
Reflection:
This passage from Luke’s gospel tells the well-known story of where the best place to build a house is; and it’s not on the sand! It makes perfect sense no doubt that building a house requires good and strong foundations if it is to remain in place when the storms come. In the world of today we are experiencing far more floods and strong gales that do cause damage to the land around us, and to our homes too if flood defences are not adequately in place. As the world warms up, these extremes of weather are becoming more commonplace.
If we think back 30, 40 or more years ago, the seasons changed at their ‘given time’ and the difference between them could be felt. Now, it seems as though there is a blurring of edges between the seasons; as spring has elements of summer, winter of autumn and no longer is hot dry weather guaranteed in summer.
Reflect on your memories of the changing seasons over the years and how different they seem to you today.
The amount of gas emissions in the atmosphere leads to increasingly unpredictable weather patterns and seasons of the year; and so reducing harmful emissions is one important aspect of the ongoing talks that will feature at COP27 in November.
These greenhouse gas emissions include gasses such as carbon dioxide, methane, nitrous oxide, ozone; and come from and are affected, by fossil fuels, the cutting down of forests, industry, cars and farming. They are called ‘greenhouse’ because as a greenhouse traps the heat from the sun inside to help our plants grow, so the gas emissions trap heat in the atmosphere.
Carbon dioxide is probably the gas that gets the most mention and it does play a vital role in the maintaining the energy levels for the planet. Yet we can have too much of a good thing, and too much means it has a disastrous effect upon our lives. Since the Industrial Revolution that brought in machinery and factories, the railways and then cars, the amount of carbon dioxide going into the atmosphere has increased by 50%. Heat is being trapped as the air cannot hold anymore gasses and as more falls with the rain into the seas, the more acidic our oceans and rivers will be.
Building on sand is fine for a while but after time that house will need work done on it to protect it from the storms. If nothing is done the house will fall.
What can we learn from this story Jesus told to those gathered around him?
Faith is to be built upon the rock so that when we are faced by difficult decisions, illness, or any other adversity, we can stay strong even if we feel the opposite. This is knowing that God is with us. God with us even when we feel we can do little to change the way of the world or make an impact that will help reverse the harmful changes effecting the climate.
Yet, in and with faith we are to care for creation, the parts of creation we can see and the parts of it we can’t literally see. Maybe then, we’ll see the blurring of one season to the next begin to fade away as an improved climate helps the seasons take on a more definite shape and feel again!
Prayer:
God of all times and seasons,
breathe into the world an urgency
to heal and restore
this world in our care.
For the harm I/we have caused
through pollutants and emissions,
forgive me/us.
God of all times and seasons,
breathe into the world a depth of love
to inspire and encourage
a striving for a healthier world.
From the harm I/we have caused
help me/us build upon rock that sustains,
now and for the future.
Amen.
- Consider how much driving you do. Are there journeys you don’t need to make or could walk or take public transport instead?
- Car sharing to go to meetings or events can help lesson emissions.
- On motorways driving at 60 miles per hour rather than at 70, reduces the amount of petrol used and is better for the environment.
- Rather than keep the engine running when waiting for someone, turn the engine off.
- Write to local councils to ask what they are doing to reduce emissions
- Write to Senedd members asking them how they are going to reduce emissions and reach the target pledged at COP26
- Learn some more about green energy.
- Think about any changes that you could make to help towards a cleaner and healthier world.