Bwletin Tim Cefn gwlad
Croeso i fwletin tîm materion gwledig Esgobaeth Bangor. Bu’r 12 mis diwethaf yn flwyddyn heb ei thebyg, nid yn unig o ran ystod yr ymgyrchoedd y buom ni’n gysyllteidig a nhw, ond hefyd, yr ymateb bostif a dderbyniom yn y Sioeau Amaethyddol, ffeiriau a marchnadoedd ar hyd a lled yr Esgobaeth a thu draw.
Dechreuodd ein blwyddyn i bob pwrpas ar benrhyn Llŷn gyda ymweliad a sioe amaethyddol Nefyn ar cylch - sioe gynta’r tymor. Mor ddifyr oedd gweld cymaint o glerigwyr lleol wedi dod i gefnogi’r gymuned amaethyddol. Mae gallu presenoli ein hunain mewn sioeau o’r fath yn gyfle euraidd i drafod rol hanfodol yr Eglwys o fewn ein cymunedau yn ogystal a chyfle i sgwrso’n anffurfiol ynghlyn â materion a phrydreron, pryderon sy’n aml iawn yn unigryw i gymunedau gwledig.
Un o uchafbwyntiau y calendr Amaethyddol yma yng Nghymru yw’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, mor braf oedd cael dychwelyd yno mewn haulwen tanbaid i Gaplena ar y maes, yn ogystal a chymryd rhan mewn sawl fforwm i hyrwyddo rôl yr Eglwys yng Nghymru, nid yn unig o fewn ein hardaloedd gwledig ond drwyddi draw.
Yr un oedd y croeso ar faes Sioe Môn eleni a Ffair Gem y Vaynol , ble’r manteiswyd ar y cyfle i hybu sawl prosiect sydd bellach yn dwyn ffrwyth yma yn Môn ac ar draws yr Esgobaeth.
Mae ein partneiaeth a ‘Thir Dewi’ yn mynd o nerth i nerth , a gaf i achub y cyfle i ddiolch i’r trefnwyr yma yn y Gogledd am y croeso twym galon i ymuno a nhw ar eu stondinau mewn sawl Sioe a digwyddiadau drwy gydol yr haf, rydym ni’n gwir werthfawrogi.
Ynghyd â Thai fforddiadwy ar gyfer teuloedd ifanc , trafnidiaeth gyhoeddus anibyniadwy a cysylltiad ‘band eang’ aradeg, mae ‘Iechyd Meddwl’ gwael yn parhau’n broblem gynyddol o fewn y DU, problem sy’n creu pryder mawr. Amcangyfrif fod un ymhob pedwar yn cael ei effithio gan broblemau Iechyd meddwl, yn wir dengys ystadegau diweddar y bu farw 55 o bobl yn y byd amaeth a diwydiannau cysylltiedig drwy hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2021 : mwy nag un ffermwr yr wythnos, y rhan helaethaf o’r rhain yn ffermwyr ifanc!
Ynghyd â DPJ, FCN a nifer o elusenau eraill yma yng Ngymru, mae Tir Dewi yn sefydliad sy’n cefnogi a helpu ffermwyr i oresgyn eu problemau, beth bynnag yr ydynt. Mae eu cefnogaeth am ddim ac yn gyfrinachol heb unrhyw farnu felly, os ydych yn dioddef o Iselder, neu’n poeni am unrhyw aelod o’ch teulu neu gymydog, angen sgwrs ney gyfle i fwrw bol, plis cysylltwch! Mae llinell gymorth am ddim ar gael (0800 121 4722) “does dim rhaid i neb frwydro’n dawel’”.
Mae’n dda gennyf gyhoeddi fod Swyddogion Materion Cefn Gwlad y chwe Esgobaeth bellach yn cyfarfod yn rheoliadd wedi seibant hir yn dilyn yr holl gyfyngiadau a fu oherwydd y pandemig.
Mae bod yn bresenoldeb croesawgar a gweladwy o fewn ein cymunedau gwledig yn rhan annatod o’n Cenhadaeth o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
Fodd bynnag, o ran y tîm ‘materion cefngwald’ o fewn Esgobaeth Bangor, mae yna brinder dybryd o wirfodolwyr mewn rhai ardaloedd yn enwedig felly, yn Ne a Gorllewin yr Esgobaeth. A gaf i felly, annog yn daer unrhyw leygwr neu glerigwr sydd â diddordeb mewn cynorthwyo a’r Genhadaeth hynod bwysig hwn i gysylltu a mi neu y tîm yn Nhy Deiniol. Yn yr un modd os hoffech wybodaeth pellach ynghlyn â unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch ar bob cyfrif - fe fyddai’n dda cael sgwrs.
Gan ddymuno Nadolig Heddychlon, gobeithiol a llawn goleuni i chi bob un.
Llew
llewmoules-jones@esgobaethbangor.net
Rural affairs team bulletin
Welcome to the Diocese of Bangor’s Rural affairs team bulletin. The last 12 months have been like no other, not only in the number of Initiatives we’ve been involved with, but also the wonderfully positive response we have had whilst attending various Agricultural shows, Fairs and Marts.
Our year began to all intents and purposes on the beautiful Llŷn peninsula whilst attending Nefyn show. How wonderful it was to witness so many Church in Wales clergy there to support their local agricultural and rural communities . Being a presence at agricultural shows offers a great opportunity to showcase the work and role of the church within rural communities, as well as opening the door to conversations regarding personal concerns and worries, many of which are unique to rural areas.
One of the highlights of the Agricultural calendar in Wales is the Royal Welsh show held at Builth Wells. What a joy it was to be welcomed back onto to the show field, albeit in extreme heat, not only to informally chaplain for Tir Dewi, but also to participate in many agriculturally related forums promoting the role of the Church in Wales within rural areas .
Equally, the welcome at both the Anglesey Show and the Game Fair held at the Vaynol Estate was wonderfully positive and, yet again, gave us an opportunity to chat and promote the various projects now coming into fruition across the Island and the Diocese.
Our partnership with ‘Tir Dewi’ goes from strength to strength, and can I take this opportunity to thank the organisers here in the North for their willingness to allow us to be a presence at their stands at various shows and events throughout the summer months, it truly is hugely appreciated.
Together with unaffordable housing for young families, poor public transport and slow broadband connection, statistics show that mental health problems remain a huge cause for concern for those who work within agriculture and associated Industries. Statistics show that agriculture still carries one of the highest rates of suicide in England and Wales, with 55 dying last year alone , more than 1 farmer a week, the overwhelming majority being young people!
Along side DPJ, FCN and a host of other charities, Tir Dewi is a Farm support organisation that tries to help farmers to overcome their problems, whatever they may be. Support is free, confidential and without judgement. Therefore, if you are feeling low, worried about another family member or neighbour, or simply feel like a chat or an opportunity to ‘get it off your chest’, then please do contact the free Tîr Dewi helpline (0800 121 4722) “no one needs to struggle in silence”.
I am now pleased to announce that the six Rural affairs Officers from each Diocese are once again meeting regularly following the upheaval caused by the Covid Pandemic.
Being a visual and welcoming presence within our rural communities is without doubt an important part of our Mission within the Church in Wales.
However there remains a huge lack of volunteers willing to join and assist with the work of the Rural Affairs team within the Diocese of Bangor, especially so towards the south and far west of the Diocesan boundary. Can I therefore urge any lay person or clergy who has an interest in joining our small team to either contact myself or the team at Tŷ Deiniol. Furthermore, if you require any further information regarding any of the matters discussed above, please do not hesitate to get in touch - it truly would be good to chat.
Wishing each and everyone of you a peaceful, hopeful and light-filled Christmas.
Llew
llewmoules-jones@esgobaethbangor.net