Sul y Galwedigaethau - Adolygiad Llyfr
Being Disciples - Rowan Williams
Gan James Tout
Mae'n orchwyl anodd yn aml iawn pan fydd rhywun yn gofyn i chi awgrymu llyfr. Rydych eisiau sicrhau bod y llyfr a awgrymwch yn addas i'r sawl sy'n gofyn. Rydych eisiau sicrhau ei fod yn ennyn eu diddordeb a'u mwynhad a hefyd yn cyfleu neges neu stori sy'n aros yn y cof fel eu bod nhw efallai, yn eu tro, yn ei awgrymu i rywun arall.
Un llyfr yr wyf yn ei argymell dro ar ôl tro yw ‘Being Disciples’ gan gyn Archesgob Caergaint a Chymru, yr Esgob Rowan Williams, yn enwedig os bydd rhywun yn gofyn i mi awgrymu llyfr sy'n gysylltiedig â disgyblaeth neu alwedigaeth.
Mewn llyfr sy'n daith wib, hynod o fyr o lai na naw deg o dudalennau, mae'r Esgob Rowan yn llwyddo i gyfleu myfyrdodau eithriadol o rymus sy'n procio'r meddwl ar chwe thema sy'n gysylltiedig â disgyblaeth a galwedigaeth, sef, (i) Bod yn ddisgyblion, (ii) Ffydd, gobaith a chariad, (iii) Maddeuant, (iv) Sancteiddrwydd, (v) Ffydd mewn cymdeithas a (vi) Bywyd yn yr Ysbryd. Yn cloi pob thema mae cwpwl o gwestiynau i fyfyrio arnynt, neu'n well na hynny, i'w trafod âphobl eraill.
Mae'r Esgob Rowan yn disgrifio'r llyfr fel un eithaf syml: 'Mae nod y llyfr bach hwn yn syml: eich helpu i weld yn eglurach, caru'n anwylach a dilyn yn agosach at ffordd Iesu Grist.' Dyma yw'r alwad i ni i gyd, ein galwedigaeth fel Cristnogion yw symud yn agosach at ein Duw, fel y gallwn rannu'r cariad adfywiol hwnnw gyda phawb y byddwn yn cwrdd â nhw yn ein bywydau dyddiol.
Waeth beth yw ein galwedigaeth, p'un a yw'n alwad i'r weinidogaeth gyhoeddus ai peidio, mae oll wedi ei wreiddio yn ein disgyblaeth. Dyma yw sail ein bodolaeth, neu fel y mae'r Esgob Rowan yn ei nodi yn ei lyfr ‘Mae disgyblaeth, fel y dengys teitl y llyfr hwn, yn gyflwr o fodolaeth. Mae disgyblaeth yn ymwneud â'r ffordd yr ydym yn byw; nid y penderfyniadau a wnawn yn unig, nid y pethau a gredwn yn unig, ond cyflwr o fodolaeth.’[1]
Felly, rwy'n argymell y llyfr hwn i chi gyda'r holl anesmwythyd a nodais ar y dechrau, gyda'r addewid y bydd yn ennyn eich diddordeb a'ch mwynhad ac yn cyfleu negeseuon a fydd yn parhau.
[1] Rowan Williams, Being Disciples, Llundain, SPCK, 2016, Tud1.
Vocations Sunday - Book Review
Being Disciples - Rowan Williams
by James Tout
It’s often a difficult task when someone asks you for a book suggestion, you want to make sure that what you suggest is suited to the person asking. You want to make sure that it piques their interest, keeps them engaged, and also imparts a message or story that lasts so that they may, in turn, suggest it to someone else.
One book that I recommend time and time again is ‘Being Disciples’ by the former Archbishop of Canterbury and Wales, Bishop Rowan Williams, especially if someone is asking for a book suggestion to do with discipleship or vocation.
In what is a very small, whistle-stop tour of under ninety pages, Bishop Rowan is able to distil some thought-provoking and incredibly powerful reflections on six themes to do with discipleship and vocation, namely, (i) Being disciples, (ii) Faith, hope and love, (iii) Forgiveness, (iv) Holiness, (v) Faith in society and (vi) Life in the Spirit. Each theme is rounded off with a couple of questions for reflection, or even better, for discussion with others.
Bishop Rowan describes the book as being quite simple ‘The aim of this little book is simple: to help you to see more clearly, love more dearly and follow more nearly the way of Jesus Christ.’ It is what we are all called to do, it is in our vocation as Christians to draw more closely to our God, in order that we might share that life-giving love with all those we meet in our daily lives.
Whatever our vocation, be it a calling to public ministry or not, it is all rooted in our discipleship. It’s what underpins our very being, or as Bishop Rowan puts it in this book ‘Discipleship, as the title of this book indicates, is a state of being. Discipleship is about how we live; not just the decisions we make, not just the things we believe, but a state of being.’[1]
So I commend this book to you with all the trepidation I stated at the beginning, with the promise that it will pique your interest, keep you engaged, and impart messages that will last.
[1] Rowan Williams, Being Disciples, London, SPCK, 2016, Pg1.