Sul y Galwedigaethau - Helen Franklin
Dechreuodd y cyfan ar y traeth
Yn fy mlwyddyn gyntaf o weithio, treuliais wythnos o wyliau’n gweithio fel gwirfoddolwr mewn tîm cenhadaeth traeth i Scripture Union. Cyneuodd hynny gariad ynof at weithio gyda phlant, felly ymunais â thîm y plant yn fy eglwys gartref. Cyneuodd gariad ynof at efengyliaeth hefyd - er nad oeddwn yn dda iawn am y gwaith hwnnw. Felly, dechreuais ddarllen llyfrau a mynd ar gyrsiau hyfforddi, a mynd ati’n benderfynol i geisio gwella yn y maes. Yna synhwyrais fod Duw yn fy ngalw i bregethu, ac felly dechreuais hyfforddi yn yr eglwys Fethodistaidd lle’r oeddwn yn aelod. Dair blynedd yn ddiweddarach, roeddwn yn bregethwr lleyg trwyddedig, ac yn dal i weithio gyda phlant, yn dal i weithio ar y tîm cenhadaeth traeth, yn dal i geisio gallu siarad yn well â phobl am Iesu.
Gadewch i ni symud ymlaen 7 mlynedd. Aeth rhywun o Scripture Union oedd yn ymweld â chenhadaeth y traeth yn ôl i’r brif swyddfa a dweud ‘Dw i’n meddwl fy mod wedi cyfarfod efengylydd.’ Roeddwn i’n methu credu bod Duw wedi agor drws fel yma i mi! Ymddeolais o’r rôl flwyddyn yn ôl, yn dilyn mwy na 30 mlynedd ar y staff. Trwy gydol y cyfnod hwnnw, roeddwn yn pregethu’n answyddogol yn yr eglwys Anglicanaidd lle’r wyf yn addoli nawr. Pan newidiodd fy rôl yn y gwaith, daeth fy swydd â mi i Gymru, ac awgrymwyd y dylwn gael trwydded. Yn dilyn dwy flynedd o hyfforddiant yn Sant Padarn, roeddwn yn efengylydd lleyg trwyddedig. Pan gefais fy nghyfweld gan y panel esgobaethol, gofynnwyd i mi a oeddwn wedi ystyried cael fy ordeinio. Nid dyna’r tro cyntaf i rywun ofyn hynny i mi. Ond, roeddwn yn siŵr nad hynny yr oedd Duw yn ei ofyn gennyf… tan ychydig flynyddoedd yn ôl pan ddechreuais deimlo bod Duw YN fy ngalw i fod yn offeiriad! Ac felly, ym mis Mehefin y llynedd cefais fy ordeinio’n ddiacon, ac ar 1 Orffennaf byddaf yn cael fy ordeinio’n offeiriad.
Mae Duw wedi fy arwain mewn cylch cyfan: rwy’n pregethu’n rheolaidd mewn eglwys dim ond milltir i ffwrdd o’r traeth lle cychwynnodd y cwbl. Anhygoel!
Vocations Sunday - Helen Franklin
It all began on a beach
In my first year of work, I spent a week’s holiday as a volunteer on a Scripture Union beach mission team. It gave me a love for working with children, so I joined the children’s team at my home church. It also gave me a love for evangelism - though I wasn’t very good at it. So I began to read books, go to training courses, and just kept trying to improve at it. Then I sensed God calling me to preach, and so began training in the Methodist church where I was a member. Three years later I was licensed as a lay preacher, whilst still working with children, still working on the beach mission team, still trying to be better at talking with people about Jesus.
Fast forward 7 years. A visitor to the beach mission from Scripture Union went back to head office and said ‘I think I’ve found an evangelist.’ I couldn’t believe that God had opened a door such as this! I retired from the role a year ago, after more than 30 years on the staff. Through that time, I preached unofficially in the Anglican church where I now worshipped. A change of role in work brought me to Wales, and the suggestion was that I should be licensed. After two years training with St Padarn’s I was licensed as a lay evangelist. When I was interviewed by the diocesan panel they asked if I had considered being ordained. It wasn’t the first time someone had asked me that. But I was sure that wasn’t what God was asking of me. Until a couple of years ago… when I began to feel that God WAS calling me to be a priest! And so in June last year I was ordained deacon, and on 1 July I shall be ordained priest.
God has brought me full circle: I preach regularly in a church just a mile away from the beach where it all began. Incredible!